Plismon yn ddieuog o ymosod wrth arestio dyn ym Mhorthmadog

PC Richard Williams
Disgrifiad o’r llun,

Roedd PC Richard Williams wedi gwadu tagu bwriadol ac ymosod gan achosi niwed corfforol

  • Cyhoeddwyd

Mae plismon gyda Heddlu Gogledd Cymru wedi ei ganfod yn ddieuog o dagu bwriadol ac ymosod gan achosi niwed corfforol i ddyn yr oedd yn ceisio ei arestio.

Roedd PC Richard Williams, 43, yn ceisio rhoi cyffion ar Steven Clark mewn gardd o flaen eiddo ym Mhorthmadog ym mis Mai 2023, pan wthiodd Mr Clark gydweithiwr PC Williams i'r llawr.

Wrth i PC Williams roi cyffion ar Mr Clark, fe wnaeth tensiynau godi gyda'r ddau swyddog a Mr Clark ar y gwair o flaen yr eiddo.

Cyfaddefodd PC Williams ei fod wedi rhoi Mr Clark mewn clo pen a'i ddyrnu yn ei wyneb sawl gwaith.

Ond penderfynodd y rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau fod PC Williams yn gweithredu er mwyn amddiffyn ei hun yn erbyn dyn yr oedd o'r farn ei fod yn dreisgar a dan ddylanwad cyffuriau.

Disgrifiad,

Cafodd y fideo yma ei ddangos i'r rheithgor ar ôl cael ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol wedi'r digwyddiad

Clywodd y llys fod PC Richard Williams a chydweithiwr wedi mynd i gyfeiriad ym Mhorthmadog ym mis Mai 2023 yn dilyn galwad am drais domestig.

Penderfynon nhw fod angen iddyn nhw arestio Steven Clark yn ddiweddarach, ond wrth i PC Williams geisio rhoi cyffion arno, aeth Mr Clark yn syth tuag at y swyddog arall fel pe bai yn rhoi "tacl rygbi" iddi, gan ei tharo i'r llawr.

Disgrifiodd PC Williams sut y gwnaeth Steven Clark wrthsefyll yn erbyn cael ei arestio.

Cyfaddefodd ei fod wedi dyrnu Mr Clark yn ei wyneb naw gwaith, ond dywedodd mai ergydion er mwyn "tynnu sylw" Mr Clark oedd rhain, er mwyn ei atal rhag gwrthsefyll.

Cafodd y rheithgor PC Williams yn ddieuog ar ddiwedd achos a barodd am saith diwrnod.

Cafodd PC Williams ei atal o'i waith gan yr heddlu tan i'r achos ddod i ben.

Achos disgyblu yn bosib

Dywedodd dirprwy brif swyddog Heddlu Gogledd Cymru, Nigel Harrison: "Rydym yn cydnabod penderfyniad y llys a wnaeth ganfod PC Williams yn ddieuog o ymosod ar ôl gweld yr holl dystiolaeth.

"Mae swyddogion heddlu yn gorfod wynebu gwrthdaro yn ddyddiol, sy'n gofyn am wneud penderfyniadau brys i gadw'r cyhoedd yn ddiogel.

"Mae ymchwiliad annibynnol wedi'i gynnal yn dilyn pryder am faint y grym a gafodd ei ddefnyddio."

Ychwanegodd fod y llu bellach yn "cydlynu â Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) ar gyfer unrhyw weithdrefnau camymddwyn posib."

Cadarnhaodd yr IOPC, a ymchwiliodd i'r digwyddiad, y byddan nhw'n gweithio gyda Heddlu'r Gogledd ar unrhyw wrandawiad disgyblu posib yn erbyn PC Williams.

Dywedon nhw y byddai unrhyw wrandawiad disgyblu yn cael ei drin fel honiad o gamymddwyn difrifol.