Cyhoeddi enw menyw fu farw ar ôl cael ei tharo gan fan

Kim HaileFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Kim Haile ar 18 Ionawr ar ôl cael ei tharo gan fan yn nhref Blaenau

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw'r fenyw 65 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad gyda fan ym Mlaenau Gwent.

Roedd Kim Haile yn cerdded ar Stryd yr Eglwys yn nhref Blaenau pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar 18 Ionawr.

Cafodd yr heddlu a pharafeddygon eu galw i'r safle ond bu farw yn y fan a'r lle.

Mewn datganiad, dywedodd ei theulu bod ei marwolaeth yn gadael "twll enfawr" yn eu bywydau.

"Bydd ei thri mab, ei phump o wyrion a'i brodyr a chwiorydd yn gweld ei cholli yn fawr."

Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un oedd yn teithio ar Stryd yr Eglwys, neu a oedd yn yr ardal, rhwng 10:50 a 11:15 ddydd Sadwrn, 18 Ionawr i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig