Canolfan arddio Caernarfon yn cipio gwobr arbennig

canolfan arddio fron gochFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ganolfan bellach yn cyflogi dros 100 o bobl

  • Cyhoeddwyd

Mae Canolfan Arddio Fron Goch yng Nghaernarfon wedi ennill gwobr y Ganolfan Arddio Orau yn y Deyrnas Unedig yng ngwobrau'r Garden Center Association yn Berkshire.

Fe ddechreuodd y ganolfan fel busnes teuluol, ond mae bellach yn cyflogi dros 100 o bobl yr ardal.

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Justin Williams - un o berchnogion y ganolfan gyda'i rieni a'i chwaer - eu bod wedi bod yn "lwcus iawn".

"'Da ni'n ddigon agos i'n cymuned ni, a'r gefnogaeth gafon ni."

'Dyw'r olwyn ddim yn stopio'

Dywedodd fod y busnes wedi dechrau 'nôl yn 1981 pan wnaeth ei deulu symud i Gaernarfon am fod ei dad "eisiau tyfu llysiau a ffrwythau".

"Fe brynodd o'r tir - plot bach pedwar acer adeg hynny - yn Fron Goch.

"Un o'r pethau pwysicaf oedd dechrau gwerthu fan hyn o ddrws cefn y tŷ, a chwsmeriaid yn dechrau siarad amdanom ni."

Dywedodd mai'r gyfrinach y tu ôl i'r llwyddiant yw "safon y cynnyrch a safon y gwasanaeth".

Yn ôl Mr Williams, y tîm o dros 100 o staff sy'n "haeddu'r wobr yma".

"Does 'na ddim diwedd i ddysgu beth sy'n bwysig i'ch cymuned, i'ch cwsmeriaid," meddai.

Wrth edrych ymlaen at ddyfodol y ganolfan, dywedodd: "Dyw'r olwyn ddim yn stopio, 'da ni dal i fynd wrth gwrs!"

Pynciau cysylltiedig