Pryder wrth i bwysau cynyddol wynebu tîm achub mynydd

"Mae'r galwadau wedi cynyddu, does 'na'm dwywaith," meddai Dion Jones
- Cyhoeddwyd
Mae un o dimau achub mynydd y gogledd yn dweud eu bod wedi gweld cynnydd sylweddol mewn galwadau yn ddiweddar.
Yn ôl Tîm Aberglaslyn, sy'n gofalu am rannau o Eryri a Llŷn, maen nhw'n gorfod delio â chwech i saith gwaith yn fwy o ddigwyddiadau na'r hyn yr oedden nhw'n arfer ei gael.
A hithau'n gyfnod gwyliau'r Pasg maen nhw'n annog cerddwyr i baratoi cyn mentro.
Daw wedi i'r heddlu ddweud bod criwiau achub mynydd gwirfoddol yn y gogledd yn cael eu llethu oherwydd mwy o alwadau am gymorth.
'Mwy o bobl yn dod yma'
Dywedodd Dion Jones, 56, sy'n aelod o dîm Aberglaslyn: "Mae'r galwadau wedi cynyddu, does 'na'm dwywaith.
"Pan o'n i'n dechra' tua 30 mlynedd yn ôl, mi oeddan ni'n cael tua 10 galwad y flwyddyn.
"'Da ni fyny i 60-70 y flwyddyn rŵan."
Mae'r cynnydd mewn galwadau yn adlewyrchu'r nifer cynyddol o ymwelwyr sy'n dod i'r ardal, yn ôl Dion.
"Mae o'n syml - mae 'na fwy o bobl yn dod yma. Mae Eryri yn un o'r ardaloedd prysura' ym Mhrydain. Mae'r byd yn llai dydi."
Mae gan y tîm dros 30 o wirfoddolwyr ac maen nhw'n darparu gwasanaeth chwilio ac achub nid yn unig ar y mynyddoedd, ond hefyd mewn ardaloedd trefol a gwledig ar draws gogledd-orllewin Cymru.

Mae Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn yn gofalu am rannau o Eryri a Llŷn
Dion Jones sy'n cydlynu'r galwadau brys, ac mae'n cydnabod y gall damweiniau ddigwydd i unrhyw un, ar unrhyw adeg.
"Mae pobl yn mynd i ddisgyn, mae pobl yn mynd i frifo. Mae o' n digwydd. Does 'na ddim bai arnyn nhw.
"Ond, ma' 'na gynnydd wedi bod lle ti'n gweld pobl sydd ddim wedi paratoi, ac ella ddim yn meddwl mynd â'r offer iawn efo nhw, a ddim yn g'neud yn siŵr eu bod nhw'n gw'bod be' ma' nhw'n 'neud cyn mynd."
Er bod hysbysiadau diogelwch mynydd rheolaidd yn cael eu cyhoeddi, mae Dion yn credu nad yw'r negeseuon yn cyrraedd pawb.
"Dwi'n meddwl fod rhaid chwilio o lle ma'r bobl [ymwelwyr] yn dod, ac ella rhoi y negeseuon yn yr ardaloedd yna, fwy nag ardaloedd lleol yn fa'ma," meddai.
- Cyhoeddwyd1 Mawrth
- Cyhoeddwyd13 Ebrill
- Cyhoeddwyd7 Awst 2024
Ychwanegodd Dion fod natur y swydd hefyd wedi newid dros y blynyddoedd.
"'Da ni'n gweithio efo gwasanaethau brys er'ill mewn tywydd garw, eira, fflydio. 'Da i'n neud gymaint mwy na mynyddoedd."
Mae'r gwasanaethau achub mynydd yma yn dibynnu'n llwyr ar haelioni ac amser gwirfoddolwyr.
Ond gyda'r cynnydd mewn galwadau daw mwy o bwysau ar adnoddau.

Pryder Dave Evans yw bod pobl yn mentro i'r mynyddoedd heb baratoi, ar ôl gweld fideos neu luniau ar-lein
Mae'r heddlu a thimau achub mynydd yn dweud fod mwy o bobl yn cerdded y mynyddoedd a'r arfordir wedi iddyn nhw weld lluniau neu fideos o'r ardal ar gyfryngau cymdeithasol.
Mae Dave Evans, swyddog hyfforddi tîm Aberglaslyn, yn dweud bod hyn yn gallu arwain at drafferthion.
"Mae bob dim ar YouTube rŵan. Ma' pobl yn edrych ar hwnna a d'eud 'dwi isio g'neud hwnna fory', a dydyn nhw ddim yn paratoi i'w 'neud o.
"Adeg yna ma' anafiadau'n digwydd, a mae'n mynd i ddigwydd."
'Cyrraedd y top ydy hanner y ffordd'
Ar hithau'n wyliau'r Pasg, cyngor Dion Jones i unrhyw un sy'n mentro i'r mynyddoedd ydy i fod "efo'r offer iawn, a gwybod sut i ddefnyddio'r offer".
"Pan ma' nhw'n mynd allan ma' isio g'neud yn siŵr fod ganddyn nhw ddigon o ola' dydd - cychwyn mewn amser da.
"Dillad iawn, bwyd, diod, torch efo batri sbâr, map, cwmpawd - a hefyd gw'bod sut ma' defnyddio nhw. Ma' hynny yn bwysig!
"Mae'r mynydd yno fory. Os 'di'r tywydd ddim yn grêt, a dydi'r profiad ddim gennyn nhw - ma' isio nhw ddisgwyl tan bo' nhw'n fwy hyderus i fynd.
"Cyrraedd y top ydy hanner y ffordd, mae'n rhaid dod yn ôl i lawr. Hwnna sydd bwysica' - dod yn ôl i lawr mewn un pishyn."