Cyn-bencampwr 100 metr yn anelu am aur mewn para-saethyddiaeth

Nick Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Nick Thomas gyflwr o'r enw Stargardt Macular Dystrophy, sy'n effeithio ar ei olwg

  • Cyhoeddwyd

"Dwi'n teimlo yn reit hyderus i fod yn onest."

Geiriau Nick Thomas, 47, o Dalysarn yn Nyffryn Nantlle, wrth iddo baratoi i deithio i Dde Corea i gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaethau Para-Saethyddiaeth y byd.

Yn gyn-bencampwr Prydain yn y 100 metr a'r naid hir, mae e bellach yn canolbwyntio ar saethyddiaeth ac yn anelu am yr aur yn Gwangju.

"Ro'n i 'di bod yn g'neud chwaraeon eraill am gyfnod hir o 'mywyd, ond wedi gorfod rhoi'r gorau iddi trwy anafiadau a phethau fel'na," meddai Nick.

"Ar ôl mynd trwy gyfnod o beidio gwneud dim byd a dechrau cael ychydig o broblemau efo iechyd meddwl - achos bod gen i ddim byd i gadw'n meddwl oddi wrth beth oedd yn digwydd efo 'ngolwg i - nes i ddechrau chwilio am bethau gwahanol i 'neud.

"Nes i drio dau neu dri o chwaraeon gwahanol ac un o'r rheiny oedd saethyddiaeth, ac o'r diwrnod cyntaf nes i drio fo 'naeth o just tynnu fi fewn."

'Colli pethau mewn black hole'

Mae gan Nick gyflwr o'r enw Stargardt Macular Dystrophy, sy'n effeithio ar ei olwg.

"Mae'r macular sy' reit yng nghanol fy llygad wedi marw, so mae'r golwg fwy neu lai yn marw o'r canol allan.

"Dwi 'di colli rhan fwya' o ganol 'y ngolwg i.

"Mae'r golwg ar yr ochr - y peripheral - yn aros heb 'di effeithio, ond y broblem efo hwnnw ydy mai'r macular yn y canol sy'n rhoi'r manylder yn bob dim i fi.

"So, os dwi'n sbïo yn syth at rywbeth, dwi'n gallu colli fo mewn black hole – mae pethau yn dissappeario i mewn yn y black hole ac wedyn y golwg sy' gen i rownd y tu allan."

Nick Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Y ffordd o ddod o gwmpas nam golwg o fewn saethyddiaeth, ydy "defnyddio tactile sights", medd Nick

Sut felly mae'n dygymod â champ lle mae annel yn allweddol?

Dywedodd Nick fod "pawb yn gweld saethyddiaeth fel chwaraeon sydd angen golwg da i anelu at y targed".

"Y ffordd 'da ni yn dod rownd hwnna fel saethyddwyr efo nam golwg, ydy defnyddio tactile sights – be mae hwnnw'n g'neud ydy sicrhau bo' fi'n sefyll yn y lle iawn drwy'r adeg.

"Pan dwi'n codi'r bwa i fyny - bod y tactile yn gorffwys ar gefn fy llaw, i wneud yn siŵr bo fi'n anelu i lawr at y targed yr un ffordd bob tro."

'Dwi ddim yn gweld ble mae'r saethau yn glanio'

Yn sefyll rhyw fetr y tu ôl iddo wrth gystadlu mae unigolyn sy'n disgrifio lle mae'r saeth yn glanio - y 'spotter'.

"Oherwydd bo' fi ddim yn gweld y targed pan dwi'n saethu, dwi ddim yn gweld ble mae'r saethau yn glanio ar y targed – felly job y spotter ydy gadael i fi wybod lle mae'r saeth yn glanio," meddai Nick.

"Dwi'n gallu gwneud yr addasiadau ar y tactile - ei symud o i'r chwith neu dde i weld be' dwi angen gwneud i ffeindio'r canol."

Yn ôl Nick mae'n fraint cael cystadlu yn Ne Corea, lle mae'r gamp yn boblogaidd iawn.

Mae eu hathletwyr yn gyson yn ennill medalau yn y gemau Olympaidd a Pharalympaidd.

Beth felly yw'r gobeithion?

"Dwi'n teimlo'n reit hyderus i fod yn onest – dwi 'di bod yn saethu yn gryf ofnadwy dros y misoedd diwethaf.

"Dwi newydd fod i ffwrdd mewn cystadlaethau ym Mhrydain – yn y British Outdoor Championships a National Disability Championships a 'di dod o 'na efo dwy fedal aur.

"So, dwi'n teimlo'n reit hyderus ac yn edrych ymlaen at yr her."

Mae Nick yn un o naw fydd yn cynrychioli Prydain ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Gwangju rhwng 22 a 28 Medi.

Yn cynrychioli Prydain hefyd mae'r Gymraes a'r pencampwr Paralympaidd, Jodie Grinham.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig