Hiraeth am hen siopau cyfarwydd y stryd fawr
- Cyhoeddwyd
Mae rhodd wedi ei gyflwyno i Brifysgol Bangor yn enw Albert Gubay - sylfaenydd siop Kwik Save, a agorodd ei gangen gyntaf ym Mhrestatyn nôl yn yr 1950au.
Yn y blynyddoedd a fu, roedd Kwik Save i'w gweld ar nifer o'n strydoedd mawr, ond cau fu hanes y siopau.
Pa siopau Cymreig eraill, oedd yn ganolbwynt i'n siopa wythnosol, sydd bellach wedi diflannu?
Kwik Save

Entrepreneur o'r Rhyl oedd Albert Gubay, a sefydlodd Value Food - a drodd yn Kwik Save - yn 1959.
Daeth y siopau, oedd yn gwerthu bwyd a nwyddau'n rhad, yn boblogaidd iawn.
Gwerthodd Albert Gubay y cwmni yn 1973 am $28m.
Aeth Kwik Save i'r wal ddiwedd y '00au, ac fe gafodd fersiwn o'r cwmni ei adfer yn 2012.
B J Jones

Sawl mam o'r gorllewin a brynodd ffrog o B J Jones Llambed er mwyn mynd i briodas?!
Benjamin John Jones gychwynnodd y siop ddillad ym mharlwr ei fam yn Alltyblaca, tu allan i'r dref, ac fe gafodd y busnes ei gofrestru yn 1921.
Wrth i arferion siopa pobl newid, bu'n rhaid i'r siop gau yn 2006, er mawr siom i'r gymuned.
David Evans

Hen siop arall a gaeodd ddechrau'r '00au, a hynny ar ôl degawdau, oedd David Evans yn Abertawe.
Dyma oedd siop adrannol (department store) hynaf Cymru, a bu'n masnachu ers 1900.
Cafodd y siop ei difrodi gan fomiau'r Ail Ryfel Byd, a bu'n rhai ailgodi'r adeilad ar yr un safle.
Ond ar ôl cau'r drws am y tro olaf yn 2005, cafodd yr adeilad cyfarwydd ei ddymchwel yn 2007.
National Milk Bar

Y bar llaeth yn Aberystwyth
Doedd trip siopa ddim byd heb baned, ac ar un adeg, roedd 17 caffi National Milk Bar i'w canfod yng Nghymru, ac eraill yng ngogledd-orllewin Lloegr.
Wedi eu sefydlu ym Mae Colwyn yn 1933 gan Robert "Willie" William Griffiths - ffermwr o'r Trallwng - un gangen o'r bar llaeth sydd wedi goroesi heddiw, a hynny yn Ellesmere Port.
Kerfoots

Yn 2018 caeodd drysau siop Kerfoots ym Mhorthmadog am y tro olaf, ar ôl gwasanaethu'r ardal ers 144 mlynedd.
Erbyn iddo gau roedd yn siop adrannol, ond haearnwerthwyr (ironmongers) oedd y cwmni pan gafodd ei sefydlu yn 1874.
Dan Evans

Tad y gwleidydd Gwynfor Evans a sefydlodd siop Dan Evans, a hynny yn Y Barri yn 1905.
Roedd Dan Evans wedi prynu'r siop haearnwerthwyr ble'r oedd wedi gwneud ei brentisiaeth, ac wedi agor ei siop ei hun.
Cafodd y siop ei chau yn 2006, flwyddyn yn unig ar ôl iddi ddathlu ei chanmlwyddiant.
Castle Bakery

Cafodd chwe siop Castle Bakery eu cau yn 2016, ar ôl gwasanaethu'r gogledd orllewin am 130 o flynyddoedd.
Sefydlwyd y popty gan William Roberts yn 1885 ar ôl iddo ddychwelyd i Fôn wedi cyfnod ym Mhatagonia.
Roedd wedi bod yn siop gyfarwydd i drigolion Caernarfon, Bangor, Porthaethwy, Biwmares a Chaergybi ers cenedlaethau.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd26 Medi 2023