Carchar i gwpl ar ôl i blentyn ddioddef anafiadau 'ofnadwy' gan gi

Kayleigh Godbert, 39, a Thomas Moir, 38,Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kayleigh Godbert a Thomas Moir eu carcharu am flwyddyn a hanner

  • Cyhoeddwyd

Mae cwpl wedi'u carcharu am 18 mis ar ôl i'w ci ymosod ar blentyn a gadael clwyf enfawr ar ei wyneb.

Dywedodd barnwr ddydd Gwener fod Kayleigh Godbert, 39, a Thomas Moir, 38, yn ffodus nad oedden nhw'n wynebu cyhuddiad o ddynladdiad.

Roedd y plentyn yn lwcus i fod yn fyw, meddai'r Barnwr Simon Mills yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.

Roedd delwedd o wyneb y plentyn cyn llawdriniaeth yn "syfrdanol" ac un rhwygiad yn "hollol ofnadwy", meddai.

Cafodd y plentyn ei frathu gan y ci Akita Japaneaidd o leiaf chwe gwaith.

Cyfaddefodd Godbert a Moir fod yn gyfrifol am gi peryglus allan o reolaeth o'r enw Nuqe a achosodd anaf. Roedd y ci wedi brathu rhywun o'r blaen, meddai'r erlyniad.

Dywedodd y Barnwr Mills wrth y cwpl fod yr anafiadau'n "ddychrynllyd" a bod yr hyn a ddigwyddodd oherwydd "esgeulustod llwyr" y diffynyddion.

'Dangos ychydig iawn o edifeirwch'

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl James Grimwood o Heddlu Gogledd Cymru: "Roedd hwn yn ddigwyddiad erchyll ac yn anffodus mae wedi arwain at anafiadau difrifol a pharhaol i blentyn bregus.

"Mae Moir a Godbert wedi dangos ychydig iawn o edifeirwch drwy gydol yr ymchwiliad hwn er gwaethaf y canlyniadau gydol oes y mae eu gweithredoedd wedi'u cael ar blentyn ifanc.

"Mae canlyniad y llys yn adlewyrchu difrifoldeb y digwyddiad hwn, a gobeithio bod hyn yn anfon neges at unrhyw berchnogion cŵn i sicrhau nad ydynt yn gadael eu cŵn ar eu pen eu hunain gyda phlant.

"Byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth neu bryderon ynghylch ci peryglus i roi gwybod am hyn i Heddlu Gogledd Cymru drwy 101 neu drwy Crimestoppers."

Cafodd Moir a Godbert eu carcharu am 18 mis a'u gwahardd rhag cadw ci am saith mlynedd.