Cymorth i farw: Rhoi'r hawl i bobl ddefnyddio'r Gymraeg

Liz Saville RobertsFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Liz Saville Roberts ei bod yn hollbwysig bod pobl yn cael trafod mater mor sensitif yn eu hiaith gyntaf

  • Cyhoeddwyd

Mae'n hanfodol bod pobl yn cael defnyddio'r Gymraeg wrth drafod cymorth i farw yn y dyfodol, yn ôl gwleidydd o Gymru.

Mae'r bil cymorth i farw wedi cael sylw yn San Steffan eto yr wythnos hon, wrth i ASau gwblhau'r gwaith o graffu ar ei gynnwys.

Ymhlith y gwelliannau sydd wedi eu derbyn dros y dyddiau diwethaf yw'r hawl i bobl i drafod y mater gydag arbenigwyr trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cafodd y gwelliant ei gyflwyno gan aelod Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville-Roberts.

Dywedodd fod yn "rhaid i bobl fedru mynegi eu hunain yn yr iaith y maen nhw'n fwyaf cyfforddus ynddo".

Ym mis Tachwedd, pleidleisiodd Aelodau Seneddol o blaid caniatáu i oedolion sy'n derfynol wael gael cymorth i ddod â'u bywydau i ben.

Fe bleidleisiodd 330 o ASau o blaid gyda 275 yn erbyn, yn dilyn dadl a barodd tua phump awr yn San Steffan.

Fe fydd misoedd o waith craffu a phleidleisio pellach yn San Steffan cyn y gallai'r mesur ddod yn gyfraith, ac mae dal yn bosib na fydd y gyfraith yn newid yn y pendraw.

Mae'n fesur dadleuol, gyda nifer yn cymharu arwyddocâd y bleidlais â digwyddiadau fel cyfreithloni erthyliad neu ddileu'r gosb eithaf.

'Cyfieithwyr ddim yn briodol'

Fis Chwefror fe wnaeth grŵp o feddygon alw ar Aelodau Seneddol Cymreig i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ei hystyried yn y mesur.

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Liz Saville Roberts, a gyflwynodd y gwelliant yn ymwneud â'r Gymraeg ei fod yn "bwysig iawn bod hyn ar wyneb y mesur o ran San Steffan".

Ychwanegodd fod 'na "gyfrifoldeb ar weinidogion Cymru i sicrhau fod 'na bobl, cyn gymaint â medra ni o bobl, ac i ni fod yn cynllunio yn sicr i roi blaenoriaeth i'r claf".

Dywedodd ei bod wedi gweld yr angen am yr hawl i allu trafod y pwnc yn y Gymraeg ar bob cam o'r daith, ers y cychwyn.

"Mae'r Gymraeg yn bwysig yn fy marn i fan hyn, nid just oherwydd y ddogfenaeth... ond hefyd pan dy'n ni'n dod i'r sefyllfa hynod sensitif 'ma, fod gennyn nhw hawl i wneud y trafodaethau yma trwy gyfrwng y Gymraeg a hynny trwy gydol y broses.

"Dwi ddim yn meddwl fod o'n briodol fod pobl yn gorfod gofyn pob cam o'r ffordd, a dwi ddim yn meddwl fod o'n briodol chwaith fod dehonglwyr neu gyfieithwyr yn cael eu cynnig iddyn nhw."

Roedd o'r farn fod angen i "weinidogion Cymru ymafael â hyn achos mae'r goblygiadau i'r gwasanaeth iechyd yn sylweddol iawn".

"Mae'r goblygiadau i hawliau pobl sâl yng Nghymru yn sylweddol yn ogystal.

"Mae safguarding yn hynod o bwysig ar un ochr, a rhoi mwy o rym i bobl benderfynu sut maen nhw'n mynd i farw - rhywbeth dwi'n bersonol yn teimlo yn hawl pwysig."