Nifer o fusnesau wedi denu llai o ymwelwyr yn ystod yr haf

Wendy Beaney
Disgrifiad o’r llun,

Mae busnes "wedi dod lawr chydig bach wedi Covid a popeth", meddai Wendy Beaney

  • Cyhoeddwyd

Doedd yr haf sydd newydd fod ddim gyda'r gorau ym maes twristiaeth mae'n ymddangos, gyda mwy o fusnesau'n dweud y cawson nhw lai o ymwelwyr nag yn dweud y cawson nhw fwy.

Dim ond un ymhob chwech - 16% - ddywedodd eu bod wedi cael mwy o ymwelwyr o'i gymharu â'r un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Fe ddaw'r ffigyrau gan gangen ymchwil Llywodraeth Cymru. Fe gafodd 46% o fusnesau tua'r un nifer o ymwelwyr, ond fe gafodd 38% lai. Roedd mwy felly'n dweud iddi fod yn waeth, nag yn well.

Mae 'na alw am fwy o gymorth gan Lywodraethau Prydain a Chymru fel ei gilydd.

Disgrifiad o’r llun,

Doedd yr haf "ddim yn grêt ond ddim yn wael chwaith", meddai Wendy Beaney

"Ddim yn rhy ffôl," oedd barn Wendy Beaney, perchennog gwesty'r Mansion House yn Llangain yn Sir Gaerfyrddin wrth edrych yn ôl ar yr haf.

"Ni'n gyfarwydd â lefel sy'n dod trwyddo ar hyn o bryd... yn cymharu yr un peth â llynedd, obviously wedi dod lawr chydig bach wedi Covid a popeth ... ond mae o di setlo lawr ac mae'r haf wedi bod yn ok ... ddim yn grêt ond ddim yn wael chwaith."

O ran pam y byddai 'na lai o ymwelwyr roedd dros hanner y busnesau (55%) yn cyfeirio at y tywydd. Ond roedd dros bedwar deg y cant (42%) yn dweud bod pobl yn brin o arian.

Dydy'r casgliadau ddim yn syndod i Rowland Rees-Evans, sy'n Gadeirydd Cwmni Twristiaeth y Canolbarth, yn ogystal â chyfarwyddwr llety gwyliau Parc Penrhos yn Llanrhystud ger Aberystwyth.

"Oedd pawb yn disgwyl... ar ôl i chi edrych nôl dros yr haf sy jyst wedi mynd, tywydd ddim yn dda iawn, yn anffodus, costau byw dal yn uchel iawn a hefyd oedd Pasg yn gynnar doedd ddim yn help o ran hynny , ac wrth gwrs buon ni'n cael pêl-droed, y bencampwriaeth Ewropeaidd, oedd etholiad mawr i gael 'leni ac wrth gwrs yr Olympics yn ddiweddar."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r haf yn brysur os ydy'r haul yn dod mas, ond os ydy hi'n bwrw glaw mae'n dawel iawn," meddai Paul Norman

Wrth grwydro o amgylch Llansteffan roedd hi'n amlwg bod yr haf wedi hen gilio - er yn ddiwrnod digon braf. Roedd rhai pobl yn mwynhau'r heulwen y tu allan i dafarn y Castell, eraill yn ymlacio y tu mewn. Yn ôl Paul Norman, rheolwr y dafarn, mae'r tywydd yn hollbwysig.

"Mae'r haf yn fisi os ydy'r haul yn dod mas, ond os ydy hi'n bwrw glaw mae'n dawel iawn. Mae pobl yn dod i'r pentre’ i gerdded ar hyd y coastal path... os ydy'r haul yn dod mas, mae'n fisi."

Beth felly allai fod o gymorth i fusnesau yn y maes twristiaeth? Roedd gan Wendy Beaney ychydig o awgrymiadau.

"O ran gyda'r Llywodraeth fe fydda fo'n reli neis yn y wlad hyn i gael hospitality VAT rate fydda bach yn fwy isel na VAT rates eraill... ond maen nhw'n mynd i ddod mewn â tourism tax nawr. Gawn ni weld, rhyw beth fel 'na... mynd nôl i ddyddiau o business rates reductions, petha bach fel na i gefnogi'r busnesau."

'Manteisio ar y potensial'

Yn ôl Llywodraeth Cymru, hon ydy'r bumed flwyddyn yn olynol i fusnesau gael help efo'r bil treth - gwerth £78m o bunnau eleni - ac mae dau o gyrff yn cynnig cefnogaeth bellach sef Croeso Cymru a Business Cymru.

Fe allai cynghorau lleol gael yr hawl i godi treth ar ymwelwyr er y bydd o leia’ tair blynedd cyn hynny.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gan Gymru gymaint i'w gynnig i ymwelwyr ac rydym am sicrhau ein bod yn manteisio ar y potensial hwnnw mewn ffordd sy'n sicrhau cydbwysedd cynaliadwy rhwng ein cymunedau, busnesau, tirweddau ac ymwelwyr.

"Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'r sector twristiaeth i helpu i fynd i'r afael â'r heriau maen nhw'n eu hwynebu.

"Mae cefnogaeth benodol i'r sector ar gael i fusnesau drwy Fusnes Cymru a Chroeso Cymru, sy'n darparu cronfa buddsoddi cyfalaf, ymgyrchoedd marchnata a chefnogaeth arall ar gyfer gweithgareddau i hybu cyfraniad twristiaeth a lletygarwch i economi Cymru."

O ran amrywio'r dreth ar werth, mae Llywodraeth Prydain yn dweud mai penderfyniad i'r Canghellor fydd hynny yn y gyllideb.

Fe ddywedodd y Trysorlys hefyd fod 'na ymdrech i sicrhau bod busnesau'n cael eu talu'n brydlon, a bydd treth gorfforaethol - y dreth ar fusnesau mwy - yn cael ei chyfyngu i 25%.

Fe ddylai hynny meddan nhw ei gwneud hi'n rhwyddach i fusnesau drefnu cynlluniau buddsoddi.

Disgrifiad o’r llun,

"Dan ni bendant yn gwario. Os gwelwn ni ryw beth neis yn y dre, brynwn ni fo," meddai Glenda O'Connell o Billericay

Nid mai'r pethau hynny oedd ar feddwl Glenda O'Connell o Billericay yn Essex, wrth iddi fynd â'i chŵn am dro ar draeth Llansteffan.

"Mae'n wirioneddol hyfryd, mae'r traeth yn wych."

Fyddai hi'n gwario arian ar ôl dod? Byddai, medda hi.

"Dan ni bendant yn gwario. Os gwelwn ni ryw beth neis yn y dre, brynwn ni fo."

Mae Cymru'n dal i estyn croeso. Ond gorau oll os bydd na haul - ac arian hefyd.

Pynciau cysylltiedig