Darparu gwasanaethau cymorth i farw yn Gymraeg am fod yn 'heriol'

Mae'n bwysig fod pobl yn gallu cael mynediad at gymorth yn yr iaith maen nhw eisiau, meddai Mr Miles
- Cyhoeddwyd
Fe allai fod yn "heriol" i ddarparu gwasanaethau cymorth i farw drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles.
Os yw Senedd y DU yn pasio bil cymorth i farw, Senedd Cymru fyddai'n penderfynu os yw pobl yn gallu derbyn y cymorth i ddod â'u bywydau i ben ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Fe glywodd y pwyllgor iechyd mai penderfyniad y llywodraeth nesaf fyddai hynny, ac nad oedd yna sicrwydd y byddai'r un fath o wasanaeth ar gael yng Nghymru a Lloegr.
Dywedodd Mr Miles fod yr angen i allu darparu gwasanaeth o'r math hwn yn y Gymraeg yn "gwbl greiddiol".
- Cyhoeddwyd20 Mehefin
- Cyhoeddwyd25 Mehefin
- Cyhoeddwyd28 Mawrth
"Mae'n benodol bwysig bod pobl yn teimlo eu bod nhw'n gallu cael mynediad at gyngor a chyfathrebu gyda phobl yn yr iaith maen nhw eisiau," ychwanegodd Mr Miles.
"Mae'r holl beth yn delio gyda phobl bregus, sy'n gwneud y penderfyniad mwyaf sylweddol."
Ond dywedodd y byddai sicrhau bod y staff Cymraeg ar gael yn "fwy heriol", yn enwedig, meddai, o ystyried faint o weithlu'r gwasanaeth iechyd sy'n debygol o ddweud nad ydyn nhw eisiau gweithio yn y maes yma.
Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, fe allai 90% o bobl sy'n gweithio mewn gofal lliniarol 'optio allan', fyddai'n cynnig "heriau ymarferol" o ran staffio'r gwasanaeth.
Dywedodd AS Plaid Cymru Mabon ap Gwynfor fod hyn yn golygu ei fod yn "un peth i gael deddf sy'n dweud beth yw'r gofynion, peth arall ydy gweithredu".

Bydd GIG Cymru ond yn cynnig gwasanaethau hawl i farw i bobl derfynol sâl os ydy Senedd Cymru wedi cytuno iddo
Y llynedd fe wnaeth y 60 aelod presennol o'r Senedd wrthod cefnogi cynnig ar gymorth i farw, ac fe fydden nhw'n pleidleisio eto i roi eu cydsyniad i'r bil sy'n mynd drwy Senedd San Steffan ar hyn o bryd.
Ond waeth sut maen nhw'n pleidleisio, ni fydd trywydd y bil yn newid, ac fe fyddai'n dal i fod yn fater i lywodraeth nesaf Cymru, i benderfynu a ddylid ei ddarparu ar y gwasanaeth iechyd, ac i Senedd newydd Cymru gytuno iddo mewn pleidlais.
Waeth beth fydd penderfyniad y Senedd, byddai'r bil cymorth i farw yn ei gwneud hi'n gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr i helpu pobl sy'n dioddef o salwch terfynol i ddod â'u bywydau i ben mewn amgylchiadau penodol.
Fe gadarnhaodd Mr Miles y gallai Llywodraeth Cymru wrthod darparu'r gwasanaeth drwy'r sector gyhoeddus yng Nghymru.
"A hyd yn oed pe bai'r llywodraeth eisiau gwneud hynny, a'r Senedd ddim eisiau ei gymeradwyo, byddai'r Senedd yn gallu gwneud hynny hefyd," meddai.
Croesi'r ffin am wasanaethau?
Gofynnodd yr AS Llafur John Griffiths beth fyddai'r goblygiadau i wasanaeth iechyd Cymru pe bai'r Senedd yn pleidleisio yn erbyn.
Dywedodd Mr Miles, pe bai gwasanaeth yn gweithredu yn Lloegr, ond nid yng Nghymru, boed hynny achos penderfyniad y Senedd, neu oherwydd amseru gwahanol, y gallai pobl "groesi'r ffin am wasanaethau".
Gofynnodd yr AS Ceidwadol James Evans os y "gallech chi gael sefyllfa yng Nghymru lle gallai'r rhai sy'n gallu fforddio talu am gymorth i farw gael mynediad ato, a'r rhai sydd ddim yn gallu ei fforddio, na fydden nhw'n cael mynediad ato".
Gan ychwanegu a fyddai angen i "gyfartaledd o ran mynediad at y gwasanaeth" fod yn ystyriaeth i weinidogion y dyfodol, dywedodd Mr Miles y byddai.
Ond fe bwysleisiodd fod llawer o benderfyniadau i'w gwneud cyn y byddai'r sefyllfa yna yn codi.