Aur i ddyn o Wynedd ym mhencampwriaeth para-saethyddiaeth y byd

Yn ôl Nick, doedd o byth wedi disgwyl y byddai'n ennill y teitl "pencampwr byd"
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Wynedd yn dweud ei bod yn "deimlad anhygoel" cipio medal aur ym Mhencampwriaeth Para-Saethyddiaeth y Byd yn Ne Corea.
Roedd Nick Thomas o Dalysarn yn Nyffryn Nantlle yn cynrychioli Prydain yn y gystadleuaeth yn Gwangju, gan ennill categori ar gyfer pobl gyda nam ar eu golwg.
"Nes i guro'r rownd derfynol dydd Sadwrn a dydy o dal ddim wedi suddo mewn... popeth rydw i wedi 'neud a be' mae'n ei olygu," meddai wrth BBC Cymru Fyw.
"Mae'n mynd i gymryd amser maith i fi gael fy mhen o gwmpas y peth."

Mae gan Nick Thomas gyflwr o'r enw Stargardt Macular Dystrophy, sy'n effeithio ar ei olwg
Mae gan Nick, 47, gyflwr o'r enw Stargardt Macular Dystrophy, ac mae wedi cofrestru'n ddall.
"Mae De Corea yn lle cyfeillgar ofnadwy ond roedd y gystadleuaeth yn ffyrnig iawn a phawb yno ar dop eu gêm," meddai Nick.
Tra'n cystadlu mae'n gweithio gyda spotter – rhywun sy'n esbonio ble mae'r saeth wedi glanio.
Brawd-yng-nghyfraith Nick, Tom Hutton, fu'n gwneud y rôl honno yn Ne Corea - gwlad lle mae saethyddiaeth yn boblogaidd iawn ac yn un o'r campau cenedlaethol.
Yn ôl Nick, roedd cystadlu gydag aelod o'i deulu yn gysur mawr.
"Y rhan mawr o rôl fel spotter, dydy pobl ddim yn meddwl amdano, ydy'r gefnogaeth emosiynol maen nhw'n rhoi.
"Fo sy'n siarad fi trwy popeth pan nad ydy pethau'n mynd yn dda.
"Mae mor braf gweld be' mae'r canlyniad yma'n ei olygu iddo fo, a gweld ei fod o'n teimlo'n rhan o'r tîm hefyd."

Yn y gystadleuaeth mae Nick (chwith) wedi cael Tom (dde) yn gweithio fel spotter iddo
Nid yw cystadlu ar lwyfan rhyngwladol yn brofiad newydd i Nick. Mae'n gyn-bencampwr Prydain yn y 100 metr a'r naid hir.
Yn ei yrfa saethyddiaeth mae hefyd wedi ennill medalau cenedlaethol a rhyngwladol, ond dyma'r tro cyntaf iddo gipio teitl pencampwr y byd.
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi i dros y blynyddoedd, ac am gymryd y baich oddi ar fy nghefn – yn enwedig fy nheulu i, a theulu Tom," meddai.
"Dydy o ddim yn beth hawdd cymryd wythnos i ffwrdd ar y tro i ddod i gystadleuaeth."
- Cyhoeddwyd20 Medi
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
Yn ôl Nick, mae'n bwriadu cymryd seibiant yn dilyn ei lwyddiant.
"Rydw i am fynd adref a chael egwyl fach am fis, i geisio cael fy mhen o gwmpas popeth sydd wedi digwydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf."
Ond yr her fawr nesaf yw pencampwriaethau para-saethyddiaeth Ewrop, sy'n digwydd yn Rhufain y flwyddyn nesaf.
"Hoffwn fod yn bencampwr y byd a phencampwr Ewrop ar yr un pryd – dyna'r cynllun nesaf," meddai Nick.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.