Jac Morgan i fethu dechrau'r Chwe Gwlad oherwydd anaf

Cafodd Morgan anaf i'w ysgwydd yn ystod y golled yn erbyn yr Ariannin
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl y bydd capten Cymru, Jac Morgan yn methu dechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2026 oherwydd anaf.
Fe wnaeth Morgan anafu ei ysgwydd yn ystod colled Cymru i'r Ariannin yng ngêm gyntaf Cyfres yr Hydref.
Mae'r blaenasgellwr 25 oed wedi derbyn llawdriniaeth, gyda rheolwr y Gweilch Mark Jones yn dweud ei fod yn debygol o fod allan am "bedwar i bum mis".
Fe fydd ymgyrch Cymru yn y Chwe Gwlad yn dechrau oddi cartref yn erbyn Lloegr ar 7 Chwefror cyn croesawu Ffrainc i Gaerdydd ar 15 Chwefror, a'r Alban wythnos yn ddiweddarach.
Os yw Morgan yn gwella fel y disgwyl, yna o bosib fe allai fod ar gael ar gyfer y ddwy gêm olaf yn erbyn Iwerddon ar 6 Mawrth a'r Eidal ar 14 Mawrth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.