Gyrrwr bws yn ymddeol ar ôl 59 mlynedd wrth y llyw

keithFfynhonnell y llun, Keith Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Keith Davies, 84, wedi bod yn gyrru bysus ers 1965

  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n ddiwedd cyfnod yn Sir Benfro wrth i Keith Davies ymddeol wedi 59 mlynedd yn gyrru bysus yn yr ardal.

Ers 1965 mae Keith, sydd o bentref Glandwr ger Crymych, wedi cludo miloedd o bobl yng ngorllewin Cymru ac wedi dod i 'nabod yr ardal cystal â chefn ei law.

Yn siarad ar raglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru, dywedodd Keith: "Mae’r plant cyntaf o’n i’n ei yrru i’r ysgol yn eu 70au heddi!

“Dwi ddim yn gwybod ble mae’r 59 mlynedd 'na wedi mynd, ond ma' nhw wedi pasio.”

Ffynhonnell y llun, Keith Davies

Fe weithiodd Keith i wahanol gwmnïau yn y gorllewin dros y blynyddoedd cyn penderfynu ei bod hi'n amser rhoi'r gorau iddi, yn 84 oed.

“O’n i gyda chwmni Jones Login am 46 o flynydde, a fues i ym Maenclochog am saith mlynedd, ac yna gyda Midway nawr am chwe blynedd,” meddai Keith.

Y bws cyntaf

Mae Keith yn cofio ei fws cyntaf o ddechrau ei yrfa'n gyrru.

“O’n i’n dreifio half-cab, crash box iddi, ac o’n i’n dreifio hi am sawl blwyddyn lan i Ysgol Preseli.

“Mae half-cab yn golygu bod y gyrrwr lan yn y cab ben ei hunan.”

Ffynhonnell y llun, Keith Davies
Disgrifiad o’r llun,

Bws Jones Login o'r 1950au - y bws yr oedd Keith yn ei yrru i gludo plant i'r ysgol

Yn siarad efo Shân Cothi dywed Keith bod disgyblu'r plant ar y bws ysgol erioed wedi bod yn broblem fawr: "Doedd dim fawr o angen disgyblu – mae parch mawr ‘di bod gen i at y plant dros y blynydde, ac os o’n i’n holi am unrhyw ffafr odd e i gael."

Er hyn, dywed Keith bod newidiadau wedi bod yn y diwydiant dros y blynyddoedd.

“Mae pethau 'di altro’n fawr, mae eisiau seat-belts ag ati, a sa i’n dweud bo’r plant yn ffrind iawn â'r rheiny.

“Pan basies i fy nhest nes i gael leisens, ffeindio bws a bant â ni. Erbyn heddi mae eisie CRB, CPC ac mae dipyn o waith papur i’w wneud.”

Ffynhonnell y llun, Midway Motors

Newidiadau dros y blynyddoedd

Yn y 1960au roedd prawf trwydded bysus yn dra gwahanol i heddiw.

“Rownd yr Efail Wen fuodd hi bryd hynny – rownd y sgwâr a throi rownd ac ateb cwpl o gwestiyne. Wedodd e wrtha i fod rhaid fi fynd dim pellach, odd e’n gwybod mod i’n gallu handlo fe’n iawn a 'na i gyd am biti ‘ni.

“Faint gwell dreifars sydd heddi wedi mynd drwy’r tests i gyd so i’n gwybod.”

Ffynhonnell y llun, Midway Motors

A oedd yna barti i ddathlu wrth i Keith ymddeol?

“Dim parti, ond aethon ni lan i Lanfyllin ar y penwythnos gan fod fy wyres wedi cael babi bach o’r enw Gruff. Mae naw o wyrion 'da fi, a’r babi yma odd fy nawfed gor-ŵyr i.

"‘Nathon ni ei weld e, ac yna lan i Fangor a chael noson fan yna cyn dod 'nôl."

Amser i ymlacio ar ôl ymddeol?

Does gan Keith ddim cynlluniau i arafu hyd yma: “Dwi’n teimlo bo' fi dal yn mynd biti’r lle dal i fod."

Bydd y gymuned yn siŵr o'i gweld hi'n od heb Keith ar y lonydd, awgrymodd Shân Cothi.

“Sai’n gwybod am hynny, fydden nhw’n falch o’n wared i falle!” atebodd Keith.

Ond er ei sylwadau diymhongar, mae ardal y gorllewin yn debygol o deimlo colled enfawr yn dilyn penderfyniad Keith i adael sedd flaen y bws.

Ffynhonnell y llun, Keith Davies

Pynciau cysylltiedig