Gwobrau BAFTA Cymru i Mark Lewis Jones ac Annes Elwy

Mark Lewis JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Lewis Jones bod hi'n fraint i dderbyn Tlws Siân Philips yng ngwobrau BAFTA Cymru eleni

  • Cyhoeddwyd

Mark Lewis Jones oedd enillydd un o brif wobrau seremoni flynyddol BAFTA Cymru eleni.

Yr actor o Rosllannerchrugog wnaeth derbyn Tlws Sian Phillips eleni am ei berfformiadau dros ddegawdau ar y sgrîn fawr a'r sgrîn fach.

Fe gipiodd Annes Elwy y wobr am yr actores orau am bortreadu warden carchar yn y gyfres ddrama Bariau.

Enillodd y gyfres ddrama Steeltown Murders ddwy wobr am y ddrama orau a gwisgoedd gorau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Annes Elwy enillodd wobr yr actores orau am ei rhan yng nghyfres Bariau

Daeth sawl cynhyrchiad Cymraeg arall i'r brig yn y seremoni sy'n dathlu goreuon y byd ffilm a theledu.

Sêr Steilio oedd y rhaglen blant orau, Y Frwydr: Stori Anabledd enillodd yn y categori ar gyfer cyfresi ffeithiol, a ffilm Y Sŵn enillodd y wobr colur a gwallt.

Fe gafodd y seremoni ei chynnal unwaith eto eleni yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd a'i llywio eleni gan y cyflwynydd Owain Wyn Evans.

Julie Gardner, cyn bennaeth drama BBC Cymru ac un o sylfaenwyr y cwmni cynhyrchu Bad Wolf, wnaeth dderbyn y Wobr Cyfraniad Arbennig.

Enillwyr ac enwebiadau 2024

ACTOR

Enillydd: Ncuti Gatwa - Doctor Who - Bad Wolf / BBC Studios Productions / BBC One

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Philip Glenister - Steeltown Murders - Severn Screen / BBC One Wales

  • Rhodri Meilir - Pren ar y Bryn - Fiction Factory / S4C

  • Sion Daniel Young - Slow Horses - See-Saw Films mewn cysylltiad ag Apple / Apple TV+

ACTORES

Enillydd: Annes Elwy - Bariau - Rondo Media / S4C

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Aimee-Ffion Edwards - Dreamland - Merman Television / Sky Atlantic

  • Alexandra Roach - Men Up - Boom Cymru / Quay Street Productions / BBC One

  • Nia Roberts - Pren ar y Bryn - Fiction Factory / S4C

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Annes Elwy (ar y chwith) gydag aelodau eraill o gast y gyfres ddrama Bariau

DRAMA DELEDU

Enillydd: Steeltown Murders - Severn Screen / BBC One Wales

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Casualty - BBC Studios / BBC One

  • Pren Ar Y Bryn - Fiction Factory Films / S4C

AWDUR

Enillydd: Matthew Barry - Men Up - Boom Cymru / Quay Street Productions / BBC One

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Russell T Davies - Doctor Who - Bad Wolf / BBC Studios Productions / BBC One

  • Megan Gallagher - Wolf - Hartswood Films / APC Studios / BBC One

CYFLWYNYDD

Enillydd: Rhod Gilbert - Rhod Gilbert: A Pain In the Neck - Kailash Films / Llanbobl Vision / Channel 4

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Chris Roberts - Siwrna Scandi Chris - Cwmni Da / S4C

  • Lemarl Freckleton - Black Music Wales - Lazerbeam / BBC Two Wales

  • Stifyn Parri - Paid â Dweud Hoyw - Rondo Media / S4C

RHAGLEN ADLONIANT

Enillydd: Max Boyce At 80 - Afanti Media / BBC One Wales

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Cân I Gymru 2024 - Afanti Media / S4C

  • Christmas With Katherine Jenkins - Afanti Media / BBC Two

  • Iaith Ar Daith - Boom Cymru / S4C

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr actor Owain Arthur ymhlith y gwesteion a gyflwynodd wobr i enillwyr y noson

RHAGLEN BLANT

Enillydd: Sêr Steilio - Yeti Television / S4C

Hefyd wedi eu henwebu:

  • I Was Bullied - Yeti Television / CBBC

  • Newyddion Ni - BBC Cymru / S4C

CYMRU TORRI DRWODD

Enillydd: Janis Pugh - Chuck Chuck Baby - Artemisia Films Ltd / Delta Pictures

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Alaw Llewelyn Roberts - Bariau - Rondo Media / S4C

  • Bethan Marlow - The Date - Candid Broads Productions

  • Daisy Brown - Slammed: The Eighties - BBC Cymru Wales / BBC One Wales

FFILM FER

Enillydd: Smile - Tremendos Films / Captain Howdy Films Ltd

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Being Seen - On Par Productions

  • Frontier Town - Beehive Films Ltd

  • Spectre Of The Bear - CPE Productions / Ffilm Cymru Wales / BFI Network / BBC Cymru Wales

