ASau yn pleidleisio o blaid sefydlu cyfraith cymorth i farw

Mae nifer wedi lleisio barn o blaid ac yn erbyn y mesur
- Cyhoeddwyd
Mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio o blaid mesur fyddai'n caniatáu i bobl yng Nghymru a Lloegr sy'n nesáu at ddiwedd eu bywyd i gael cymorth meddygol i farw.
Roedd 314 o ASau o blaid, a 291 yn erbyn.
Bydd y mesur yn caniatáu i bobl dros 18 oed yng Nghymru a Lloegr y mae disgwyl iddyn nhw farw o fewn chwe mis gael cymorth meddygol i ddod â'u bywyd i ben.
Mae'r rheiny o blaid y mesur yn dweud ei bod yn deg bod pobl yn cael penderfynu eu hunain pryd i ddod â'u bywyd i ben os ydyn nhw'n dioddef.
Ond mae gwrthwynebwyr yn dweud bod y cynlluniau'n "anniogel".
- Cyhoeddwyd12 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd28 Mawrth
Fel rhan o'r datblygiadau yn San Steffan ddydd Gwener, mae'r Senedd wedi colli'r hawl i benderfynu a fyddai'r mesur yn dod i rym yng Nghymru hefyd.
Fe wnaeth Tŷ'r Cyffredin wrthdroi newid a gafodd ei wneud i'r mesur yn gynharach, a fyddai wedi rhoi'r pŵer i Aelodau'r Senedd benderfynu a fyddai'r gyfraith yn dod i rym yng Nghymru ai peidio.
Ond bellach, bydd modd i'r Senedd basio rheoliadau ar wasanaethau hawl i farw yng Nghymru, ond bydd modd i Lywodraeth y DU wneud hynny hefyd.
Er hynny, mae'r Senedd dal yn wynebu penderfyniad sylweddol ar a ydyn nhw am roi caniatâd i'r ddeddfwriaeth, ac mae disgwyl pleidlais ar hynny yn yr hydref.
Ni fydd yn ymrwymiad cyfreithiol, ond byddai disgwyl iddo gael ei barchu gan Senedd y DU, ac fe allai awgrymu a ydy Llywodraeth Cymru'n fodlon pasio eu rheoliadau eu hunain ynglŷn â sut fyddai'r system yn gweithio.
Ond dyw hi ddim yn eglur beth fyddai'n digwydd pe na bai'r Senedd yn cymeradwyo'r ddeddfwriaeth.

Ar AS Llafur Kim Leadbeater sydd wedi cyflwyno'r mesur
Pan bleidleisiodd ASau ar y mesur ym mis Tachwedd fe bleidleisiodd 330 o blaid a 275 yn erbyn.
O blith y 32 AS o Gymru, pleidleisiodd 23 o blaid a chwech yn erbyn. Fe wnaeth tri beidio pleidleisio.
Cyn y bleidlais dywedodd AS Llafur dros Fro Morgannwg Kanishka Narayan y byddai'n pleidleisio yn erbyn y mesur ddydd Gwener ar ôl pleidleisio o blaid ym mis Tachwedd.
Dywedodd ei fod o blaid cymorth i farw "mewn egwyddor" ond nad oedd yn credu bod y mesur yn ddigon cadarn i ddiogelu pobl fregus.

Roedd ymgyrchwyr o blaid ac yn erbyn y mesur ar strydoedd Llundain ddydd Gwener
Roedd yr ASau Llafur Tonia Antoniazzi, Alex Barros-Curtis, Torsten Bell, Chris Bryant, Alex Davies-Jones, Chris Elmore ac Catherine Fookes ymhlith y rhai wnaeth bleidio o blaid y mesur.
Fe wnaeth Gill German, Becky Gittins, Claire Hughes, Gerald Jones, Stephen Kinnock ac Anna McMorrin hefyd bleidleisio o blaid, ynghyd â Jessica Morden, Andrew Ranger, Jo Stevens a Nick Smith.
Fe wnaeth Mark Tami, Henry Tufnell a Steve Witherden belidleisio o blaid y mesur, ynghyd ag AS y Democratwyr Ryddfrydol, David Chadwick, ac ASau Plaid Cymru Ben Lake, Llinos Medi a Liz Saville-Roberts.
Roedd Ann Davies, AS Plaid Cymru yn un o'r rheiny wnaeth ei wrthod, ynghyd â Stephen Doughty, Chris Evans, Nia Griffith a Nick Thomas-Symonds o'r blaid Lafur.
'Methu gormod o bobl sy'n dioddef'
Dywedodd AS Llafur dros Rhondda ac Ogwr Syr Chris Bryant ei fod yn cefnogi'r mesur ar ôl ymatal ei bleidlais y tro diwethaf.
"Yn anffodus, mae'r gyfraith bresennol yn methu gormod o bobl sy'n dioddef o salwch terfynol," meddai.
Fe Liz Saville Roberts o Blaid Cymru o blaid y ddeddfwriaeth, ar ôl dweud cyn y bleidlais: "Ni allwn golli'n golwg ar ddioddefaint dim ond oherwydd bod y ddeddfwriaeth yn anodd."
Fe wnaeth ei chyd-aelod o'r Blaid, Ann Davies, wrthwynebu'r mesur, gan ddweud nad oedd hi'n "argyhoeddedig bod y ddeddfwriaeth hon yn darparu digon o ddiogelwch i'r rhai mwyaf agored i niwed".
Dywedodd AS Llafur Sir Fynwy, Catherine Fookes, ei bod yn cefnogi'r cynlluniau ar ôl gweld profiad ei thad gyda salwch a gofal lliniarol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.