'Trist' nad oedd Dafydd Elis-Thomas wedi ailymuno â Plaid - Dafydd Wigley

Dafydd Wigley a Dafydd Elis-Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Wigley a Dafydd Elis-Thomas y tu allan i Dŷ'r Cyffredin

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Arglwydd Wigley wedi dweud y byddai wedi hoffi gweld ei gyn-gydweithiwr Plaid Cymru, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, yn dychwelyd i'r blaid cyn ei farwolaeth.

Daeth y cyhoeddiad fore Gwener bod yr Arglwydd Elis-Thomas, cyn-arweinydd Plaid Cymru a Llywydd cyntaf y Senedd, wedi marw yn 78 oed.

Fe adawodd yr Arglwydd Elis-Thomas Blaid Cymru yn 2016 gan gyhuddo'r blaid o "fod yn anfodlon i chwarae rôl mwy cadarnhaol gyda Llywodraeth Lafur Cymru".

Dywedodd ei gofiannydd, Aled Eirug, ar BBC Politics Wales fod Plaid Cymru wedi "ymddwyn braidd yn ddi-raen" pan wnaeth gais i ailymuno â'r blaid yn 2023.

Mae Plaid Cymru wedi cael cais am sylw.

Dafydd Wigley
Disgrifiad o’r llun,

"Yn y sgwrs olaf ges i hefo Dafydd, roedden ni'n obeithiol y byddai'r ddau ohonom yn cydweithio yn Nhŷ'r Arglwyddi ar yr agenda Gymraeg," meddai'r Arglwydd Wigley

Pan ofynnwyd iddo ar BBC Politics Wales a fyddai wedi hoffi gweld ei gyn-gydweithiwr yn dychwelyd i'r blaid, dywedodd yr Arglwydd Dafydd Wigley: "O yn fawr iawn. Roeddwn i'n difaru'n fawr ei fod wedi mynd".

Dywedodd yr Arglwydd Wigley bod "amodau wedi cael eu gosod ac nad oedd yn fodlon cyd-fynd â'r amodau hynny."

Dywedodd Aled Eirug fod Dafydd Elis-Thomas wedi "eisiau dod yn ôl a'i fod yn awyddus iawn" i ddychwelyd i'r blaid o dan arweiniad Rhun ap Iorwerth.

"Ond yn hytrach na chroesawu rhywun oedd wedi bod o wasanaeth i'r blaid ers hanner can mlynedd a mwy, fe wnaethon nhw greu tribiwnlys a phroses ddisgyblu oedd yn rhoi record Dafydd i un ochr yn llwyr", meddai.

Dywedodd yr Arglwydd Wigley iddo siarad diwethaf â'i gyn-gydweithiwr, y cafodd ei ethol i'r Senedd ag ef yn 1974, dros flwyddyn yn ôl, cyn iddo roi'r gorau ar ei gais i ailymuno.

"Yn y sgwrs olaf ges i hefo Dafydd, roedden ni'n obeithiol y byddai'r ddau ohonom yn cydweithio yn Nhŷ'r Arglwyddi ar yr agenda Gymraeg, ac roeddwn yn drist iawn bod hynna heb ddigwydd."

Pynciau cysylltiedig