Yr Iseldiroedd yn trechu Cymru'n gyfforddus yn Euro 2025

CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hon oedd gêm gyntaf merched Cymru erioed yn un o'r brif bencampwriaethau rhyngwladol

  • Cyhoeddwyd

Cafodd Cymru eu trechu'n gyfforddus o 0-3 yn erbyn yr Iseldiroedd yn eu gêm gyntaf ym mhencampwriaeth Euro 2025.

Er y canlyniad, roedd hi'n ddiwrnod hanesyddol wrth i dîm merched Cymru wneud eu hymddangosiad cyntaf yn un o'r prif bencampwriaethau.

Roedd Cymru wastad yn gwybod y byddai'n dalcen caled trechu'r Iseldiroedd, gyda thîm Rhian Wilkinson yn 30ain ar restr detholion FIFA, tra bo'r Iseldiroedd yn 11eg, ac wedi ennill y bencampwriaeth yn 2017.

Er y bu hi'n 45 cyntaf addawol i Gymru, fe wnaeth gôl i'r Iseldiroedd yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf newid y gêm yn llwyr.

Ar ôl dwy gôl arall ar ddechrau'r ail hanner, fe wnaeth y gwrthwynebwyr reoli gweddill y gêm, gyda Chymru ddim yn dangos fawr o fygythiad.

Disgrifiad,

Cymru 0-3 Yr Iseldiroedd: Gwyliwch y goliau

Fel y disgwyl, doedd y cyn-gapten Sophie Ingle ddim yn yr 11 oedd yn dechrau, a hithau heb chwarae ers dros flwyddyn oherwydd anaf.

Ar y fainc oedd Ingle felly, ynghyd â'r profiadol Rachel Rowe.

Roedd sioc yn yr amddiffyn, gydag Esther Morgan yn dechrau fel un o dri amddiffynnwr canol gyda Gemma Evans a Rhiannon Roberts, a Lily Woodham a Josie Green fel ôl-asgellwyr.

Hayley Ladd oedd yn dechrau yng nghanol cae gyda'r capten Angharad James, gyda Ceri Holland a Jess Fishlock yn chwarae y tu ôl i'r ymosodwr Hannah Cain.

Cymru v IseldiroeddFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Doedd gan Olivia Clark ddim gobaith arbed ergyd wych Vivianne Miedema ar ddiwedd yr hanner cyntaf

Roedd Cymru dan bwysau o'r cychwyn cyntaf, gydag Olivia Clark yn gorfod arbed ergyd Jill Roord wedi llai na phum munud o chwarae.

Ond fe lwyddodd Cymru i dyfu mewn i'r gêm wedi hynny, ac ychydig iawn oedd rhwng y ddau dîm am yr hanner awr nesaf.

Ychydig iawn o gyfleoedd fu i'r ddau dîm hefyd, cyn i Roord daro'r postyn gydag ergyd bwerus o bellter gyda 10 munud yn weddill yn yr hanner cyntaf.

Roedd hi'n edrych fel bod Cymru am gyrraedd hanner amser yn gyfartal, ond yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf aeth yr Iseldiroedd ar y blaen.

Roedd hi'n ergyd wych gan Vivianne Miedema o ymyl y cwrs cosbi, wrth iddi godi'r bêl tu hwnt i'r afael Clark i sgorio ei 100fed gôl ryngwladol.

Cymru v IseldiroeddFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Victoria Pelova ddyblu mantais yr Iseldiroedd ar ddechrau'r ail hanner

Daeth Ella Powell i'r maes am Esther Morgan ar gyfer yr ail hanner, ond o fewn tri munud aeth Cymru ymhellach ar ei hôl hi.

Fe wnaeth pas Danielle van de Donk ganfod Victoria Pelova yn rhydd yn y cwrt cosbi, ac fe lwyddodd Pelova i orffen yn daclus i gornel isa'r rhwyd.

Funudau'n unig yn ddiweddarach fe wnaeth y trawst achub Cymru o ergyd arall gan Roord, ac roedd hi'n edrych fel y gallai hi fod yn ail hanner hir iawn i'r Cymry.

Esmee Brugts yn sgorio trydedd gôl yr IseldiroeddFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Esmee Brugts yn sgorio trydedd gôl yr Iseldiroedd

Wedi 57 munud daeth trydedd gôl i'r Iseldiroedd.

Eiliadau ar ôl i Jackie Groenen daro'r trawst unwaith eto, fe sgoriodd Esmee Brugts ar y postyn pellaf o groesiad o ochr dde y cwrt cosbi.

Roedd y bêl yn y rhwyd unwaith eto gyda 10 munud yn weddill, ond y tro hwn roedd dihangfa i Gymru am fod Lineth Beerensteyn yn camsefyll.

Daeth rhagor o gyfleoedd i'r Iseldiroedd tua'r diwedd hefyd, ac mewn gwirionedd fe allai wedi bod yn llawer gwaeth na'r 3-0 yr oedd hi ar y chwiban olaf.

Cefnogwyr CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae amcangyfrif bod tua 4,000 o gefnogwyr Cymru wedi gwneud y daith i'w Swistir

Er y canlyniad, roedd hi'n ddiwrnod hanesyddol, wrth i ferched Cymru chwarae eu gêm gyntaf yn un o brif bencampwriaethau rhyngwladol y byd.

Fe fydd y garfan nawr yn troi eu golygon at St Gallen, ble byddan nhw'n herio Ffrainc nos Fercher.

Ar ôl hynny fe fyddan nhw'n wynebu'r deiliaid Lloegr yn yr un ddinas yn eu gêm olaf yn y grŵp nos Sul nesaf.

Bydd Lloegr a Ffrainc yn wynebu'i gilydd yn y gêm arall yng ngrŵp D yn hwyrach nos Sadwrn.