Tirlithriad ar yr A470 wrth i dywydd garw daro Cymru

Mae tirlithriad wedi bod ar yr A470 ger Dinas Mawddwy yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae trafferthion wedi bod ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd Ddydd Calan wrth i dywydd garw daro Cymru.
Mae sawl rhybudd llifogydd wedi bod mewn grym, dolen allanol gan Gyfoeth Naturiol Cymru, gyda'r rhai mwyaf difrifol yn y gogledd a'r canolbarth.
Roedd tirlithriad ar yr A470 yn ne Gwynedd, a phobl wedi cael eu hachub o'u ceir mewn llifogydd.
Cafodd sawl digwyddiad oedd i fod i gael eu cynnal Nos Galan a Dydd Calan eu canslo hefyd.
Fe gafodd hyrddiad o 67mya ei gofnodi yn Aberdaron yng Ngwynedd dros nos.

Car wedi'i adael mewn dŵr llifogydd yn Llanrwst ddydd Mercher
Roedd rhybudd melyn am law trwm mewn grym o brynhawn Mawrth tan 11:00 ddydd Mercher, oedd yn weithredol ar gyfer pob rhan o Gymru oni bai am siroedd Ynys Môn, Penfro, Bro Morgannwg a Mynwy.
Roedd rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn grym o 00:15 tan 15:00 Ddydd Calan, a hynny ymhob rhan o Gymru oni bai am Ynys Môn.
Mae rhybudd melyn arall am rew mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o'r gogledd a'r canolbarth ers 16:00 ddydd Mercher tan 10:00 fore Iau.
Mae rhybudd arall mewn grym dros y penwythnos, a hynny am eira.
Mae hwnnw'n weithredol ym mhob sir yng Nghymru o 12:00 ddydd Sadwrn tan 09:00 fore Llun.

Ffordd dan ddŵr yn ardal Meifod ym Mhowys
Mae tirlithriad wedi bod ar yr A470 ym Mwlch yr Oerddrws ger Dinas Mawddwy yng Ngwynedd.
Bu'r ffordd ynghau am gyfnod cyn ailagor yn rhannol am fod modd pasio yn ddiogel, ac mae bellach wedi ailagor yn llawn.
Mae'r A487 wedi bod ynghau ger Derwen-las ar gyrion Machynlleth oherwydd llifogydd.
Mae dwy ffordd brysur yn Nyffryn Conwy wedi bod ar gau hefyd ar ôl i Afon Conwy orlifo, sef yr A470 ger Maenan a'r B5106 rhwng Conwy a Betws-y-coed.
Cafodd dau o bobl eu hachub o gar ar y B5106 i'r gorllewin o Lanrwst yn Sir Conwy fore Mercher.
Bu'r A494 ynghau yn ardal Llanuwchllyn yng Ngwynedd am gyfnod dros nos wedi i gar fynd yn sownd yno hefyd, cyn i'r ffordd ailagor fore Mercher.

Afon Dyfrdwy yn uchel iawn yn Llangollen ddydd Mercher
Ar y rheilffyrdd, dywedodd Trafnidiaeth Cymru bod llifogydd yn effeithio ar sawl llinell, gan annog pobl i wirio cyn teithio.
Roedd coeden wedi disgyn ar y trac yn Llanwrtyd ym Mhowys, oedd yn golygu bod trafferthion i'r rheiny fu'n ceisio teithio rhwng Abertawe ac Amwythig.
Yng Nglannau Dyfrdwy bu'r rheilffordd ynghau rhwng Shotton yn Sir y Fflint a Chilgwri oherwydd llifogydd.
Roedd trenau Trafnidiaeth Cymru rhwng Amwythig a Chaer hefyd wedi'u heffeithio oherwydd llifogydd ger Gobowen.

Ceir yn gorfod troi am yn ôl ar yr A470 yn sgil llifogydd ar yr A470 yn ardal Maenan, Sir Conwy
Bu'n rhaid gohirio'r gêm rhwng Y Bala a Chaernarfon yn y Cymru Premier ar hanner amser brynhawn Mawrth, gyda'r gêm yn ddi-sgôr, gan fod yr amodau ym Maes Tegid yn peryglu diogelwch y chwaraewyr.
Cafodd sawl digwyddiad nofio blynyddol i nodi Dydd Calan yn Sir Benfro eu canslo yn sgil y tywydd - yn Nhrefdraeth, Hafan Fach a Phorth Mawr ger Tyddewi.
Dywed RNLI Porthdinllaen eu bod "er mwyn diogelwch pawb oedd yn bwriadu cymryd rhan" wedi gohirio'r drochfa flynyddol yno nes gwyliau'r Pasg.

Mainc dan ddŵr ger Afon Elwy yn Llanelwy, Sir Ddinbych fore Mercher
Cafodd dathliad Nos Galan pier Bangor nos Fawrth ei ganslo hefyd am resymau diogelwch.
Fe fyddai'r digwyddiad wedi nodi 1,500 o flynyddoedd ers sefydlu'r ddinas.
Nid oedd arddangosfa tân gwyllt 'chwaith am hanner nos ym Miwmares "gan fod dim arwydd bod rhagolygon y tywydd am wella".

Aeth car yn sownd mewn llifogydd ger Llanuwchllyn, cyn i'r dŵr gilio fore Mercher
Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio'r cyhoedd y byddai "amodau teithio yn beryglus" ddydd Mawrth a dydd Mercher.
Fe wnaethon nhw apelio ar bobl i beidio cerdded na gyrru trwy lifddwr", gan rybuddio bod "60cm o ddŵr sy'n llifo yn ddigon i symud eich car".
Roedden nhw hefyd yn "gofyn i bobl osgoi teithio i'n coedwigoedd a'n gwarchodfeydd" Ddydd Calan oherwydd rhagolygon y tywydd.
Dywedodd llefarydd eu bod yn deall "y bydd pobl yn edrych ymlaen at fynd allan i'r awyr agored" ond "yn dilyn difrod a achoswyd yn ystod Storm Darragh, diogelwch yw ein prif flaenoriaeth, ac mae'r perygl o goed neu ganghennau'n syrthio yn parhau i fod yn sylweddol".
Fe rybuddiodd hefyd "efallai y byddwn yn cau ein meysydd parcio a chyfleusterau eraill ar fyr rybudd".