Dadl emosiynol wrth i aelodau'r Senedd wrthod cefnogi cymorth i farw
- Cyhoeddwyd
Mae gwleidyddion yn y Senedd wedi rhannu straeon personol am berthnasau a ffrindiau yn brwydro ar ddiwedd eu hoes mewn dadl emosiynol ar farw â chymorth.
Ym Mae Caerdydd nos Fercher, pleidleisiodd Aelodau o’r Senedd yn erbyn cynnig symbolaidd i gefnogi cyfraith newydd a fyddai'n caniatáu'r hawl i ddewis cael marw.
Pleidleisiodd 19 AS o blaid, 26 yn erbyn ac fe wnaeth naw arall ymatal - neu wrthod pleidleisio.
Roedd gwrthwynebwyr wedi rhybuddio y gallai cynigion ar gyfer cymorth i farw arwain at "lethr llithrig".
Cafodd cynnig i roi’r hawl i bobl sydd â salwch angheuol i gael cymorth i farw yng Nghymru a Lloegr ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin yn gynharach yn y mis.
Nid oes gan y Senedd yng Nghaerdydd bwerau ynghylch a yw marw â chymorth yn drosedd.
- Cyhoeddwyd23 Hydref
- Cyhoeddwyd16 Hydref
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2021
Ond dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd ei bod yn debygol y bydd angen pleidlais arall ar ddeddfwriaeth yn y dyfodol i roi caniatâd y Senedd.
Ychwanegodd Jeremy Miles y byddai gan unrhyw ddeddfwriaeth "effeithiau enfawr i Gymru".
Byddai GIG Cymru, sydd bron yn gyfan gwbl wedi’i ddatganoli, yn gyfrifol am weithredu’r gyfraith.
Roedd cynnig Julie Morgan, AS Llafur Gogledd Caerdydd, yn dweud "y dylai oedolyn yn ei lawn bwyll, y mae ganddo gyflwr corfforol annioddefol na ellir ei wella ac y mae wedi nodi ei ddymuniad clir a phendant i farw, gael yr opsiwn o gymorth i farw, yn ddarostyngedig i fesurau diogelu cadarn".
Roedd hi'n "nodi bod y Swyddfa Economeg Iechyd wedi canfod, hyd yn oed pe baent yn cael y feddygaeth liniarol orau, y byddai o leiaf 5,000 o bobl y flwyddyn yng Nghymru a Lloegr yn marw heb unrhyw ffordd effeithiol o leddfu eu poen yn eu mis olaf".
Nododd hefyd "bod agweddau'r cyhoedd at roi cymorth i farw wedi newid, gyda hyd at 88% o'r cyhoedd yn ffafrio newid y gyfraith".
Adroddodd y Ceidwadwr James Evans wrth y Senedd am hanes ei nain, a gafodd "strôc wirioneddol wael".
"Gadawodd hi yn analluog. Ni allai siarad, ni allai agor ei llygaid, ond roedd hi'n dal yn fyw. Nid oedd ganddi fywyd nac ansawdd bywyd," meddai.
"Dywedodd y meddygon wrth fy nhaid y gallent gadw fy nain yn fyw trwy gyflwyno PEG porthiant i'w stumog.
"Gwnaeth fy nhaid y penderfyniad, yn seiliedig ar y sgyrsiau a gafodd gyda fy nain, na fyddai’n gwneud hynny iddi, a phenderfynodd y dylai gael y dewis i ddod â’i bywyd i ben yn naturiol.
"Daeth yr ysbyty at fy nhaid a dweud, 'Os gwnewch hyn, rydym yn mynd i'ch gwneud chi'n gyfrifol am ddynladdiad'.
"Fe wnes i addewid i’r ddau na fyddwn i byth yn gadael i neb ddioddef fel yna eto, a dyna pam rydw i’n cefnogi hyn heddiw."
'Cafodd Dad ei anghofio'n llwyr'
Dywedodd yr aelod annibynnol Rhys ab Owen, "eleni fe golles i Dad ar ôl iddo ddioddef 12 mlynedd o Alzheimer’s".
"Dros y cyfnod hwnnw, fe aeth Dad o fod yn ddyn llawn brwdfrydedd, llawn egni dros Gymru a'r Gymraeg i fedru gwneud dim byd. Methu siarad, methu bwyta, methu mynd i'r tŷ bach, dyna oedd ei flynyddoedd olaf e.
"Heblaw am ei deulu agos, fe gafodd Dad ei anghofio yn llwyr yn ystod ei flynyddoedd olaf.
"Roedden nhw’n flynyddoedd creulon. Roedden nhw'n greulon i ni fel teulu, a does dim geirie i ddisgrifio pa mor greulon oedd y profiad iddo fe.
"Pwy ydw i i orfodi unrhyw berson i fynd trwy hynny os nad ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny? Bydden i ddim yn dymuno y profiad yna i unrhyw unigolyn nac i unrhyw deulu."
Ychwanegodd: "Mi fyddaf i'n pleidleisio o blaid heddiw, jest. Mae gyda fi concerns mawr.
"Dwi'n credu ei bod hi’n drafodaeth bwysig i’w chael, a diolch i chi, Julie Morgan, am ddod â'r ddadl bwysig yma.
"I fi, tosturi sy'n ennill y diwrnod, ond mae’r peryglon yn amlwg iawn hefyd."
Roedd Delyth Jewell, AS Plaid Cymru, ymhlith y rhai oedd yn gwrthwynebu'r cynnig.
Yn agos at ddagrau, dywedodd fod mesurau diogelu mewn gwledydd fel Canada, yr Iseldiroedd a Gwlad Belg wedi cael eu herydu'n raddol.
“I lawer o bobl anabl neu bobl sydd ddim yn agos at eu teulu, pobl sy’n bryderus ac yn unig fe fyddai’n gadael iddyn nhw deimlo nad oes ganddyn nhw ddewis ond dod â’u bywyd i ben.”
Roedd y rhan fwyaf o’r Ceidwadwyr a siaradodd yn erbyn yr egwyddor hefyd.
'Mater o gydwybod'
Atebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles, "nid yw marw â chymorth, wrth gwrs, wedi'i ddatganoli i Gymru, ond pe bai'r naill Filiau meinciau cefn hyn na'r llall yn dod yn gyfraith bydd ganddynt, wrth gwrs, oblygiadau enfawr i Gymru".
"Fel mater o gydwybod, gallaf gadarnhau ar y meinciau hyn y bydd gan aelodau’r Llywodraeth a’r meinciau cefn bleidlais rydd ar y cynnig heddiw.
"Fel Aelod o’r Senedd, mae gennyf farn y byddaf yn ei hadlewyrchu yn fy mhleidlais, ond yn fy rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ni fyddaf yn siarad am yr achos o blaid nac yn erbyn marw â chymorth heddiw."