Nyrs dementia, 84, yn dal i ofalu am gleifion ym Môn

Daisy Richards Ffynhonnell y llun, Gwobrau Gofal Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Daisy Richards wedi gweithio fel nyrs ers 1958

  • Cyhoeddwyd

Mae nyrs 84 oed o Fôn, y nyrs hynaf ym Mhrydain mae'n debyg, wedi ei henwebu am wobr am ei gwasanaeth.

Fe wnaeth Daisy Richards o Langefni gymhwyso fel nyrs ym 1958 ac mae'n dal i weithio’n llawn amser mewn cartref gofal dementia yn Llanfairpwllgwyngyll.

Mae hi wedi cyrraedd rhestr fer gwobr gwasanaeth eithriadol yng Ngwobrau Gofal Cymru - seremon sy'n cael ei chynnal yng Nghaerdydd wythnos nesaf.

"Bob dydd dwi'n dod i'r gwaith, dwi'n mwynhau fy ngwaith, mae'n rhaid," meddai.

Daisy RichardsFfynhonnell y llun, Mandy Jones Gwobrau Gofal Cymru
Disgrifiad o’r llun,

“Rhaid i mi ddweud bod miloedd o nyrsys yn yr un sefyllfa â fi ac yn gwneud y math hwn o waith,” meddai

“Mae’n wir fy mod yn gofalu am bobl iau na fi, a dwi'n mwynhau.

"Dros y blynyddoedd mae nyrsio wedi esblygu, ond mae rhai pethau'n aros yr un peth ac mae hynny'n cynnwys sut rydyn ni'n gofalu am bobl mewn cartrefi gofal.

"Eu cartref nhw ydi o, ac rydyn ni yna i'w helpu, ac mae hynny'n golygu bod rhaid i'r gofal fod yn ardderchog," ychwanegodd.

Cafodd Ms Richards ei henwebu am wobr gan Rebekah Charles, rheolwr y cartref gofal.

“Mae ei hagwedd yn adlewyrchu gwerthoedd metron hen deip, lle mae disgwyl gwasanaeth rhagorol wrth ddarparu gofal - o’r manylion lleiaf fel gwneud gwelyau i weinyddu meddyginiaeth,” meddai Ms Charles.

“Mae ymroddiad Daisy i safonau uchel yn gosod nod ar gyfer y tîm cyfan, gan sicrhau fod preswylwyr yn derbyn gofal o’r ansawdd gorau.”

Dechreuodd Ms Richards ei gyrfa yn ne Lloegr a symudodd i Ynys Môn yn 1972, gan weithio mewn ysbyty ym Mangor gerllaw.

Ar ôl cyfnod yn gweithio fel nyrs ardal ar Ynys Môn symudodd i ofalu am gleifion hŷn.

Tra bod eraill o'i hoedran wedi ymddeol ers amser maith mae hi'n dal i weithio tair shifft 12 awr yr wythnos.

Dywedodd Ms Richards ei bod yn anrhydedd cael ei henwebu ar gyfer y wobr.

“Ond rhaid i mi ddweud bod miloedd o nyrsys yn yr un sefyllfa â fi ac yn gwneud y math hwn o waith,” meddai.

Pynciau cysylltiedig