Prifysgol Bangor yn derbyn £10.5m - y rhodd fwyaf erioed

- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Bangor wedi derbyn rhodd o £10.5m - y rhodd fwyaf yn hanes y brifysgol.
Mae'r arian er cof am sylfaenydd Kwik Save, Albert Gubay, a gafodd ei eni a'i fagu yn Y Rhyl.
Mae'r brifysgol yn dweud bod modd dadlau mai dyma'r "rhodd fwyaf i unrhyw brifysgol yng Nghymru".
Bydd yr arian yn galluogi'r brifysgol i sefydlu Ysgol Fusnes Albert Gubay, gan symud yr ysgol fusnes bresennol i "gyfleuster deinamig a modern".
Mae disgwyl i'r gwaith o adeiladu'r ysgol fusnes newydd ar hen safle Ysgol Friars ddechrau yn 2026, a'r gobaith yw y bydd yn barod erbyn 2027.
Pwy oedd Albert Gubay?
Cafodd Albert Gubay (1928-2016) ei eni a'i fagu yn Y Rhyl.
Roedd yn arloeswr mewn adwerthu, ac fe ddechreuodd y gadwyn Value Foods yn Y Rhyl ym 1959.
Mae'n fwyaf enwog am sefydlu Kwik Save, gan agor y siop gyntaf ym Mhrestatyn ym 1965.
Fe ddechreuodd ar ei yrfa yn 1948 gan werthu melysion di-siwgr yng ngogledd Cymru pan oedd siwgr wedi ei ddogni, ac yna bu'n gwerthu nwyddau mewn marchnadoedd.

Mae Albert Gubay yn fwyaf enwog am sefydlu Kwik Save
Mae Sefydliad Elusennol Albert Gubay yn rheoli eu heiddo drwy is-gwmni, Derwent Estates.
Mae'r incwm a ddaw o'r eiddo yn cefnogi rhaglen grantiau'r sefydliad.
Ers 2016, mae'r sefydliad wedi rhoi dros 700 o grantiau, gan ariannu amrywiaeth o brosiectau cymunedol ac addysgol ledled Cymru a thu hwnt.
'Gweithred ryfeddol o haelioni'
Wrth ddiolch am y rhodd, dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro Edmund Burke: "Mae'r weithred ryfeddol hon o haelioni yn adlewyrchu ymrwymiad Albert Gubay drwy gydol ei oes i rymuso entrepreneuriaid y dyfodol.
"Mae'n briodol iawn y bydd yr adeilad newydd yn dwyn ei enw, gan sicrhau bod ei etifeddiaeth yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau o fyfyrwyr y dyfodol.
"Er bod y dirwedd ariannol yn heriol i brifysgolion ar hyn o bryd, mae buddsoddi'n strategol mewn meysydd allweddol fel hyn yn hollbwysig er mwyn sicrhau cynaliadwyedd a thwf hirdymor ein sefydliad."

Dyluniad o sut y bydd Ysgol Fusnes Albert Gubay yn edrych
Wrth siarad ar ran Sefydliad Elusennol Albert Gubay, dywedodd Mrs C Gubay: "Mae ein sefydliad yn falch o gefnogi'r project hwn sy'n llawn gweledigaeth.
"Bydd Ysgol Fusnes Albert Gubay yn fan lle gall myfyrwyr dyfu, arloesi, a dod yn entrepreneuriaid y dyfodol.
"Credwn y bydd yn helpu i lunio dyfodol addysg fusnes, yng ngogledd Cymru a thu hwnt.
"Rhan annatod o'r penderfyniad hwn i gefnogi Prifysgol Bangor yw ymrwymiad y brifysgol i ddenu myfyrwyr Cymru i aros yn eu mamwlad i astudio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd12 Medi 2024