‘’Swn i ddim yma onibai am y rhaglen 12 cam’
- Cyhoeddwyd
Ar ôl cyfnodau tywyll o ddibyniaeth ar alcohol ers ei harddegau, mae’r gyfarwyddwraig a’r awdures Iola Ynyr o Gaernarfon yn dweud mai rhaglen adferiad 12 cam wnaeth achub ei bywyd a’i helpu i dderbyn ei gorffennol.
Mewn hunangofiant newydd, Camu, mae Iola’n sôn am ei phlentyndod a'i thaith yn dod nôl at ei hun ar ôl cyfnod yn gaeth i'r botel.
Mewn sgwrs gyda Cymru Fyw, rhannodd Iola beth sy’ wedi ei ysbarduno i rannu ei stori.
Rhaglen adferiad
Roedd dilyn rhaglen 12 cam wedi newid bywyd yr awdures, fel mae’n cydnabod: “’Swn i ddim yma onibai amdano fo.
“Dyna sy’ wedi fy nghefnogi i yn symud ymlaen ac o’n i isho talu teyrnged i hynny mewn ffordd cynnil (yn y gyfrol).
“Dwi ddim yn meddwl bod ‘na gyfleon cyson i gydnabod fod pethau’n anodd. ’Da ni’n gorfod parhau – ac mae hynny’n wir i bawb, bod ni’n gorfod brwydro yn ein blaenau. Mae ’na ofynion arno ni, yn arbennig fel mamau.”
Poen
Fel rhan o’r rhaglen 12 cam, bu rhaid i Iola edrych ’nôl ar brofiadau anodd yn ei bywyd: “Un peth dwi’n ddiolchgar iawn yw drwy’r rhaglen 12 cam ’mod i wedi cael arweiniad ar sut i adlewyrchu ar fy hun ac i fod yn atebol am fy ymddygiad ond ar yr un pryd yn cydymdeimlo fod poen yn gallu cario dros genedlaethau.
Plentyndod
“Dwi’n cofio teimlo’n chwithig ac ddim yn teimlo mod i’n perthyn i lefydd ers mod i’n ifanc ond heb sylweddoli hwyrach gymaint o ran oedd alcohol (yn chwarae) yn rhyddhau fi o’r boen a’r gwewyr oedd gynna’i.”
Roedd Iola’n yfed alcohol ers ei harddegau ac mae’n dweud fod y teimlad o beidio perthyn yn nodwedd amlwg iawn ymysg pobl sy’n byw gyda dibyniaeth ond nad oedd cymorth ar gael ar y pryd: “Yn fy mhlentyndod i yn y 70au doedd ’na ddim ystyriaeth o ran iechyd meddwl na ymwybyddiaeth. Roedd plant hefyd yn dioddef o iechyd meddwl bregus fath â oedolion.
Poen
“Yn aml iawn mae ofn sy’n gysylltiedig â trawma yn annog ni i fygu cyfleon i drafod o. Profiad fi yw fod edrych ar brofiadau anodd yn ffordd o ryddhau’r boen os ni’n gwyro at gariad yn hytrach nag ofn. A bod ni’n cymryd cyfrifoldeb am ein hunain a bod ni ddim ofn edrych ar ein ymddygiad ein hunain ond wastad drwy gydymdeimlo.
“Fy mwriad i ydy trio dangos fod ffordd drwy unrhyw dywyllwch wrth afael mewn cariad yn hytrach nag ofn. Ac i leisio profiadau ella sy’ ddim yn cael eu trafod digon yn arbennig o safbwynt merch a mam a dibyniaeth a trio chwalu tabŵ ac agor cyfleon i bobl i ystyried eu patrymau byw nhw.”
Niwed
Un o’r camau anodd i Iola oedd derbyn y gorffennol a chydnabod ei rhan yn y niwed, meddai: “Dwi’n cydnabod bod fy ymddygiad i wedi niweidio lot o bobl ond be’ dwi wedi gorfod sylweddoli yw mai niweidio fi fy hun mae ’di neud.
