240 troseddwr ar brawf wedi eu cyhuddo o lofruddio mewn 4 blynedd

Cafodd mab Nadine Marshall, Conner, ei lofruddio yn 2015
- Cyhoeddwyd
Cafodd 244 o droseddwyr oedd ar brawf eu cyhuddo o lofruddiaeth yng Nghymru a Lloegr dros gyfnod o bedair blynedd, yn ôl ystadegau sydd wedi eu rhannu gyda Newyddion S4C.
Mae'r ffigyrau'n cyfateb i fwy nag un cyhuddiad o lofruddiaeth yr wythnos gan droseddwr dan oruchwyliaeth y Gwasanaeth Prawf, rhwng Ionawr 2020 a Mawrth 2024.
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder y bydd buddsoddiad o £700m y flwyddyn yn y Gwasanaeth Prawf, "fydd yn ein galluogi i dagio a monitro degau o filoedd yn fwy o droseddwyr yn y gymuned".
Ychwanegodd bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder "ar y llwybr cywir i fod wedi recriwtio 2,300 o swyddogion prawf erbyn Mawrth y flwyddyn nesaf".
Daw wrth i fam un dyn a gafodd ei ladd gan droseddwr oedd ar brawf ddweud nad yw'n hyderus "o gwbl" am gynlluniau newydd sydd wedi eu cyhoeddi.

Awgrymodd adolygiad annibynnol yn ymwneud â dedfrydu, gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau, y dylid gwneud defnydd ehangach o wasanaethau prawf a'r trydydd sector wrth reoli troseddwyr ar ôl eu rhyddhau o'r carchar.
Cafodd yr adolygiad, dan ofal y cyn-Arglwydd Ganghellor Ceidwadol David Gauke, ei gomisiynu ar ôl i garchardai ledled Cymru a Lloegr gyrraedd eu capasiti, mwy neu lai yr haf diwethaf.
Roedd yn cydnabod bod y Gwasanaeth Prawf hefyd "dan straen mawr" ar hyn o bryd.
Mae'r Arglwydd Ganghellor Shabana Mahmood wedi ymateb drwy gyhoeddi y "bydd y cynllun i oruchwylio troseddwyr yn cael ei ehangu'n sylweddol drwy ddefnydd cynyddol o dagio".
Y bwriad fydd ceisio osgoi anfon troseddwyr i garchar am lai na blwyddyn gyda dedfrydau cymunedol yn cael eu ffafrio. Bydd rhai troseddwyr yn cael eu rhyddhau'n gynnar o'r carchar os ydyn nhw'n dangos ymddygiad da tra'u bod nhw dan glo hefyd.
Ar ôl cael eu rhyddhau o'r carchar, mae'r llywodraeth yn dweud y bydd cyfnod newydd o "oruchwyliaeth ddwys" yn golygu bod "degau o filoedd yn fwy o droseddwyr yn cael eu tagio a llawer mwy yn cael eu cadw dan amodau llym yn y cartref".
Erbyn 2028/29, maen nhw'n addo y bydd cyllideb bresennol y Gwasanaeth Prawf o £1.6bn "yn cynyddu'n sylweddol... gan ryw 45%".

Cafodd Conner Marshall ei ladd gan droseddwr oedd ar brawf
Ond mae pryderon am y newidiadau arfaethedig i'r system gyfiawnder.
Cafodd Conner Marshall, 18 oed, ei lofruddio gan David Braddon, troseddwr ar brawf, ym mis Mawrth 2015.
Roedd Braddon yn destun dau orchymyn cymunedol ar y pryd, ond roedd wedi ei gategareiddio fel "troseddwr risg isel".
Roedd wedi'i gael yn euog o ddwy drosedd yn ymwneud â chyffuriau ac o ymosod ar heddwas, ond doedd y Gwasanaeth Prawf ddim yn ymwybodol ei fod wedi'i gael yn euog yn y gorffennol o guro partner.
Yn ystod y cwest i farwolaeth Conner, roedd y crwner yn feirniadol iawn o'r hyn ddisgrifiodd fel rheolaeth "druenus o annigonol" y Gwasanaeth Prawf o'r gweithiwr achos oedd yn goruchwylio Braddon.
'Llenwi tyllau yn unig'
Mae mam Conner, Nadine, yn poeni y gallai gweithredu cynigion diweddaraf y llywodraeth roi hyd yn oed mwy o straen ar system brawf sydd eisoes dan bwysau.
"Dydw i ddim yn hyderus o gwbl [am y cynllun newydd]", meddai.
"Llenwi tyllau yn unig fydd yr arian. Dydy'r staffio ddim yno, dydy'r prosesau ddim yno, dydy'r systemau ddim yno i'r Gwasanaeth Prawf allu mynd i'r afael â'r llwyth gwaith sydd ganddynt."

Dydy'r system ddim yn addas i'w bwrpas, meddai Nadine Marshall
"I wybod y bydd mwy o droseddwyr yn cael eu rhyddhau nawr. Bydd mwy o asesiadau risg sydd ddim yn cael eu gwneud, mwy o apwyntiadau'n cael eu methu.
"Bydd yr holl faneri coch yma sydd wedi bod yno ers degawd ond maen nhw'n mynd i gael eu chwyddo."
Mae hi'n ofni, gyda mwy o garcharorion yn cael eu rhyddhau'n gynnar, na fydd modd rheoli'r llwyth gwaith er gwaetha'r buddsoddiad o £700m sydd wedi ei addo:
"Mae'r problemau'n mynd i gael eu chwyddo... gan nad yw'r system yn addas i bwrpas fel y mae."
'Mae'r system yn llawn'
Mae undeb llafur Napo yn cynrychioli staff prawf. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyffredinol, Ian Lawrence ei fod ar y cyfan yn cefnogi'r cyhoeddiadau gan y llywodraeth, ond mae'n rhybuddio bod yn rhaid buddsoddi'n ariannol mewn staff i sicrhau ei lwyddiant.
"Rydym wedi bod yn dweud ers tro, os yw'r system garchardai yn llawn - ac mae'n llawn - yna mae'r Gwasanaeth Prawf yn llawn hefyd.
"A fydd y Gwasanaeth Prawf yn gallu ymdopi os fydd criw newydd yn cael eu rhyddhau'n gynnar yn y gwanwyn y flwyddyn nesa'? Dim ar y gyfradd bresennol o gynnydd.
"Ar hyn o bryd mae gennym ni system lle mae staff yn gweithio oriau sylweddol, o dan bwysau sylweddol a hynny er mwyn ceisio ymdopi â'r sefyllfa fel ag y mae hi nawr."