Aelodau'r Senedd yn rhoi teyrnged i'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas
Teyrnged y Prif Weinidog Eluned Morgan i'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas
- Cyhoeddwyd
Mae Aelodau Senedd Cymru wedi rhoi teyrnged i gyn-arweinydd Plaid Cymru a Llywydd cynta'r Cynulliad Cenedlaethol, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.
Bu farw yr wythnos ddiwethaf yn 78 oed ar ôl salwch byr.
Ar ddechrau'r cyfarfod brynhawn Mawrth, gofynnodd y Llywydd presennol Elin Jones i'r aelodau sefyll ar gyfer munud o dawelwch er cof amdano.
Cafodd ei ddisgrifio gan Brif Weinidog Cymru Eluned Morgan fel "cawr gwleidyddol gydag ochr ddrygionus".
Cyfeiriodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth ato fel "y gweledydd o wleidydd".
Dywedodd arweinydd y grŵp Ceidwadol Darren Millar bod yr Arglwydd Elis-Thomas wedi sicrhau bod Senedd Cymru "wrth galon ein bywyd cenedlaethol".
![Aelodau o'r Senedd yn sefyll](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1680/cpsprodpb/8056/live/0c097f40-e888-11ef-acf4-d3a321e6d53f.png)
Aelodau o'r Senedd yn sefyll ar gyfer munud o dawelwch er cof am Dafydd Elis-Thomas
Dywedodd Elin Jones bod gwerthfawrogiad y Senedd yn fawr am 12 mlynedd Dafydd Elis-Thomas fel y Llywydd.
"Ei waddol yw Senedd gadarn i'w genedl, a mae honno'n dipyn o waddol," meddai.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod Dafydd Elis-Thomas wedi bod "yn ddylanwad, yn ysbrydoliaeth mewn gymaint o wahanol ffyrdd".
"Ond i ni i gyd, o fore oes ein democratiaeth ni, mi oedd Dafydd yno i'n tywys," meddai.
"Roedd e'n gymeriad rhyfeddol," meddai Eluned Morgan. "Cawr gwleidyddol gydag ochr ddrygionus."
"Roedd e'n feistr ar adeiladu pontydd gwleidyddol a llwyddodd i wneud hynny tra'n ymddangos yn gwbl ddiymdrech, bob amser yn egwyddorol, bob amser yn adeiladol."
Fideo yn edrych yn ôl ar yrfa'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas
Wrth roi teyrnged ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig dywedodd arweinydd y blaid Jane Dodds: "Rydym ni fel aelodau yma oherwydd bod aelodau fel Dafydd Elis-Thomas wedi troedio o'n blaenau ni a chreu llwybr i sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i Gymru."
'Adeiladu'r genedl wleidyddol Gymreig'
Yn ôl cyn-arweinydd Plaid Cymru Adam Price, roedd Dafydd Elis-Thomas "yn sicr yn rhywun a ymhyfrydai yn ei wrthddywediadau ei hun".
"Y radical a oedd wrth ei fodd â thraddodiad; y cenedlaetholwr Cymreig yn sgwrsio'n gyfforddus â theulu brenhinol Lloegr.
"Ond, er gwaetha'r gwrthddywediadau, roedd y cysondeb nid yn y dull, ond y nod, y nod a oedd bob amser yr un peth, sef adeiladu'r genedl wleidyddol Gymreig."
Dywedodd Sam Kurtz o'r Ceidwadwyr bod Dafydd Elis-Thomas yn "gawr o wleidyddiaeth Cymru, cymeriad, a chyfaill i lawer".
Ychwanegodd AS Dwyfor Meirionnydd Mabon ap Gwynfor bod cael olynu Dafydd Elis-Thomas fel cynrychiolydd yr etholaeth yn y Senedd yn "destun balchder".
"Er yn wleidydd anghonfensiynol ac enigmataidd, roedd yna edefyn clir yn rhedeg trwy ei fywyd gwleidyddol, sef ei angerdd dros Gymru, ei phobl a'i diwylliant cyfoethog, ac roedd y bobl yn hoff iawn ohono fo hefyd," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl