Neil Foden: Galw am adolygu polisïau diogelu plant
- Cyhoeddwyd
Mae angen adolygu polisïau diogelu plant ar ôl achos Neil Foden, yn ôl cyn-gomisiynydd.
Cafwyd Foden, 66, yn euog ddydd Mercher o 19 o gyhuddiadau o gam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.
Roedd yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, a bu'n Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes.
Dywedodd y cyn-ddirprwy Gomisiynydd Plant Cymru, Sara Reid, ei bod yn ofni bod yr achos yn dangos na chafodd gwersi eu dysgu yn dilyn adroddiad Clywch yn 2004.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae "diogelwch ein plant a'n pobl ifanc yn flaenoriaeth ddiamod" iddynt.
'Gwersi Clywch heb eu dysgu'
Yn 2004 fe wnaeth adroddiad gan Gomisiynydd Plant cyntaf Cymru ganfod bod y cyn-athro drama John Owen wedi cam-drin plant yn rhywiol yn Ysgol Gyfun Rhydfelen ger Pontypridd dros nifer o flynyddoedd.
Roedd wedi cael ei gyhuddo o bum achos o ymosod yn amhriodol, ond cafodd ei ganfod yn farw mewn carafán ddiwrnod cyn i'r achos yn ei erbyn ddechrau yn 2001.
Un o amcanion yr adroddiad oedd argymell gwelliannau a allai rwystro cam-drin plant yn y dyfodol.
Ms Reid oedd y dirprwy Gomisiynydd Plant pan gafodd adroddiad Clywch ei gyhoeddi, ac mae hi yn galw am adolygiad o sut y cafodd argymhellion yr adroddiad eu gweithredu.
Dywedodd fod achos Foden yn "dystiolaeth glir fod gwersi Clywch heb eu dysgu", gan alw ar yr ysgrifennydd addysg i weithredu.
Yn ystod yr achos clywodd y llys fod pryderon wedi cael eu codi gyda Chyngor Gwynedd am ymddygiad Foden yn 2019, ond ni chafodd ymchwiliad ffurfiol ei gynnal.
Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi y bydd ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal i'r mater.
Datblygiadau wedi dadwneud gwelliannau?
Dywedodd Ms Reid y byddai hi'n siomedig iawn pe nai bai gwir newid wedi digwydd ers i adroddiad Clywch gael ei gyhoeddi 20 mlynedd yn ôl.
Ychwanegodd wrth raglen Newyddion S4C: "Mae angen edrych ymhellach i a ydy datblygiadau newydd wedi dadwneud rhai o'r gwelliannau mewn polisi.
"O'r hyn mae rhai athrawon pryderus wedi dweud wrtha i, mae 'na broblem gyda rhai yn cael eu labelu'n hen-ffasiwn os ydyn nhw'n lleisio pryderon, sy'n debyg i'r ffordd yr oedd rhai o athrawon Rhydfelen yn teimlo [gyda John Owen]."
Dywedodd Llywodraeth Cymru, ers adroddiad Clywch yn 2004, eu bod wedi ceisio sicrhau bod canllawiau diogelu yn cael ei ddiweddaru wrth i bethau ddatblygu, a materion newydd godi.
"Mae'r 16 argymhelliad a wnaed i Lywodraeth Cymru yn yr adroddiad wedi cael eu cwblhau yn llawn," meddai llefarydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai
- Cyhoeddwyd16 Mai
- Cyhoeddwyd15 Mai