Niferoedd isel Ysgol Gymraeg Llundain yn 'destun tristwch'

Disgyblion Ysgol Gymraeg Llundain
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o ddisgyblion Ysgol Gymraeg Llundain

  • Cyhoeddwyd

Mae Ysgol Gymraeg Llundain, dolen allanol yn dweud eu bod yn bryderus am y dyfodol ar ôl i nifer y disgyblion ostwng yn sylweddol.

Yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf roedd 25 o ddisgyblion yno, ond eleni mae'r nifer wedi disgyn i wyth.

Yn ôl yr ysgol, mesurau rheoli Covid a theuluoedd yn dychwelyd i Gymru wedi'r pandemig sy'n bennaf gyfrifol am y gostyngiad.

Er hynny, mae athrawes yn yr ysgol yn dweud ei bod yn parhau'n obeithiol am y dyfodol.

Mae'r ysgol - sy'n ardal Hanwell o orllewin Llundain - wedi bod yn darparu addysg Gymraeg yn y ddinas ers dros 60 mlynedd gan ddilyn cwricwlwm Cymru.

Mae hi bellach yn un o ddwy o'r ysgolion cynradd Cymraeg lleiaf sy'n bodoli.

Ysgol Felinwnda yng Ngwynedd ydy'r un arall, ac mae yna ansicrwydd am ddyfodol honno hefyd.

Yn ysgol annibynnol, mae'r ffioedd dysgu yn Ysgol Gymraeg Llundain ychydig dros £4,000 y flwyddyn.

Deuddydd yr wythnos mae grŵp babanod a phlant bach Miri Mawr Llundain hefyd yn cyfarfod yno.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Gymraeg Llundain wedi ei lleoli yn ardal Hanwell

'Testun tristwch bod ni'n colli'r plant'

Dywedodd Glenys Roberts, cadeirydd llywodraethwyr yr ysgol bod niferoedd wedi gostwng o'r blaen, ond eu bod "wedi medru codi fyny".

"Er enghraifft mi oedda ni yn 25 [o ddisgyblion] diwedd y llynedd... ond erbyn hyn da' ni dipyn yn is na hynny."

Eglurodd bod y cyfnod clo wedi effeithio ar deuluoedd wrth i rai aros yn lleol ac anfon eu plant i ysgolion cyfagos.

Disgrifiad o’r llun,

Cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Llundain ydy Glenys Roberts

Dywedodd hefyd bod plant blwyddyn chwech yn gadael, a nifer o deuluoedd yn symud yn ôl i Gymru wedi effeithio ar y niferoedd.

"Tra bod hynny'n destun llawenydd a llwyddiant i ni bod plant yn medru ymdoddi i mewn i addysg Gymraeg yng Nghymru, mae o'n destun tristwch bod ni'n colli'r plant," meddai.

Pan ofynnwyd iddi a oedd wyth o ddisgyblion yn gynaliadwy i'r dyfodol, dywedodd: "Mi yda' ni'n poeni am hynny. Mi fysa' ni'n licio mwy o blant.

"Da ni wedi bod yn is na hynny gyda llaw yn y 90au. 'Da ni'n gweithio'n galed i hyrwyddo'r ysgol."

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cefnogaeth ariannol i'r ysgol, gan ddarparu grant blynyddol o £90,000 y flwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lisa Medi yn athrawes yn Ysgol Gymraeg Llundain

Yn ôl Lisa Medi, athrawes yn yr ysgol ers dwy flynedd, mae bod yn rhan o gymuned fach yng nghanol Llundain yn deimlad "unigryw iawn".

"Ni'n lwcus iawn gan fod y dosbarthiadau yn llai mae gan bob plentyn sylw unigryw a bod ni'n gallu teilwra'r gwersi i anghenion y plant," meddai.

Dywedodd ei bod "obeithiol iawn" am y blynyddoedd nesaf.

"Ni'n gefnogol iawn fan hyn o'n gilydd ac yn gwneud llawer o waith i farchnata'r ysgol.

"'Da' ni'n bositif iawn yn edrych i'r dyfodol ac mae pawb yn mwynhau a dyna yw ein nod."

Pynciau cysylltiedig