Gwynedd: Trafod dyfodol ysgol sydd ag wyth o blant

  • Cyhoeddwyd
Ysgol FelinwndaFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Felinwnda wedi gwasanaethu cymunedau Saron a Dinas ers 1895

Bydd cynghorwyr yn cyfarfod wythnos nesaf i drafod dyfodol ysgol gynradd yng Ngwynedd sydd ag wyth disgybl ar y gofrestr.

Yn ôl adroddiad i gabinet y cyngor mae nifer y disgyblion sy'n mynychu Ysgol Felinwnda, yn Llanwnda, wedi gostwng yn sylweddol o 31 yn 2012.

O ganlyniad, yr argymhelliad fydd yn cael ei gyflwyno i'r cabinet ddydd Mawrth fydd cau ysgol leiaf y sir ar ddiwedd y flwyddyn addysg bresennol.

Y bwriad yw i'r disgyblion sy'n weddill i fynychu Ysgol Bontnewydd, ddwy filltir i ffwrdd, o fis Medi ymlaen.

'Niferoedd wedi gostwng yn sylweddol'

Er fod opsiynau eraill wedi'u hystyried gan swyddogion, gan gynnwys cadw'r ysgol ar agor neu ffederaleiddio gydag ysgolion cyfagos, yr argymhelliad yw i gau'r ysgol 125 oed fis Gorffennaf eleni.

Mae'r adroddiad yn nodi: "Ysgol Felinwnda yw'r ysgol leiaf yn y sir, gyda dim ond wyth o ddysgwyr.

"O ganlyniad, mae'r adran addysg yn cyflwyno'r adroddiad yma i'r Cabinet yn gofyn am ganiatâd i gynnal cyfnod gwrthwynebu statudol ar y cynnig i gau Ysgol Felinwnda."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod cau Ysgol Felinwnda wythnos nesaf

Mae "mwyafrif o blant y dalgych", medd yr adroddiad, "eisoes yn dewis mynychu ysgolion eraill".

Gan nodi fod niferoedd y disgyblion "wedi gostwng yn sylweddol ers 2018" ac "yn fregus ers peth amser", mae cost y pen ar gyfer pob disgybl yn Ysgol Felinwnda yn £14,643 i'w gymharu â chyfartaledd y sir o £4,509.

Ar hyn o bryd cyflogir pennaeth rhan amser - sydd hefyd yn gyfrifol am Ysgol Llandwrog - ac un athro llawn amser.

Cais i ohirio'r penderfyniad

Ond yn ei ymateb i'r adroddiad mae'r cynghorydd lleol yn gofyn am fwy o amser i drafod dyfodol yr ysgol, ac mai "nid digwyddiad bychan i'w gyflawni dros ychydig wythnosau yw cau ysgol".

Dywedodd y Cynghorydd Huw Rowlands: "Does dim gwadu mai Ysgol Felinwnda yw'r ysgol leiaf yng Ngwynedd, bod nifer y disgyblion wedi disgyn i 8 erbyn Ionawr 2023, a bod rhagamcanion y dyfodol yn fregus.

"Medraf felly ddeall bod Cyngor Gwynedd am ystyried dyfodol yr ysgol, Mae hyn yn rhesymol.

"Serch hynny, nid wyf o'r farn fod y broses statudol yr argymhellir fod y Cabinet yn ei ddilyn, sef i gyhoeddi Rhybudd Statudol ar Fawrth 28, er mwyn cau'r ysgol o 31 Awst 2023, yn broses fydd yn sicrhau cyfiawnder a thegwch i ddisgyblion, rhieni na chymuned yr ysgol.

"Ni rydd hyn unrhyw gyfle i randdeiliaid fod yn rhan o unrhyw drafodaeth na chynnig mewnbwn am ddyfodol yr ysgol.

"Gofynnaf felly i'r Cabinet ohirio'r penderfyniad i gyhoeddi rhybudd statudol, ac yn hytrach cynnal trafodaethau ac ymgynghoriad cyhoeddus yn gyntaf, cyn dod i benderfyniad pellach ar y mater."

Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod yr adroddiad yn eu cyfarfod ddydd Mawrth nesaf, 28 Mawrth.

Pynciau cysylltiedig