Rhys Patchell yn ymddeol i fod yn hyfforddwr gyda'r Dreigiau

Fe wnaeth Rhys Patchell ennill 22 cap dros Gymru, gan gynnwys yng Nghwpan y Byd 2019
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-faswr a chefnwr Cymru, Rhys Patchell, yn ymddeol o rygbi proffesiynol ac wedi ymuno â'r Dreigiau fel hyfforddwr cicio rhan-amser.
Mae wedi bod yn gweithio gyda charfan Filo Tiatia wrth iddyn nhw baratoi at ddechrau'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig ddiwedd y mis.
Fe ddechreuodd Patchell, 32, ei yrfa yng Nghaerdydd ac aeth ymlaen i chwarae i'r Scarlets ac ennill y Pro12 yn 2017.
Mae wedi ennill 22 cap dros Gymru, gan gynnwys yng Nghwpan y Byd 2019.
Gadawodd Llanelli yn 2023 ac fe gafodd gyfnodau gyda'r Highlanders yn Seland Newydd ac NEC Green Rockets Tokatsu yn Japan.

Fe chwaraeodd Patchell dymor i'r Highlanders yn Seland Newydd
Mae wedi dechrau ei yrfa hyfforddi drwy weithio ychydig ddiwrnodau'r wythnos gyda'r Dreigiau.
"Rydw i wedi bod yn ffodus i weithio gyda rhai hyfforddwyr gwych drwy gydol fy ngyrfa, ac rydw i'n gobeithio defnyddio'r holl brofiadau hynny i helpu ein chwaraewyr," meddai.
"Dwi wedi bod wrth fy modd bod ar y cae yn gyda'n chwaraewyr wrth iddyn nhw ddatblygu eu crefft.
"Mae'r bechgyn wedi gweithio'n galed yn y cyfnod yma cyn y tymor, ac rydw i'n edrych ymlaen at wylio datblygiad ein carfan."
Fe sgoriodd Patchell dros 600 o bwyntiau i Gaerdydd ac ef oedd prif sgoriwr cynghrair y Pro12 yn 2016.
Chwaraeodd dros Gymru am y tro cyntaf yn 2013 ac roedd yn rhan o'r gêm yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd 2019 yn erbyn De Affrica.

Dywedodd Partchell ei fod yn falch iawn o'i "ddyfalbarhad" gyda'i holl anafiadau yn ystod ei yrfa fel chwaraewr
"Yn y pen draw, rwy'n fwyaf balch o fy nyfalbarhad - delio ag anafiadau a chadw i gredu y gallwn ddod yn ôl a pherfformio ar yr un lefel, os nad yn well, ar ôl pob rhwystr," meddai Patchell.
"Roedd chwarae dros Gymru, cystadlu yng Nghwpan y Byd a'r Chwe Gwlad yn Stadiwm Principality yn brofiadau bythgofiadwy, ond yr hyn y byddaf yn ei gofio fwyaf yw'r bobl y gwnes i'r cyfan gyda nhw.
"Y rhai wnaeth fy nghefnogi o'r ochr - fy ngyrru i'r sesiynau hyfforddi, golchi fy nghit, fy mwydo - yr holl bethau hynny. A'r cyd-chwaraewyr es i'r cae ochr yn ochr â nhw."
Yn ôl prif hyfforddwr y Dreigiau, Filo Tiatia "mae Rhys yn dod â gwybodaeth a phrofiad ar ôl chwarae ar y lefel uchaf, gan chwarae nid yn unig yng Nghymru ond hefyd yn Seland Newydd gyda'r Highlanders ac yn fwyaf diweddar yn Japan.
"Mae Rhys yn hyfforddwr ifanc sy'n meithrin perthynas gref gyda'r chwaraewyr yma ac rydym yn teimlo y bydd yn parhau i dyfu yn y rôl a gwneud argraff ar y Dreigiau."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf