Cyfnod ymgynghori dyfodol rygbi yng Nghymru yn dechrau

- Cyhoeddwyd
Mae cyfnod ymgynghori ar ddyfodol rygbi yng Nghymru yn cychwyn yr wythnos hon.
Bydd y pedwar clwb proffesiynol yn cael cyfle i amlinellu pam na ddylai Undeb Rygbi Cymru (URC) dorri dau dîm.
Mae Caerdydd, y Dreigiau, y Scarlets a'r Gweilch yn cael cyfarfodydd ar wahân, tra bydd chwaraewyr a chefnogwyr hefyd yn cael cyfle i ddweud eu dweud cyn 26 Medi.
Ond mae'n anodd rhagweld a fydd unrhyw un ohonyn nhw'n medru llywio'r corff llywodraethu i ffwrdd o'u cynllun "gorau posib".
- Cyhoeddwyd21 Awst
- Cyhoeddwyd20 Awst
Mae'r undeb yn mynnu nad oes dim wedi'i gadarnhau a'u bod yn barod i wrando cyn anfon adroddiad at fwrdd URC i wneud penderfyniad terfynol. Mae disgwyl iddyn nhw wneud hyn ddiwedd Hydref.
Os na all y rhanbarthau ddod o hyd i gynllun amgen yna bydd pob un yn dod o dan y chwyddwydr.
Bydd hyn hefyd yn golygu y bydd swyddi yn y fantol.
Mae chwaraewyr, hyfforddwyr, y tîm cefndirol, staff gweithrediadau a gweinyddu hefyd i gyd yn wynebu ansicrwydd.
Fe wnaeth Caerdydd restru 247 o weithwyr yn eu cyfrifon diweddaraf, y Scarlets 164, y Gweilch 119 a'r Dreigiau 106.
Caerdydd

Parc yr Arfau yw cartref Caerdydd, ac mae cytundeb i chwarae yno nes 2028
Fe wnaeth y pedwar rhanbarth gytuno ar lafar ar gytundeb rygbi proffesiynol (PRA) newydd, ond newidiodd popeth pan aeth Caerdydd i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Ebrill.
Camodd Undeb Rygbi Cymru i'r adwy gan achub clwb y brifddinas ac fe gafodd y Scarlets a'r Gweilch eu tynnu allan o'r cytundeb.
Caerdydd sydd â'r sylfaen boblogaeth fwyaf - eu torfeydd cyfartalog o 8,694 y tymor diwethaf oedd yr un mwyaf o ranbarthau Cymru - ac mae gan y clwb brydles gyda landlordiaid Parc yr Arfau, Clwb Athletau Caerdydd, tan 2028.
Mae cyn-reolwr Brains, Scot Waddington, wedi'i benodi'n gadeirydd annibynnol ac maen nhw'n ymddangos mewn sefyllfa gref.
Y Dreigiau
Yn seiliedig ar ganlyniadau yn unig, byddai'r Dreigiau mewn trwbl am mai nhw sydd wedi perfformio waethaf yng Nghymru mewn 17 allan o 22 o dymhorau.
Roedden nhw hefyd ar waelod tabl y Bencampwriaeth Rygbi Unedig y tymor diwethaf ar ôl dim ond un fuddugoliaeth.

Cafodd y Dreigiau dymor anodd yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig, gan ennill un gêm yn unig
Ond mae'r clwb yn credu ei fod mewn sefyllfa gref oddi ar y cae o dan berchnogaeth David Buttress, David Wright a Hoyoung Huh, sydd wedi llofnodi prydles 10 mlynedd newydd ar gyfer eu canolfan hyfforddi yn Ystrad Mynach ac wedi recriwtio'n helaeth yr haf hwn.
Pan gymerodd URC yr awenau yn 2017, dywedodd y prif weithredwr ar y pryd, Martyn Phillips: "Y peth mawr yw bod 73 o glybiau yng Ngwent, mae ganddyn nhw hanes cyfoethog ac maen nhw wedi cynhyrchu chwaraewyr anhygoel erioed, felly does dim ffordd y byddwn i'n gallu sefyll yma a pheidio â chael clwb proffesiynol yng Ngwent heb wybod fy mod i wedi gwneud popeth o fewn fy ngallu."
Serch hynny, mae yna rai sy'n credu y dylai Undeb Rygbi Cymru fod wedi cadw draw.
Y Gweilch
Y Gweilch yw'r tîm Cymreig mwyaf llwyddiannus ers lansio rygbi rhanbarthol yn 2003 gyda phedwar teitl cynghrair a buddugoliaeth Cwpan Eingl-Gymreig.
Fe wnaeth Warren Gatland enwi 13 o'r Gweilch yn ei dîm cyntaf i Gymru yn 2008.
Mae'r rhanbarth wedi cynhyrchu sêr megis Alun Wyn Jones, Shane Williams, Dan Biggar, Adam Jones, James Hook, ac wedi darparu'r unig chwaraewr prawf o Gymru i'r Llewod Prydeinig ac Iwerddon.

Mae sawl un o chwaraewyr gorau Cymru mewn blynyddoedd diweddar wedi cynrychioli'r Gweilch
Mae gan y Gweilch boblogaeth ar eu hochr yn ail ddinas fwyaf Cymru hefyd, ac maent wedi dewis gadael Stadiwm Swansea.com, sydd yn aml yn ddienaid, a threulio tymor 2025-26 ym Mhen-y-bont ar Ogwr tra'u bod yn ailddatblygu cae San Helen.
Daeth y rhanbarth, sy'n cael ei reoli gan Y11 Sport & Media yn ers 2020, yn agos at uno â'r Scarlets yn 2019, tra'u bod wedi gwrthod uno â Chaerdydd yn 2023.
Byddai Undeb Rygbi Cymru yn awyddus i'r trafodaethau hynny ddechrau eto.
Y Scarlets
Y Scarlets yw'r gwrthwynebwyr mwyaf lleisiol i gynlluniau Undeb Rygbi Cymru hyd yn hyn, gyda gwleidyddion yn ymuno â'r brotest gan gefnogwyr y clwb a buddsoddwyr newydd, House of Luxury.
Yr wythnos hon bydd cyngor yn pleidleisio ar gynnig i herio'r undeb am fod mwy na 400 o swyddi llawn amser a rhan-amser yn gysylltiedig â'r tîm, sy'n cyfrannu "miliynau o bunnoedd" i'r economi leol.

Cyn-fewnwr Cymru, Dawyne Peel, yw prif hyfforddwr y Scarlets
Mae llawer o'r ddadl hefyd yn ymwneud â threftadaeth a hanes, sy'n cynnwys dau deitl cynghrair, er bod yr olaf yn ôl yn 2017.
Cyrhaeddodd y Scarlets gemau ail gyfle'r bencampwriaeth y tymor diwethaf, a nhw fydd unig gynrychiolwyr Cymru yng Nghwpan y Pencampwyr yr ymgyrch nesaf.
Fe wnaeth y rhanbarth ddenu torfeydd cyfartalog o dros 6,500 y tymor diwethaf.
Mae eu stadiwm, Parc y Scarlets, werth £25m ac yn eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, a roddodd estyniad 15 mlynedd i'r Scarlets ar fenthyciad o £2.6m wrth symud o Barc y Strade yn 2007, a fydd yn dod i ben yn 2038.
Dewisiadau eraill
Ni wnaeth dogfen ymgynghori ffurfiol Undeb Rygbi Cymru awgrymu lle byddai eu dau glwb elitaidd dewisol wedi'u lleoli na beth fydd eu henwau.
Mae hynny'n gadael y posibilrwydd o ffurfio dau gwbl newydd.
Un o'r dewisiadau, er mai'r un gwaethaf yn ôl yr undeb, yw i bedwar clwb aros gyda dau yn cael mwy o gyllid a dau yn dimau datblygu.
A fyddai cefnogwyr, perchnogion a chwaraewyr yn derbyn hynny er mwyn sicrhau bod y timau yn goroesi?
Y strwythur presennol 'ddim yn gweithio'
"Mae'r ymgynghoriad yma'n hynod o bwysig - os mae URC yn cael hwn yn anghywir byddan nhw ddim yn gallu dod yn ôl ohono fe.
"Mae'r undeb moyn mynd i lawr i ddau dîm proffesiynol ac maen nhw moyn rheoli'r ddau dîm proffesiynol hefyd.
"Yn amlwg, os maen nhw'n mynd i lawr i ddau dîm byddan nhw'n colli llawer o gefnogwyr, bydd llawer o chwaraewyr mas o waith - hwn yw'r adeg fwya' yn hanes rygbi proffesiynol Cymru ers i'r rhanbarthau ddod i mewn yn 2003.
"Ni wedi cael dwy lwy bren yn olynol, mae'n rhaid i ni newid ac mewn gwirionedd mae'r rhanbarthau wedi bod yn cael trafferth am flynyddoedd.
"Os chi'n cael pedwar rhanbarth sy'n cael trafferth ar waelod URC (Pencampwriaeth Rygbi Unedig), mae'n mynd i fod yn anodd iawn i ennill yn y gemau rhyngwladol felly mae rhaid cael o leiaf dau ranbarth sy'n cystadlu am silverware.
"Sai'n siŵr os mae mynd lawr i ddau dîm yn rhy radical ond yn sicr nid ydyn ni'n gallu aros efo'r strwythur sydd gennon ni ar y funud achos dyw e ddim yn gweithio rhagor."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.