Ymchwiliad i dân mawr ar ystad ddiwydiannol yn Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad ar y gweill i achos tân mawr ar ystad ddiwydiannol yn Sir y Fflint.
Bu dros ugain o ddiffoddwyr tân yn ceisio rheoli'r fflamau ar Stad Ddiwydiannol Pentre yn Sandycroft wedi iddyn gael eu galw am oddeutu 14:45 ddydd Gwener.
Bu rhaid defnyddio offer arbennig wrth i'r tân ledaenu drwy'r adeilad gan achosi cwmwl o fwg du yn yr ardal.
Does dim adroddiadau o anafiadau ac roedd yna gyngor i bobl osgoi'r ardal.