Galw am addasu cynllun hawliau anabl 'symbolaidd' i Gymru

adeilad y SeneddFfynhonnell y llun, PA Media
  • Cyhoeddwyd

Mae angen addasu rhannau o gynllun Llywodraeth Cymru i wella hawliau pobl anabl, yn ôl corff gwarchod cydraddoldeb y DU.

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi galw ar weinidogion i ymrwymo at dargedau ac amserlen clir.

Rhybuddiodd y corff fod peryg y gallai'r cynllun fod yn un symbolaidd yn unig heb gyflwyno newidiadau o ran atebolrwydd a mesur cynnydd.

Cafodd nifer o'r pryderon hyn eu hamlygu gan grwpiau hawliau pobl anabl yn gynharach eleni.

Dywed Llywodraeth Cymru mai'r nod yw "gwneud Cymru yn wlad gynhwysol a hygyrch ble mae modd i bobl anabl fyw heb rwystrau a gwahaniaethu".

Pobl anabl yn 'haeddu newid gwirioneddol'

Dywedodd cadeirydd dros dro pwyllgor Cymru yr EHRC, Martyn Jones: "Rydyn ni'n croesawu uchelgais Llywodraeth Cymru i wella hawliau pobl anabl, ond mae'n hanfodol eu bod nhw'n gwneud mwy i wneud Cymru mor gynhwysol a hygyrch a phosib.

"Am rhy hir, mae Llywodraeth Cymru wedi methu a darparu'r gwasanaethau y mae pobl anabl eu hangen.

"Heb newidiadau, mae yna beryg y gallai'r ymrwymiadau sy'n cael eu gwneud yn y Cynllun Hawliau Pobl Anabl drafft ddod yn rhai symbolaidd.

"Mae pobl anabl yng Nghymru yn haeddu newid gwirioneddol. Mae hyn yn dechrau wrth gael llywodraeth sy'n barod i weithio gyda nhw i lunio polisïau - ac sy'n barod i gael eu dwyn i gyfrif unwaith mae'r polisïau hyn yn cael eu cyflwyno."

Nod y Cynllun Hawliau Pobl Anabl yw rhoi mwy o hawliau i bobl ag anabledd ar draws ystod o feysydd.

Ond mae beirniaid yn dweud y gallai llawer o'r manylion ddisgyn oddi ar yr agenda, - yn enwedig os oes llywodraeth newydd yn cael ei hethol y flwyddyn nesaf.

Yn dilyn beirniadaeth ym mis Mehefin, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod eisoes "wedi dechrau bwrw ymlaen â rhai o'r camau tymor byr" gafodd eu hargymell gan dasglu hawliau anabl.

Cafodd mwy na 300 o argymhellion eu cynnig gan y tasglu - oedd yn cynnwys pobl ag anableddau a grwpiau sy'n eu cynrychioli - mewn meysydd fel gofal cymdeithasol, cyflogaeth, tai a theithio, mewn cynllun sy'n ymestyn dros y 10 mlynedd nesaf.

Ond mae rhai a oedd yn rhan o'r broses yn dweud nad yw'r argymhellion hyn wedi'u hymgorffori yn y ddogfen gafodd ei rannu yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Jane Hutt
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jane Hutt ym mis Mehefin fod y llywodraeth eisoes "wedi dechrau bwrw ymlaen â rhai o'r camau tymor byr"

Wrth siarad yn y Senedd ym mis Mehefin, dywedodd Jane Hutt, yr ysgrifennydd cabinet sy'n gyfrifol am y cynllun, ei fod yn "gynllun 10 mlynedd cynhwysfawr".

"Llywodraethau'r dyfodol fydd yn nodi'r camau tymor canolig i hirdymor y byddan nhw yn eu cymryd i gyflawni'r uchelgais a'r canlyniadau i bobl anabl a nodir yn y cynllun 10 mlynedd hwn, ond rydym wedi dechrau bwrw ymlaen â rhai o'r camau tymor byr nawr.

"Nid oes rhaid i ni aros tan dymor nesaf y Senedd i gymryd camau i wella canlyniadau i bobl anabl."

Mewn datganiad, dywed Llywodraeth Cymru: "Ein huchelgais yw gwneud Cymru yn wlad gynhwysol a hygyrch ble mae modd i bobl anabl fyw heb rwystrau a gwahaniaethu.

"Dyna beth mae'r cynllun yma yn gobeithio ei gyflawni. O'r dechrau mae ein cynllun drafft wedi cael ei siapio gan bobl anabl, gyda dros 350 o sefydliadau ac unigolion sydd â phrofiad ac arbenigedd yn cyfrannu at y broses drwy ein tasglu hawliau anabl. Mae'r cynllun yn cynnwys bwrdd cynghorol allanol, fyddai'n cael ei arwain gan bobl ag anableddau, er mwyn monitro'r ffordd y mae'n cael ei weithredu.

"Ar hyn o bryd rydyn ni'n ystyried yr ymatebion i'r broses ymgynghori, a byddwn yn sicrhau bod lleisiau pobl anabl yn parhau yn ganolog i'r ddogfen derfynol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.