Diwrnod Shwmae Su'mae: Dechreuwch bob sgwrs yn Gymraeg

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Shwmae Su'maeFfynhonnell y llun, Swci Delic

Mae 15 Hydref yn Ddiwrnod Shwmae Su'mae.

Dyma ddiwrnod lle mae pawb yn cael eu hannog i ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg, drwy ddweud Shwmae (yn y de) neu Su'mae (yn y gogledd).

15 Hydref

Roedd y diwrnod cyntaf yn ôl yn 2013, ar ôl i’r awdur a'r bardd, Catrin Dafydd, gynnig y syniad i Fudiad Dathlu’r Gymraeg:

"Daeth y syniad ar ôl i fi a Mam fod mewn siop ym Mhontypridd a sylwi fod y person tu ôl i'r cownter yn siarad Cymraeg ar ddiwedd y sgwrs,” eglurodd.

“Roedd y ddwy ohonom yn meddwl mor dda fyddai cychwyn pob sgwrs gyda gair Cymraeg a normaleiddio hynny, er mwyn dangos fod y Gymraeg i bawb ac er mwyn ysgogi sgyrsiau yn Gymraeg ar hyd a lled Cymru.”

Catrin Dafydd yn ennill y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Catrin Dafydd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

Ers hynny, mae digwyddiadau yn cael eu cynnal ym mhob rhan o Gymru ar 15 Hydref bob blwyddyn, i annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg a dathlu’r iaith.

Dros y blynyddoedd, mae nifer o bobl enwog wedi cefnogi’r achlysur, fel y gantores Cerys Matthews, seren tîm pêl-droed Cymru Ben Davies a’r cyflwynydd Mari Lovgreen.

Logo Diwrnod Shwmae Su'mae ar Gastell Caernarfon yn 2017
Disgrifiad o’r llun,

Logo Diwrnod Shwmae Su'mae ar Gastell Caernarfon yn 2017

Dathlu 10

Y llynedd, roedd y diwrnod yn dathlu 10 mlynedd. Yn ôl Elin Maher, sydd wedi helpu i drefnu'r dathliadau dros y blynyddoedd, mae angen cael pobl i ddefnyddio'r Gymraeg, hyd yn oed pobl sydd ddim yn ei defnyddio yn aml:

"Defnyddio un gair bach ar un diwrnod... a pwy a ŵyr lle bydd hwnna yn eu harwain nhw yn y pendraw."

Mae'r diolch, meddai Elin, i'r ysgolion a gweithleoedd sydd yn trefnu llawer o weithgareddau i nodi'r diwrnod, a hyrwyddo'r Gymraeg.

"Maen nhw wedi cymryd y syniad syml yma o ddechrau sgwrs, ac mae 'na syniadau di-ri wedi dod o hynny, a digwyddiadau ar hyd a lled Cymru.

"Dyna sydd wedi tyfu y diwrnod hwn i fod lle mae e heddiw - y gwaith llawr gwlad."

Dyfodol disglair

Mae Elin yn gobeithio y bydd y diwrnod yn mynd o nerth i nerth, a'i fod yn help i gynyddu faint o bobl sy'n siarad y Gymraeg.

"Gobeithio y gwelwn ni'r Gymraeg yn ffynnu hyd yn oed yn fwy o fewn ein cymunedau ni, ac mewn ardaloedd sydd efallai ddim â Chymraeg mor ffyniannus," meddai.

"Ond hefyd i atgoffa pob rhan o Gymru bod angen i ni helpu'r Gymraeg a helpu eraill i ddod o hyd iddi hi."

Logo Diwrnod Shwmae Su'maeFfynhonnell y llun, Ddiwrnod Shwmae Su'mae

Mae Catrin Dafydd wrth ei bodd fod ei syniad dros ddegawd yn ôl wedi datblygu i fod yn ddiwrnod llawn brwdfrydedd tuag at y Gymraeg:

"Mae'r diwrnod yn parhau'n llwyddiannus heddiw oherwydd gwaith di-flino a dychmygus pobl yn eu cymunedau.

"Dwi'n cael fy ysbrydoli bob tro y bydda i'n gweld yr hyn mae pobl wedi ei drefnu."

Ac wrth gwrs, does yna ddim rhaid i chi ddim ond ddefnyddio'r geiriau Shwmae neu Su'mae – dyma gyfarchion eraill i chi eu trio:

  • Henffych!

  • Iawn?

  • Shwt mai'n ceibo?

  • Hawddamor

  • Ffor' wyt ti?

  • Iawn gei?

  • Pa hwyl?

  • Shwdi poni!

  • Sut mae'n gyrru?

  • Ti'n o lew?

Rhowch gynnig arni heddiw!

Geirfa

annog / to encourage

sgwrs / conversation

cynnig / to offer

syniad / idea

sylwi / to notice

cychwyn / to begin

ysgogi / to motivate

ar hyd a lled / the length and breadth

dathlu / to celebrate

enwog / famous

cefnogi / to support

achlysur / occasion

arwain / to lead

gweithleoedd / workplaces

gweithgareddau / activities

hyrwyddo / promote

di-ri / innumerable

llawr gwlad / grass-roots

o nerth i nerth / from strength to strength

cynyddu / to increase

ffynnu/ffyniannus / to thrive/thriving

atgoffa / to remind

brwdfrydedd / enthusiasm

llwyddiannus / successful

di-flino / tireless

dychmygus / imaginative

ysbrydoli / to inspire

cyfarchion / greetings

cynnig / attempt