Pawb yng Nghymru sy'n cadw adar yn gorfod cofrestru

IârFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe allai'r rheiny sydd ddim yn cofrestru wynebu dirwy o hyd at £5,000 neu chwe mis o garchar

  • Cyhoeddwyd

O ddydd Mawrth bydd yn rhaid i unrhyw un sy'n cadw adar yng Nghymru gofrestru eu hunain gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.

Cyn hyn, dim ond pobl oedd yn cadw 50 neu fwy o adar oedd yn gorfod cofrestru eu hadar yn gyfreithiol, ond o 1 Hydref ymlaen ni fydd maint yr haid yn berthnasol.

Ond nid oes angen cofrestru adar anwes os ydyn nhw'n byw dan do drwy'r amser.

Atal clefydau fel ffliw adar rhag lledaenu ydy pwrpas y rheolau newydd, a bydd gofyn i geidwaid gofrestru'n flynyddol.

'Newyddion llwyr i fi'

Fe allai'r rheiny sydd ddim yn cofrestru wynebu dirwy o hyd at £5,000 neu chwe mis o garchar, yn ddibynnol ar y niwed sydd wedi'i achosi.

Mae'r newidiadau yn dod i rym yn Lloegr hefyd.

Ond mae'n amlwg nad yw pawb sy'n cadw adar yn ymwybodol o'r rheolau newydd.

Ffynhonnell y llun, Guto Lloyd-Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Guto Lloyd-Davies nad oedd yn ymwybodol o'r newid yn y gyfraith

Mae Guto Lloyd-Davies o ardal Dinbych yn cadw un iâr.

Dywedodd nad oedd wedi clywed am y newid yn y gyfraith, ac y gallai fod yn drafferth gorfod cofrestru yn flynyddol fel rhywun sy'n cadw un iâr yn unig.

"Mae'n siŵr y byse hyn yn gallu bod yn boen, gorfod mynd ar-lein i gofrestru hefo dim ond un iâr, a dim ond rŵan dwi'n clywed am hyn i fod yn onest," meddai wrth Cymru Fyw.

"Mi o'n i'n ymwybodol bod dyletswydd i reportio marwolaeth iâr, ond ma' hwn yn newyddion llwyr i fi.

"Ar y llaw arall mae o'n gwneud synnwyr mae'n siŵr - gwybod yn union faint o adar sydd, ac yn lle maen nhw, yn enwedig hefo'r math o haint sy'n medru ymledu'n gyflym."

Ffynhonnell y llun, Guto Lloyd-Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Guto Lloyd-Davies o ardal Dinbych yn cadw un iâr - Pip

Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Materion Gwledig, y bydd "y gofyniad newydd hwn yn ein galluogi i gyfathrebu â cheidwaid adar yn effeithiol, sy'n hanfodol i'n helpu i reoli achosion o glefydau fel ffliw adar".

"Rydym yn annog pob ceidwad yng Nghymru i gofrestru eu hadar."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Huw Irranca-Davies y bydd "y gofyniad newydd hwn yn ein galluogi i gyfathrebu â cheidwaid adar yn effeithiol"

Mae'r amaethwr a'r cyflwynydd Alun Elidyr yn gweld manteision y cynllun, ond yn dweud fod ganddo bryderon hefyd.

"Falle fod o’n syniad da i wybod faint o ddofednod a gedwir ym mhle er mwyn gallu ymateb yn gyflym i heintiau megis ffliw adar," meddai.

"Ond dwi’n gobeithio y bydd hysbysu effeithiol gan y rheoleiddwyr o’r drefn newydd, a bod dull hawdd i gofrestru, ac y bydd cymedroldeb doeth yn cael ei ddefnyddio ar ôl ei chyflwyno o ran gweithredu unrhyw gosbau.

"Mae yna beth wmbreth o bobl yn cadw iâr neu ddwy i gael wyau i’r tŷ, sy’n byw mewn ardaloedd gwledig ble mae’r rhyngrwyd yn dal yn affwysol o wael.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Elidyr yn gobeithio y bydd "cymedroldeb doeth... o ran gweithredu unrhyw gosbau"

Ychwanegodd Richard Irvine, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru: "Bydd y gofynion cofrestru newydd o 1 Hydref yn helpu ceidwaid adar i ddiogelu eu heidiau.

"Bydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn gallu cysylltu â cheidwaid adar os oes achosion o glefyd hysbysadwy yn eu hardal, fel ffliw adar, i'w hysbysu am y camau y mae angen iddynt eu cymryd i ddiogelu iechyd eu hadar, ac i atal clefydau rhag lledaenu.

"Mae'n bwysig cofio bod hylendid a bioddiogelwch craff yn parhau i fod yn hanfodol i ddiogelu heidiau rhag bygythiad afiechydon.

"Mae ceidwaid adar wedi gweithio'n galed i ddiogelu eu heidiau rhag peryglon ffliw adar yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac rwyf am ddiolch iddynt am eu hymdrechion parhaus."

Pynciau cysylltiedig