Disgrifiad o’r llun,

Y ddrama Men Up oedd wedi derbyn y nifer fwyaf o enwebiadau eleni

RHAGLEN DDOGFEN SENGL

Enillydd: Strike! The Women Who Fought Back - Frank Films / BBC One Wales

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Paid  Dweud Hoyw - Rondo Media / S4C

  • Rhod Gilbert: A Pain In The Neck - Kailash Films / Llanbobl Vision / Channel 4

  • Siân Phillips Yn 90 - Rondo Media / S4C

CYFARWYDDWR: FFEITHIOL

Enillydd: Jess Howe - Strike! The Women Who Fought Back - Frank Films / BBC One Wales

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Caryl Ebenezer - Siân Phillips yn 90 - Rondo Media / S4C

  • Chloe Fairweather - The Kidnap of Angel Lynn - Wonderhood Studios / Channel 4

  • Jenny Casterton - The Crash Detectives - BBC Cymru Wales / BBC One Wales

FFOTOGRAFFIAETH: FFEITHIOL

Enillydd: Theo Tennant - Frontier Town - Beehive Films Ltd

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Haydn Denman - Siân Phillips yn 90 - Rondo Media / S4C

  • Sam Jordan-Richrdson - Legends of Welsh Sport: Jim Roberts - On Par Productions / BBC One Wales

CYFRES FFEITHIOL

Enillydd: Y Frwydr: Stori Anabledd - Cardiff Productions / S4C

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Siwrna Scandi Chris - Cwmni Da / S4C

  • Slammed: The Eighties - BBC Cymru Wales / BBC One Wales

  • Welcome To Wrexham - NEO Studios for Boardwalk Pictures / FX/ Disney+

Disgrifiad o’r llun,

Gareth John Bale, Philip Glenister a Steffan Rhodri yn y gyfres ddrama Steeltown Murders, oedd wedi derbyn pum enwebiad

FFILM NODWEDD/DELEDU

Enillydd: Chuck Chuck Baby - Artemisia Films Ltd / Delta Pictures

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Bolan's Shoes - Buffalo Dragon

  • Men Up - Boom Cymru / Quay Street Productions / BBC One

CYFARWYDDWR: FFUGLEN

Enillydd: Euros Lyn - Heartstopper - See-Saw Films / Netflix

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Ashley Way - Men Up - Quay Street Productions / Boom Cymru / BBC One

  • Lee Haven Jones - Passenger - Sister Pictures / ITV/ Britbox / ITV1

  • Marc Evans - Steeltown Murders - Severn Screen / BBC One Wales

FFOTOGRAFFIAETH A GOLEUO: FFUGLEN

Enillydd: Bryan Gavigan - Passenger - SISTER mewn cysylltiad â Northern SISTER / ITV

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Sam Heasman - Wolf - Hartswood Films / APC Studios / BBC One

  • Sam Thomas - Steeltown Murders - Severn Screen / BBC One Wales

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Aeth y wobr Dylunio Cynhyrchiad i Gerwyn Lloyd am y gyfres ddrama Pren ar y Bryn - cyfres oedd wedi derbyn pum enwebiad i gyd

DYLUNIO CYNHYRCHIAD

Enillydd: Gerwyn Lloyd - Pren ar y Bryn - Fiction Factory Films / S4C

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Caroline Steiner - Chuck Chuck Baby - Artemisia Films Ltd / Delta Pictures

  • James North - The Winter King - Bad Wolf / ITVX

COLUR A GWALLT

Enillydd: James Spinks - Y Sŵn - Swnllyd

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Claire Pritchard-Jones - Wolf - Hartswood Films / APC Studios / BBC One

  • Claire Williams - Doctor Who - Bad Wolf / BBC Studios Productions / BBC One

DYLUNIO GWISGOEDD

Enillydd: Dawn Thomas-Mondo - Steeltown Murders - Severn Screen / BBC One Wales

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Hayley Nebauer - Black Cake – Hulu / CBS UK Productions Ltd / Kapital Entertainment / Disney+

  • Ffion Elinor - Pren ar y Bryn - Fiction Factory Films / S4C

SAIN

Enillydd: Tîm sain Wolf - Hartswood Films / APC Studios / BBC One

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Tîm sain Doctor Who - Bad Wolf / BBC Studios Productions / BBC One

  • Tîm sain Men Up - Quay Street Productions / Boom Cymru / BBC One

GOLYGU

Enillydd: Sara Jones - The Way - Red Seam mewn cysylltiad â Little Door Productions / BBC One

Hefyd wedi eu henwebu:

  • Dylan Goch - Firebombers - Zwwm / BBC One Wales

  • John Richards - Men Up - Boom Cymru / Quay Street Productions / BBC One

  • Tim Hodges - Doctor Who - Bad Wolf / BBC Studios Productions / BBC One

Pynciau cysylltiedig