'Dylai gwasanaethau cymorth i farw fod ar gael yn y Gymraeg'

Mae'r Farwnes Smith yn dweud bod ganddi "bryder" am effaith cyfansoddiadol y bil ar Gymru
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai gwasanaethau cymorth i farw fod ar gael yn y Gymraeg, yn ôl Aelod Plaid Cymru o Dŷ'r Arglwyddi.
Mae'r Farwnes Smith o Lanfaes yn dweud ei bod hi'n bwysig fod y rhai sy'n trafod gwasanaethau o'r fath gyda meddyg yn gallu gwneud hynny "yn eu mamiaith".
Daw ei sylwadau wrth i Aelodau Tŷ'r Arglwyddi drafod y bil cymorth i farw - fyddai'n gweld pobl yng Nghymru a Lloegr yn gallu derbyn y cymorth i ddod â'u bywydau i ben os yw'n dod yn gyfraith.
"Dychmygwch orfod trafod materion mor sensitif â hynny gyda'ch meddyg teulu, a chithau methu defnyddio eich iaith gyntaf," meddai'r Farwnes Smith.
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd28 Mawrth
- Cyhoeddwyd20 Mehefin
Mae'r Farwnes Smith yn dweud ei bod yn cefnogi gwelliant i'r bil a gafodd ei gynnig gan aelod Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville-Roberts.
Mae'r gwelliant yn awgrymu y dylid gwneud pob ymdrech rhesymol i sicrhau mynediad at wasanaethau cymorth i farw trwy gyfrwng y Gymraeg.
Er ei bod yn cytuno gydag egwyddor y bil, mae'r Farwnes Smith yn dweud bod ganddi "bryder sylweddol" am yr effaith cyfansoddiadol ar Gymru, gan fod iechyd yn fater sydd wedi ei ddatganoli.

Mae'n hanfodol bod pobl yn cael defnyddio'r Gymraeg wrth drafod cymorth i farw, meddai Liz Saville-Roberts
Fis Hydref, fe wnaeth Aelodau'r Senedd - gan gynnwys y Prif Weinidog Eluned Morgan a'r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles - bleidleisio yn erbyn yr egwyddor o gymorth i farw.
Cafodd cynnig trawsbleidiol ei wrthod, a oedd yn cynnig cefnogaeth, mewn egwyddor, pe bai Llywodraeth San Steffan yn cyflwyno mesur yn ymwneud â chymorth i farw.
Roedd rhai a oedd yn gwrthwynebu'r cynnig yn ofni y gallai "agor y drws" at bethau eraill, a gallai olygu na fyddai'r henoed a phobl anabl yn cael eu hamddiffyn yn y dyfodol.
Ym mis Gorffennaf daeth cadarnhad mai Senedd Cymru fyddai'n penderfynu os yw pobl yn gallu derbyn y cymorth i ddod â'u bywydau i ben ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru neu ddim.
Mater i lywodraeth nesaf Cymru fydd hynny, ac i Senedd newydd Cymru gytuno iddo mewn pleidlais.
Dywedodd y Farwnes Smith fod y ffaith nad oes angen cymeradwyaeth y llywodraethau datganoledig er mwyn pasio'r bil bellach yn "anffodus iawn".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.