O'r archif: Geifr y Glyderau'n brwydro'r eira

Disgrifiad,

Geifr ar fynyddoedd y Glyderau

  • Cyhoeddwyd

Yn dilyn yr eira sydd wedi disgyn yr wythnos hon mae sawl llun trawiadol o fynyddoedd Eryri i'w gweld dan flanced trwchus gwyn.

Yr un oedd yr hanes nôl ym 1962, ond y tro hwn roedd geifr gwyllt mentrus mynyddoedd y Glyderau yn destun stori newyddion.

O ganlyniad i'r eira trwm, roedd y geifr wedi'u gorfodi lawr y mynydd am y tro cyntaf ers blynyddoedd i ardaloedd Nant Peris a Llanberis.

Fel esbonnir y ffermwr lleol Owen Jones wrth y gohebydd Idris Roberts, dyw'r geifr ddim yn anifeiliaid sy'n hawdd iawn eu dal.

Cafodd y cyfweliad yma ei ddarlledu ar raglen O Sul i Sul, nôl yn 1962.