Rhybudd timau achub wedi galwadau i fynyddoedd Eryri mewn storm

Tîm Achub Mynydd Llanberis yn ateb galwad yn ystod Storm AmyFfynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Llanberis
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau Tîm Achub Mynydd Llanberis yn ymateb i ddigwyddiad ar fynydd Tryfan yn ystod Storm Amy

  • Cyhoeddwyd

Mae timau achub mynydd yn y gogledd wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd yn galw ar bobl i ystyried yn ofalus cyn mentro allan i'r mynyddoedd mewn tywydd garw.

Cafodd timau achub Llanberis, Dyffryn Ogwen ac Aberglaslyn eu galw i ddau ddigwyddiad yn ystod gwyntoedd cryfion Storm Amy - un ar fynydd Tryfan a'r llall yn ymwneud â dau berson oedd yn ceisio dringo Crib Goch.

Yn ôl y timau, mae'n rhaid ystyried diogelwch y gwirfoddolwyr hefyd wrth ymateb i alwadau mewn amodau peryglus.

Er yn cydnabod mai penderfyniad personol ydi mynd i fynydda mewn tywydd garw, mae'r timau yn erfyn ar bobl i sicrhau bod ganddyn nhw'r sgiliau, y profiad a'r cyfarpar cywir i allu gwneud hynny yn ddiogel.

Ar raglen Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd Elfyn Jones - sy'n aelod o dîm achub Llanberis - nad ydyn nhw am rwystro pobl rhag mynd i fwynhau'r mynyddoedd ond bod angen i bobl ystyried y perygl iddyn nhw ac i eraill.

"Mi oedd yna ragweld y storm ers dipyn o ddyddiau ynghynt ond dydi pobl ddim yn paratoi yn ddigonol a ddim yn edrych ar y rhagolygon cyn mynd allan i'r mynyddoedd, ac felly yn mynd i drybini ar y mynydd," meddai.

Cafodd Tîm Achub Mynydd Llanberis eu galw i argyfwng ar fynydd Tryfan dros y penwythnos yn ystod Storm Amy Ffynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Llanberis
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na ofyn ar bobl i ystyried diogelwch aelodau'r timau achub cyn mentro allan i fynyddoedd fel Tryfan

Ychwanegodd Mr Jones ei bod hi'n hanfodol fod y rhai sydd yn mynd allan i gerdded ar y mynyddoedd yn paratoi o flaen llaw.

"'Dan ni ddim yn erbyn pobl yn mynd allan mewn tywydd gwael ond be sydd angen ydi i bobl baratoi ac i feddwl be ydi effaith y gwynt, glaw a thywydd gwael arnyn nhw," esboniodd.

"Os ydyn nhw eisiau mynd i gerdded i Gwm Idwal neu fyny i Lyn Llydaw, mae hynny'n grêt, ond mae mynd i fyny Crib Goch neu grib ogleddol Tryfan mewn gwyntoedd cryfion tua 70-80mya yn mynd â nhw i fyd perygl iawn."

"Mae'n rhoi'r achubwyr mewn perygl, pobl gyffredin ydan ni hefyd."

Cafodd Tîm Achub Mynydd Llanberis eu galw i ddau achos dros y penwythnos yn ystod Storm Amy Ffynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Llanberis
Disgrifiad o’r llun,

Tîm Achub Mynydd Llanberis wrth eu gwaith ar Grib Goch

Wrth drafod yr achos penodol ar Grib Goch y penwythnos diwethaf, dywedodd Mr Jones iddyn nhw gael yr alwad am tua 07:00 ond eu bod wedi penderfynu peidio ymateb yn syth oherwydd y gwyntoedd cryfion.

"Doedd y ddau ddim wedi eu hanafu ac felly i fod yn ddiogel i bawb, wnaethon ni aros rhyw ddwy awr cyn anfon achubwyr allan, ar ôl iddi oleuo a'r gwynt ostegu," meddai.

"Mae'n ymddangos, yn eithaf sicr, bod y rhain wedi gweld Crib Goch ar TikTok a gyrru o dde Lloegr am antur a sialens, heb erioed fod fyny mynydd o'r blaen.

"Heb bwyntio gormod o fai.... mae'n amlwg fod angen mwy o baratoi na gwylio fideo ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Meddyliwch o ddifrif - a ydi'r gallu a sgiliau a'r offer iawn gennych chi, ac wrth gwrs, mae modd troi nôl bob tro.

"'Dan ni o hyd yn dweud bod y mynydd yn mynd i fod yno fory, wythnos nesaf neu fis nesaf."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.