Cunningham yn gadael ei rôl fel prif hyfforddwr merched Cymru

Ioan CunninghamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ioan Cunningham ei benodi yn brif hyfforddwr yn 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae Ioan Cunningham wedi gadael ei rôl fel prif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru.

Mewn datganiad brynhawn Gwener fe ddywedodd Undeb Rygbi Cymru (URC) eu bod wedi cytuno, ar y cyd â Cunningham, i ddod â'i gyfnod yn y swydd i ben wedi tair blynedd.

Daw'r cyhoeddiad wedi blwyddyn gythryblus i'r tîm ar, ac oddi ar, y cae wrth i URC gyfaddef bod methiannau difrifol yn y ffordd y cafodd trafodaethau cytundeb tîm y merched eu cynnal.

Yn ôl URC, fe fyddan nhw nawr yn dechrau'r broses o benodi prif hyfforddwr newydd, yn ogystal â bwrw 'mlaen â'r gwaith o fynd i'r afael â materion ar wahân sydd wedi codi yn ddiweddar.

Cafodd Cunningham, 41, ei benodi i'r rôl yn 2021 ac roedd disgwyl iddo arwain Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2025 yn Lloegr.

Mae'r undeb yn dweud y bydd prif hyfforddwr newydd wedi ei benodi cyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y flwyddyn nesaf, er mwyn rhoi cymaint o amser â phosib i'r tîm baratoi ar gyfer Cwpan y Byd.

Mae 2024 wedi gweld cyfres o ganlyniadau siomedig gan y tîm, gyda Chymru ond yn ennill pedair o'r 11 gêm brawf diwethaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Cymru ond wedi ennill pedair o'r 11 gêm brawf diwethaf

Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney mewn datganiad: "Hoffwn ddiolch yn ffurfiol i Ioan Cunningham am ei gyfraniad i gêm y merched yng Nghymru dros y tri thymor diwethaf.

"Mae Ioan wedi llywio'r cyfnod pontio rhwng amatur a statws proffesiynol, ac fe wnaeth o arwain y tîm i'w buddugoliaeth gyntaf erioed yn erbyn Awstralia yn gynharach eleni.

"Rydyn ni yn y dyddiau cynnar o ran proffesiynoli gêm y merched yng Nghymru ac mae 'na heriau yr ydyn ni'n ceisio mynd i'r afael â nhw, ond mae ein hymroddiad i'r agwedd hanfodol yma o'n gêm yn ddiwyro."

Ychwanegodd Ioan Cunningham: "Ry'n ni wedi gwneud cynnydd sylweddol ac mae 'na lwyddiannau y dylie ni fod yn falch ohonynt o ran datblygiad y garfan.

"Ond nawr yw'r amser cywir i rywun newydd ddod i mewn i arwain, a hoffwn ddymuno pob dymuniad da i bawb fydd yn rhan o'r broses honno yn y dyfodol."