Dyn o Wynedd wedi ymosod ar ei wraig wrth iddi gysgu

Robert PinningtonFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Robert Pinnington wedi cael ei garcharu am dair blynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Wynedd a wnaeth ymosod ei wraig wrth iddi gysgu wedi cael ei garcharu am dair blynedd.

Roedd Robert Pinnington, 65, o'r Fron ger Caernarfon, wedi pledio'n euog i ymosod gan achosi niwed corfforol gwirioneddol, tagu bwriadol a bygythiadau i ladd.

Ar 1 Tachwedd y llynedd, wrth i'w wraig gysgu'n ei gwely, wnaeth Pinnington - frathu ei gwefus, gan achosi i'w cheg lenwi gyda gwaed, cyn ei thagu a bygwth ei lladd.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon bod ei wraig wedi llwyddo i ddianc ar ôl gweiddi ar ei merch am help.

Yn ogystal â'r cyfnod o garchar, fe dderbyniodd Pinnington orchymyn atal yn erbyn ei wraig am 15 mlynedd.

'Ymosodiad direswm'

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Jamie Atkinson: "Roedd hwn yn ymosodiad hynod dreisgar a direswm a fydd yn parhau cael effaith sylweddol ar y dioddefwr a'i theulu.

"Dwi'n gobeithio bydd y canlyniad hwn yn rhoi tawelwch meddwl fod cyfiawnder wedi cael ei gyflawni.

"'Da ni'n parhau mynd ati nodi troseddwyr trais domestig a byddwn yn ymchwilio unrhyw adroddiad yn llawn.

"Os 'da chi'n 'nabod rhywun sy'n dioddef trais domestig ac yn gallu cael y dewrder i ddod ymlaen, cysylltwch hefo ni neu siarad hefo Byw Heb Ofn."