Gweinidog am glywed yn 'uniongyrchol' am bryder chwaraewyr rygbi

rygbi CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru yn dweud y gall chwaraewyr rygbi benywaidd sydd wrth wraidd honiadau rhywiaeth siarad ag ef yn uniongyrchol am eu pryderon am y modd y cafodd trafodaethau cytundeb tîm y merched eu cynnal.

Dywed Jack Sargeant, gweinidog Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am chwaraeon, nad oedd yn rhaid i'r merched fynd drwy Undeb Rygbi Cymru ac y gallan nhw gysylltu ag ef, er mwyn diogelu eu cyfrinachedd.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mr Sargeant, fu'n cyfarfod swyddogion URC yn gynharach yr wythnos hon, fod pob Aelod o'r Senedd wedi cael eu “synnu a’u tristáu” gan honiadau bod y chwaraewyr wedi cael eu rhoi dan bwysau i arwyddo cytundebau newydd.

Mae swyddogion URC yn dweud y byddan nhw’n ymddiheuro’n bersonol i chwaraewyr tîm hŷn y merched ond maen nhw’n gwrthod yr honiad o rywiaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jack Sargeant ei fod eisiau clywed yn “uniongyrchol” gan y chwaraewyr

Dywedodd Mr Sargeant yn y Senedd ei fod eisiau clywed yn “uniongyrchol” gan y chwaraewyr fel ei fod yn deall eu pryderon yn llwyr.

“Rwy’n ceisio gwneud hynny mewn man lle maen nhw'n teimlo’n gyfforddus ac wedi’u gwarchod a bydd y cyfarfodydd hynny’n cael eu cynnal yn gyfrinachol.

“Gall y chwaraewyr naill ai wneud hynny trwy URC, neu’n uniongyrchol i mi, naill ai eu hunain, ar y cyd neu drwy eu cyrff cynrychioliadol, felly mae’n ofod diogel lle maen nhw’n teimlo’n gyfforddus yn rhannu’r hyn maen nhw eisiau ei rannu gyda mi fel bod gen i’r ddealltwriaeth lawn o ba gamau sydd angen eu cymryd."

Mae uwch swyddogion URC wedi cyfaddef methiannau difrifol yn y broses gytundebau a'u bod yn "hollol glir" y dylai'r corff llywodraethu ymddiheuro wrth chwaraewyr.

Mewn neges e-bost, a gafodd ei gweld gan y BBC, roedd hi'n ymddangos bod chwaraewyr wedi cael eu rhybuddio na fyddan nhw'n cael lle yng nghystadleuaeth WXV2 yn Ne Affrica a Chwpan Rygbi’r Byd y flwyddyn nesaf os nad oedden nhw’n arwyddo'r cytundeb.

Cafodd y chwaraewyr "gynnig olaf" ar 2 Awst, a rhybudd na fyddai gemau yn erbyn Seland Newydd, yr Alban ac Awstralia yn mynd yn eu blaenau ac y byddai’r cytundebau’n cael eu tynnu’n ôl os nad oedden nhw'n arwyddo o fewn tair awr.

Cafodd y mater ei godi yn y Senedd ddydd Mercher gan yr Aelod o'r Senedd Llafur, Hannah Blythyn, a ddywedodd mai rhywiaeth oedd hyn oherwydd na fyddai bygythiad o’r fath yn cael ei wneud i’r tîm dynion hŷn.

Dywedodd: “Nid yw, ac ni all ymddiheuriad fod yn ddiwedd arno”.

“Y tro hwn mae’n rhaid cael newid diwylliannol diriaethol ac ystyrlon,” meddai.

Daw’r honiadau newydd o rywiaeth ac anghydraddoldeb lai na blwyddyn ar ôl adolygiad annibynnol damniol o ddiwylliant Undeb Rygbi Cymru yn dilyn ymchwiliad gan BBC Cymru.

Mae disgwyl i adolygiad o’r broses gytundebau gyhoeddi ei argymhellion yn ddiweddarach y mis hwn.

Dywedodd Jack Sargeant ei fod am weld yr adroddiad hwnnw cyn iddo gael ei gyhoeddi.

Pynciau cysylltiedig