Y chwilio am fachgen bregus yn canolbwyntio ar y môr

Cafodd Athrun ei weld diwethaf ar draeth Pen Morfa yn Llandudno brynhawn Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu sy'n chwilio am fachgen 16 oed a ddiflannodd yn Llandudno dros y penwythnos bellach yn canolbwyntio eu hymdrechion ar y môr.
Disgrifiwyd y bachgen o'r enw Athrun, sy'n dod o Sir Gaerloyw, fel "bregus".
Cafodd ei weld ddiwethaf ar draeth Pen Morfa yn y dref am 14:00 ddydd Sadwrn.
Y tro diwethaf iddo gael ei weld, roedd ond yn gwisgo siorts nofio.
Mae tîm chwilio tanddwr arbenigol wedi bod ar y safle fore Llun, ac fe fyddan nhw'n parhau i chwilio drwy'r prynhawn.

Mae'r heddlu bellach yn canolbwyntio eu hymdrechion ar chwilio'r môr
Fe gafodd yr heddlu gymorth dros y penwythnos gan wasanaeth awyr yr heddlu, timau cŵn chwilio a gwylwyr y glannau, fu'n defnyddio nifer o fadau achub a hofrennydd.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi apelio i'r cyhoedd a oedd o bosib wedi tynnu lluniau tra'n mwynhau'r traeth dros y penwythnos.
Diolchodd yr heddlu am y cymorth a gafwyd, gan ddweud bod y wybodaeth wedi arwain at y penderfyniad i ganolbwyntio'r chwilio ddydd Llun ar y môr ger arfordir Llandudno.

Dywedodd y Prif Arolygydd, Trystan Bevan, fod "y swyddogion iawn yn y llefydd iawn"
Dywedodd y Prif Arolygydd, Trystan Bevan, fod gan yr heddlu "swyddogion allan yn archwilio'r ardal o gwmpas Llandudno ac yr ardal o gwmpas Conwy".
"Ma' swyddogion o'r tîm sy'n edrych o dan dŵr wedi bod yn yr ardal heddiw 'ma yn edrych hefo ni ac yn helpu.
"Hefyd, ma' gennym swyddogion a Gwylwyr y Glannau yn edrych ar hyd yr ochra', a hefyd yn mynd lawr am ardal Deganwy, a lawr am Conwy ei hun," meddai.
"Ar ddiwedd y dydd mae o'n fachgen 16 oed, a'r unig beth mae o'n wisgo ydi trunks nofio, does ganddo fo ddim sgidia', does ganddo fo ddim dillad arall."
Ychwanegodd fod y "tywydd yn troi yn fama, a da' ni angen cael hyd iddo fo mor handi â phosib".
"Dwi 'di cyfarfod hefo'r teulu heddiw 'ma, a'r mwya' hir ma'r ymchwiliad yma'n mynd ymlaen, yr anodda' ydy hi i bawb.
"Ond ma'r swyddogion iawn yn y llefydd iawn, yn neud y gwaith fel da' ni'n medru ar hyn o bryd," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl