Prifysgol wedi diswyddo dau uwch academydd yn deg
- Cyhoeddwyd
Mae tribiwnlys cyflogaeth wedi dyfarnu bod Prifysgol Abertawe wedi gweithredu'n deg wrth ddiswyddo dau uwch academydd am fethu â datgan buddion ariannol mewn datblygiad gwerth £200m.
Roedd yr achos yn ymwneud â'r prosiect Pentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant yn Llanelli.
Gwrthododd y tribiwnlys honiadau bod cyn-Ddeon yr Ysgol Reolaeth, Yr Athro Marc Clement a'i gydweithiwr, Steven Poole, wedi cael eu diswyddo'n annheg am gamymddygiad dybryd yn 2019 am fethu â datgan eu diddordeb ariannol yn y prosiect.
Cafodd y ddau eu diswyddo ar ddiwedd gwrandawiad disgyblu annibynnol hir a ddechreuodd yn 2018 wedi i'r ddau gael eu hatal o'r gwaith. Methodd apeliadau'r ddau ddyn yn ogystal.
Cafodd cyn-Is-Ganghellor y brifysgol, Yr Athro Richard B Davies, hefyd ei ddiswyddo am gamymddygiad nad oedd yn ymwneud ag ecwiti posib yn y prosiect, a'r gred yw ei fod yntau am fynd â'i achos i dribiwnlys arall.
Dan orchmynion y brifysgol, rhaid i bob aelod o staff ddatgan buddion ariannol a rolau allanol.
Clywodd y tribiwnlys y byddai'r Athro Clement wedi bod â chyfran "allgarol" o 24% ym mhrosiect y pentref llesiant.
Clywodd mai'r bwriad oedd dal y cyfranddaliadau mewn ymddiriedolaeth a buddsoddi'r elw i ariannu achosion da ac ymchwil gwyddorau bywyd yn ei dref enedigol, Llanelli, a'r ardal ehangach.
Roedd y prosiect yn ceisio sicrhau £40m dan Fargen Dinas-Ranbarth Bae Abertawe, ac yn fenter rhwng y brifysgol, Cyngor Sir Gâr a chwmni Sterling Health.
Daeth y prosiect i ben yn sgil atal sawl unigolyn o'u gwaith, ac mae cynllun pentref llesiant hollol newydd, Pentre Awel, yn cael ei ddatblygu erbyn hyn.
Roedd yr Athro Clement ond wedi cyfeirio at "strwythurau corfforaethol newydd" wrth ddatgan diddordebau.
Cofnododd Mr Poole ddiddordeb, ym mis Ionawr 2018, 30 mis wedi i wybodaeth berthnasol gael ei rhannu gyda buddsoddwyr posib, ac a ddaeth i sylw cyfarwyddwr cyllid y brifysgol ar y pryd.
Ni fanylodd yn y datganiad gyfran o 5% yn y prosiect, £125,000 at bris tŷ uwchraddol am bris gostyngol, a swydd gyda chyflog o £250,000 y flwyddyn fel prif weithredwr nesaf Sterling Health.
Mewn datganiad ysgrifenedig yn cadarnhau'r dyfarniad, dywedodd y Barnwr Jenkins "bod dim byd yn awgrymu unrhyw ddiffygion gweithredu yn y ffordd y rheolodd y [brifysgol] mewn cysylltiad â'r ddau hawlydd".
Ychwanegodd bod hi'n rhesymol i'r brifysgol "ddod i'r casgliad bod ymddiriedaeth a ffydd wedi eu torri, a bod yr achos o dorri'r polisi gwrthdaro buddion yn ddifrifol ac yn gamymddygiad dybryd".
Honnodd yr Athro Clement yn ystod y tribiwnlys ei fod wedi datgan cyfran ecwiti posib i gadeirydd Cyngor y Brifysgol ar y pryd, Syr Roger Jones.
Ond yn ôl y barnwr, "doedd dim byd" i awgrymu bod yr Athro Clement "wedi datgelu unrhyw fanylion sut y gellid ef yn bersonol fod wedi elwa o'r prosiect".
Dywedodd fod Mr Poole, er nad oedd yn aelod o uwch dîm rheoli'r brifysgol, yn aelod cymharol uchel o'r staff, oedd yn gyfrifol am nifer o weithwyr eraill.
Roedd yn rhesymol, meddai, i'r brifysgol ei ddiswyddo yntau hefyd er gwaethaf ei "record dda flaenorol".
Nid oes cadarnhad eto a fydd y brifysgol, sydd wedi croesawu dyfarniad y tribiwnlys, yn ceisio hawlio costau cyfreithiol gan y ddau academydd.
Dywedodd llefarydd mewn datganiad bod y brifysgol "wedi gweithredu'n unol â'i gorchmynion" a'r ddau unigolyn wedi eu diswyddo "yn dilyn proses ddisgyblu annibynnol manwl".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2018