“Ac mae hwnna wedi bod yn gam anodd o dderbyn beth sy’ wedi digwydd i fi efo tynerwch yn hytrach na beirniadaeth, mae ’di cymryd dipyn go lew o amser i fi ddechrau dod i weld mai troi at alcohol ’nes i achos bod rhaid i fi ladd y boen. Oedd dibynnu ar alcohol ddim yn gweithio dim mwy ac oedd yn niweidio fi a pobl o’m cwmpas i.”
Yn ôl yr awdures, un o’r digwyddiadau hynny sy' wedi bod yn allweddol yn ei adferiad oedd pan geisiodd Iola fynd i weld doctor i gael help gyda’i dibyniaeth a chafodd ei harestio am yfed a gyrru: “Dwi’n gallu edrych nôl ar hynny a bod yn ddiolchgar na chafodd neb ei anafu. Hwnna oedd y peth mwya’.
“’Sen i ’di gallu creu damwain a niweidio pobl ond dwi’n ddiolchgar dros ben am hynny. Dwi’n gallu gweld oedd hynny yn gam allweddol tuag at symud at adferiad i fi.
“Mynd i weld fy meddyg o’n i i gyfaddef mod i angen help – d’on i ddim yn gallu gwneud hynny heb yfed.”
Tabŵ
Ym mhrofiad Iola mae ’na tabŵ o hyd am fynegi breuder: “Dydan ni ddim yn tyrchu digon a’r rheswm ’da ni ddim yn tyrchu digon dwfn yw oherwydd mae ’na tabŵ am fynegi breuder.
“Be’ dwi’n gweld yw pan wyt ti’n bod yn fregus a gwneud hynny mewn awyrgylch diogel dyna pryd chi’n cael y cyswllt mwya’ anhygoel efo pobl.
“Efo fy alcoholiaeth i, nid sobrwydd ydy pegwn arall fy alcoholiaeth i ond cyswllt efo pobl.
“Bod ni jest yn gweld bod ’na bethau sy’n unigryw am bob un ohonon ni ond hefyd ’da ni’n rhyfeddol o debyg hefyd.
“Mae anghenion pawb yn debyg iawn pan 'da ni’n sbio at wraidd beth ’da ni angen – teimlo’n saff a theimlo bod ’na werth i ni.”
Sobrwydd
Erbyn hyn ’dyw alcohol ddim yn ran o fywyd Iola o gwbl: “Mae hwnna wedi ei ddatrys – does gynna’i ddim awydd i yfed a byddai’n dod at chwe mlynedd o sobri yr haf yma.
“Yr her mwya’ yw i sylwi ar sut ydw i yn y byd – sylwi ar beth ydy’n ymatebion i a cwestiynu yr ymatebion. Os dwi’n gallu bod yn glên efo fi fy hun dwi’n gallu bod yn yr un modd at bobl eraill.
“Mae’r byd naturiol yn chwarae rhan yn y llyfr, sut mae wedi dod a fi yn agosach at fy hun – y mwya’ ’da ni’n sylwi ar ni ein hunain y mwya’ ’da ni’n sylwi ar ein amgylchfyd. Mae o i gyd yn rhan o fyw yn oddefgar.
Neges Iola
“Mae Camu yn cyfeirio at bod fi ar gychwyn fy nhaith i adferiad – o’n i ‘di llorio, o’n i yn gam, o’n i wedi plygu, wedi cyrraedd pen draw.
“Ond fesul cam bach a drwy garedigrwydd pobl dwi wedi gallu camu ymlaen. Mae’n anhygoel sut mae pobl sy’ ddim yn teimlo bod nhw wedi cyfrannu fawr dim at fy nghefnogaeth i wir wedi ac mae’n bwysig cofio fod y caredigrwydd 'da ni’n gallu cynnig yn bwerus.”
Pynciau cysylltiedig
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2020
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2021