'Torcalonnus' gorfod oedi hyfforddiant achub mynydd i godi sbwriel

Sbwriel wedi ei adael ar lawr ger coedenFfynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Canol y Bannau
Disgrifiad o’r llun,

Roedd barbeciws tafladwy, pecynnau bwyd a gwydr wedi torri yng nghanol y sbwriel gafodd ei adael

  • Cyhoeddwyd

Mae tîm achub mynydd yn dweud eu bod wedi gorfod oedi sesiwn hyfforddi er mwyn tacluso sbwriel oedd wedi ei adael mewn man poblogaidd.

Dywedodd rhai o wirfoddolwyr Tîm Achub Mynydd Canol y Bannau eu bod yn ymarfer mewn ardal sydd â nifer o raeadrau poblogaidd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog pan ddaethant ar draws y llanast.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y tîm eu bod "wedi gorfod dod â'r sesiwn i stop, ond nid er mwyn achub unrhyw un".

"Mae'n gwirfoddolwyr yn rhoi eu hamser i helpu pobl sydd mewn trafferth, ni ddylai tacluso sbwriel fod yn rhan o'r swydd - ond yn anffodus mae hyn yn dod yn fwyfwy cyffredin," meddai'r tîm.

Dywedodd y tîm fod gweld natur yn cael ei drin fel "bin sbwriel" yn un o ardaloedd mwyaf prydferth Cymru yn "dorcalonnus".

"Bu'n rhaid oedi'r hyfforddiant wrth i'n gwirfoddolwyr gasglu gymaint o sbwriel â phosib."

'Perygl i fywyd gwyllt ac ymwelwyr'

Mae tua phedwar miliwn o bobl yn ymweld â'r parc cenedlaethol bob blwyddyn, ac roedd 'na ymgyrch gan awdurdod y parc y llynedd i annog twristiaid i barchu'r ardal.

Roedd barbeciws tafladwy, poteli plastig, pecynnau bwyd gwag a gwydr wedi torri yng nghanol y sbwriel oedd wedi ei adael.

Yn ôl y tîm achub mynydd, "yn ogystal â difrodi'r dirwedd ac edrychiad yr ardal, mae'n beryglus i fywyd gwyllt, da byw ac ymwelwyr".

Galw mae'r aelodau ar i'r rhai sy'n ymweld â Bannau Brycheiniog i ddilyn y rheolau syml, ac i fynd ag unrhyw beth maen nhw'n dod gyda nhw adref pan maen nhw'n gadael.

Aelodau o'r tîm achub mynydd yn clirio'r sbwrielFfynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Canol y Bannau
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tîm achub mynydd yn pwysleisio na ddylai codi sbwriel fod yn rhan o waith eu gwirfoddolwyr

Mae ffigyrau Cadwch Gymru'n Daclus yn dangos fod pecynnau bwyd i'w gweld ar 26.4% o strydoedd a bod poteli neu gwpanau ar 43.6%.

Mae'r sefydliad yn dweud bod hyn yn arwydd clir o'r "diwylliant tafladwy" sy'n dechrau gadael ei hoel ym mhob cornel o'r wlad ac yn "difrodi ein hamgylchedd naturiol arbennig".

Daw'r sylwadau wrth iddyn nhw lansio ymgyrch 'Creu Straeon, Nid Sbwriel' i geisio codi ymwybyddiaeth o'r broblem.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi galw ar ymwelwyr i barchu parthau gwyrdd ac i ymddwyn yn gyfrifol yn yr awyr agored yn ystod yr haf.

"Er mwyn osgoi tanau gwyllt, peidiwch â chynnau tanau wrth wersylla, taflu sigarennau neu adael sbwriel yng nghefn gwlad - yn enwedig poteli gwydr," meddai'r corff.

Galw mae'r corff hefyd ar i bobl fod yn ofalus o amgylch mannau ble mae dŵr yn ffactor - gan ychwanegu fod nofio ger rhaeadrau yn gallu bod yn beryglus oherwydd y cerrynt cryf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.