Teyrnged i ddyn o Aberystwyth fu farw ar yr A470

Gareth StephensonFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gareth Stephenson yn dod o ardal Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn o Aberystwyth a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A470 y penwythnos diwethaf wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Gareth Stephenson wedi gwrthdrawiad rhwng car a lori ar y ffordd rhwng Llanidloes a Llandinam tua 22:30 nos Sul.

Hyundai i10 a lori wen oedd y ddau gerbyd oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad.

Roedd Mr Stephenson yn gyrru'r Hyundai.

'Goleuo pob ystafell'

Dywedodd ei deulu mewn datganiad: "Ni all geiriau ddisgrifio maint y boen y mae'r golled yma wedi'i hachosi i'n teulu ac a fydd, heb os, yn achosi i'r bobl y mae Gareth wedi'u 'nabod drwy gydol ei oes.

"Roedd Gareth yn goleuo pob ystafell gyda'i wên heintus, ac roedd wastad yn gwybod sut i wneud i bobl chwerthin - boed hynny trwy ei gariad at ganu, dawnsio a phopeth dramatig, neu fod yn ef ei hun.

"Rydyn ni'n gwybod bod Gareth yn boblogaidd iawn ac y bydd cymaint o bobl yn gweld ei eisiau.

"Rydyn ni fel teulu wedi cael ein syfrdanu gyda'r negeseuon o gefnogaeth a chariad rydyn ni wedi'u derbyn gan gymaint o bobl, ac rydyn ni'n cymryd cysur o wybod bod Gareth wedi cael effaith mor fawr ar gymaint o bobl."

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau dash-cam allai fod o fudd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.