Plismon yn dweud nad ei fwriad oedd anafu dyn wrth ei arestio

PC Richard Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae PC Richard Williams yn gwadu tagu bwriadol ac ymosod gan achosi niwed corfforol

  • Cyhoeddwyd

Mae plismon gyda Heddlu'r Gogledd wedi dweud wrth lys nad oedd yn dymuno achosi niwed i ddyn y mae wedi'i gyhuddo o ymosod arno wrth ei arestio.

Mae Cwnstabl Richard Williams, 43, yn gwadu tagu bwriadol ac yn gwadu ymosod gan achosi niwed corfforol i Steven Clark ym mis Mai 2023.

Wrth roi tystiolaeth yn Llys y Goron Caernarfon, disgrifiodd sut yr ymosododd Mr Clark ar ei gydweithiwr, gan ei tharo i'r llawr tra bod y ddau yn ceisio ei arestio.

Cyfaddefodd PC Williams ei fod wedi dyrnu Mr Clark yn ei wyneb.

Ond fe ddisgrifiodd y dyrnu fel ergydion i dynnu sylw Mr Clark pan oedd y ddau yn gorwedd ar lawr ac nad oedd modd iddo gyrraedd y taser oedd ganddo na'i faton.

Clywodd y llys fod PC Richard Williams a'i gydweithiwr, PC Einir Williams, wedi mynd i eiddo ym Mhorthmadog, Gwynedd ym mis Mai 2023 i ymateb i alwad o drais domestig.

Fe benderfynon nhw fod angen arestio Steven Clark, ond wrth i PC Richard Williams geisio rhoi cyffion ar arddyrnau Mr Clark fe aeth yn syth at PC Einir Williams.

Disgrifiodd PC Richard Williams hynny fel "tacl rygbi", gan ei tharo i'r llawr.

Disgrifiodd PC Williams sut y llwyddodd i dynnu Steven Clark i ffwrdd, ond fod y ddau ohonyn nhw ar y llawr tu allan.

'Pryderu am ein diogelwch'

Dywedodd wrth y llys: "Roedd gen i fy nwylo o'i gwmpas, a arweiniodd yn naturiol at headlock ond fe barhaodd i wrthsefyll – roedd yn tynnu oddi wrthyf.

"Ro'n i'n pryderu am fy niogelwch i a diogelwch fy nghydweithiwr.

"Fe wnes i ei ddyrnu nifer o weithiau gyda fy llaw chwith. Fy llaw wanaf ydi hon, ond dyma'r unig law rydd.

"Dyrniadau bach oedd y cwbl o'n i'n gallu ei wneud er mwyn ceisio tynnu ei sylw, i'w atal rhag gwrthsefyll.

"Roedden ni'n gorwedd ar y llawr a doedd dim modd i mi gyrraedd y baton, y taser na'r chwistrell [incapacitant spray].

"Doedden ni ddim eisiau brifo Steven Clark ar unrhyw adeg."

Llys y Goron Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r achos yn Llys y Goron Caernarfon yn parhau

Roedd y ddau heddwas yn gwisgo camerâu ar eu cyrff, a wnaeth gofnodi llawer o'r digwyddiad.

Dywedodd Richard Edwards, bargyfreithiwr yr erlyniad, wrth PC Williams fod y dystiolaeth fideo yn rhoi darlun gwahanol iawn.

Wrth ei groesholi, dywedodd wrth PC Williams fod Steven Clark wedi ymateb fel y gwnaeth oherwydd ei fod mewn poen pan nad oedd rhan gyntaf y cyffion wedi'u gosod yn iawn.

"A wnaethoch chi dagu Steven Clark yn fwriadol?" gofynnodd i'r swyddog.

"Na," atebodd PC Williams.

"Wnaethoch chi ymosod yn anghyfreithlon ar Steven Clark?"

Unwaith eto, fe atebodd: "Na."

Yn ddiweddarach, fe wnaeth cydweithiwr Cwnstabl Richard Williams - Cwnstabl Einir Williams - ddweud wrth y llys ei bod "ofn" wrth i Steven Clark wrthsefyll tra'n cael ei arestio.

"Mi wnaeth o fy ngwthio gyda'i fraich, mi nes i ddisgyn am yn ôl, mi wnaeth o wthio gyda grym, a do'n i ddim yn ei ddisgwyl," meddai PC Einir Williams.

"O'n i'n ceisio dweud wrtho i beidio gwrthsefyll, ond mi oedd o'n tynhau ei gorff ac yn fy nghicio."

Mae'r achos yn parhau.