Llwybrau cerdded Cymru mewn cyflwr 'arswydus'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Llwybr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ramblers Cymru yn amcangyfrif bod 'na broblemau gydag oddeutu 50% o'r 20,000 milltir o lwybrau cerdded yng Nghymru

Mae cerddwyr wedi honni bod rhwydwaith llwybrau cyhoeddus Cymru mewn cyflwr "arswydus" ar ôl cael eu hamddifadu ers blynyddoedd.

Yn ôl Ramblers Cymru mae cyfnodau clo'r pandemig wedi datgelu llwybrau sydd wedi'u blocio a diffyg arwyddion, wrth i fwy o bobl fynd am dro yn lleol.

Maen nhw'n galw ar i ran o gyllideb teithio llesol Llywodraeth Cymru i gael ei glustnodi ar gyfer gwelliannau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi clustnodi dros £70m ar gyfer teithio llesol yn y flwyddyn ddiwethaf, a bod modd i awdurdodau lleol wneud cais am arian.

'Dyletswydd arnon ni'

"Mae'n fy ypsetio i," medd Alan Austin, cadeirydd cangen y gymdeithas gerdded ym Mhowys, wrth weld hawliau tramwy cyhoeddus yn "diflannu a chael eu hesgeuluso".

"Mae'n rhan o'n hetifeddiaeth ni, mae'n ddyletswydd arnon ni ddiogelu'r rhwydwaith ar gyfer ein plant a'n wyrion," meddai

Mae gan y sir gwerth 9,250km (5,747 milltir) o lwybrau cyhoeddus ac mae'n "baradwys i gerddwyr", medd Mr Austin.

Ond dangosodd monitro diweddar mai ond 38% oedd mewn cyflwr boddhaol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Powys yn "baradwys i gerddwyr", medd Alan Austin, ond mae'n rhwystredig gyda chyflwr y llwybrau

"Ymysg y problemau cyffredin mae rhwystrau gwahanol, llystyfiant wedi tyfu dros lwybrau, camfeydd wedi torri neu'n diflannu mewn rhai achosion a weiren bigog yn cael ei osod yn eu lle," meddai.

Mae diffyg arwyddion yn broblem hefyd, a'r grŵp yn derbyn cwynion gan dwristiaid ar deithiau cerdded fydd "ddim yn dychwelyd achos doedden nhw'n methu dod o hyd i'r ffordd i fynd".

"Yn y pendraw mae'r cyfrifoldeb dros edrych ar ôl y llwybrau gyda'r awdurdod lleol, ac ry'n ni eisiau eu gweld nhw'n blaenoriaethu'r gwaith hwnnw," meddai Mr Austin.

'Tasg fawr'

Dywedodd Cyngor Powys bod gwella arwyddion yn waith "oedd wedi'i effeithio gan gyllid refeniw craidd cyfyngedig ac amser swyddogion".

"Mae 'na oddeutu 12,000 o lwybrau unigol ym Mhowys a nifer o'r rheiny yn dechrau wrth ymyl ffordd, felly mae'n dasg fawr," meddai llefarydd.

Drwy eu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyhoeddus maen nhw wedi llwyddo cael gafael ar gyllid gwerth £610,000 dros y tair blynedd nesa' gan Lywodraeth Cymru i wella mynediad i gefn gwlad, ac yn "gweithio gyda chymunedau i dargedu adnoddau at flaenoriaethau lleol".

Dywedodd Ramblers Cymru y byddai gwella'r rhwydwaith llwybrau cerdded yn ehangach yn helpu lleddfu'r pwysau sydd wedi bod ar "safleoedd pot mêl" fel yr Wyddfa a Phen y Fan yn ystod y pandemig.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cyngor Powys yn derbyn £610,000 gan Lywodraeth Cymru dros y tair blynedd nesa' i wella mynediad i gefn gwlad

Ger Moel Famau ym Mryniau Clwyd dywedodd John Elwyn Williams o Gymdeithas y Cerddwyr Clwyd bod y llwybrau yn "berffaith".

"Mae 'na arwyddion a ma' 'na gannoedd o bobl yn dod bob blwyddyn," meddai.

"Ac wrth gwrs ar benwythnosau does 'na'm lle i barcio, maen nhw'n parcio ar y lôn ac felly mae'n creu trafferthion.

"Be fyddan ni'n hoffi fasa'r llwybrau i gyd yn cael eu hagor i fyny fel 'sa pobl yn gallu gwasgaru ar draws gogledd Cymru i gyd."

'Baich ychwanegol'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir y Fflint eu bod wedi gweld "cynnydd aruthrol mewn defnyddwyr yn ymweld â chefn gwlad ers y pandemig", sy'n achosi "baich rheoli ychwanegol".

Ychwanegodd bod y cyngor yn gweithio gyda phartneriaid fel Ramblers Cymru i "ddarparu adnodd diogel y gall drigolion ac ymwelwyr ei fwynhau".

Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych eu bod yn agosáu at gwblhau "arolwg llawn o'r holl rwydwaith llwybrau cerdded ym mhob cymuned", fyddai'n galluogi adnoddau i gael eu targedu yn well.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Angela Charlton eisiau gweld mwy o ffocws ar fonitro cyflwr llwybrau

Wrth siarad ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, dywedodd cyfarwyddwr Ramblers Cymru Angela Charlton fod yr elusen yn amcangyfrif bod 'na broblemau gydag oddeutu 50% o'r 32,180km (20,000 milltir) o lwybrau cerdded yng Nghymru.

"Mae wedi dod i'r amlwg ers Covid pan doedden ni ddim yn medru teithio yn bell iawn ac roedden ni'n cael mwy a mwy o alwadau ynglŷn â llwybrau wedi'u blocio, arwyddion ar goll a phobl ddim yn gwybod ble i fynd," meddai.

Mae'r elusen wedi galw ar Lywodraeth Cymru i glustnodi 10% o'i chronfa teithio llesol - sy'n annog cerdded a seiclo - ar gyfer hawliau tramwy cyhoeddus.

"Ry'n ni hefyd am weld mwy o ffocws ar fonitro," meddai Ms Charlton.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y rhwydwaith yn ased cenedlaethol felly er mwyn edrych ar ei ôl mae angen cael darlun llawn o beth sy'n digwydd.

"Ry'n ni'n awyddus i fod yn rhan o'r ateb, a ry'n ni eisoes yn gweithio ar brosiectau sy'n cefnogi gwirfoddolwyr ac awdurdodau lleol i gymryd perchnogaeth o lwybrau lleol, ond mae angen gwneud llawer iawn mwy."

Gwario £70m ar deithio llesol

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae teithio llesol yn flaenoriaeth allweddol yn ein strategaeth trafnidiaeth - Llwybr Newydd - ac mae'n sail i'n holl waith ar drafnidiaeth.

"Ry'n ni wedi ymrwymo i ganfod ffyrdd newydd sy'n galluogi i bobl fwynhau cefn gwlad a chymryd mantais o'r nifer o fuddion iechyd a lles a ddaw o fod yn yr awyr agored.

"Pan fo awdurdodau lleol yn cydnabod hawliau tramwy sydd â'r potensial i hwyluso teithio llesol, mae modd iddyn nhw wneud cais ar gyfer cynlluniau trwy'r Gronfa Teithio Llesol."

Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi clustnodi dros £70m ar gyfer cynlluniau sy'n hybu teithio llesol dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf.