Medal arian i Gymraes ym Mhencampwriaeth Para-Nofio y Byd

Fe wnaeth Ela (chwith) orffen yn yr ail safle tu ôl i Carol Santiago o Frasil yn y gystadleuaeth 100m dull cefn
- Cyhoeddwyd
Mae'r nofwraig Ela Letton-Jones o'r Felinheli yng Ngwynedd wedi ennill medal arian i Brydain ym Mhencampwriaeth Para-Nofio y Byd yn Singapore.
Fe wnaeth hi orffen yn yr ail safle tu ôl i Carol Santiago o Frasil yn y gystadleuaeth 100m dull cefn.
Roedd y Gymraes 18 oed yn cystadlu ym Mhencampwriaethau'r Byd am y tro cyntaf - mae'n cystadlu mewn pum ras yr wythnos hon.
Wrth siarad ar Dros Frecwast ar Radio Cymru fore Llun dywedodd nad oedd wedi prosesu'r peth eto ond "unwaith dwi adra 'na i sylwi be' dwi 'di 'neud".

Mae gan Ela nam ar ei golwg sy'n golygu ei bod yn cystadlu yn y categori S12 pan yn nofio
"O'n i'n rili nerfus cyn rasio," meddai.
"Ma' 'na lot mwy o bobl yna, a dwi'n rasio yn erbyn goreuon y byd – rhywbeth hollol newydd."
Ond, "unwaith o'n i yn y pwll o'n i'n iawn," ychwanegodd.
"Roedd pawb yn gwylio adra' - o'dd ffôn fi'n mynd yn nuts ar ôl y ras!"
Dydd Llun bydd Ela yn cystadlu yn y 100m dull pili pala , wedyn 50m dull rhydd, 100m dull rhydd a 200m dull cymysg i orffen yr wythnos.
Fe ddechreuodd Ela nofio pan oedd yn bump oed, cyn mynd yn ei blaen i ymuno â Chlwb Nofio Caernarfon.
Yn ystod ei harddegau fe gafodd ei dewis i fod yn rhan o garfanau Nofio Cymru a Nofio Gwynedd.
Mae gan Ela nam ar ei golwg sy'n golygu ei bod yn cystadlu yn y categori S12 pan yn nofio.
"S12, mae 'na dri categori i bobl gyda nam golwg. S11 ydi'r mwyaf eithafol ac S13 ydi'r lleiaf eithafol, a dwi yn y canol," ychwanegodd Ela.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi