Calan Gaeaf: Pwmpenni oren yn troi’n las am awtistiaeth
- Cyhoeddwyd
Bydd bachgen chwech oed yn defnyddio bwced las wrth fynd o dŷ i dŷ y Calan Gaeaf hwn er mwyn codi ymwybyddiaeth bod ganddo awtistiaeth.
Nos Fawrth bydd miloedd o blant a theuluoedd yn cnocio drysau ar noson Calan Gaeaf, ond mae'n gallu bod yn gyfnod heriol i blant niwro-amrywiol.
Mae Noa o Bwllheli yn awtistig ac yn ddilafar, ac yn ôl ei fam Sophie Underwood-Jones mae rhai pobl yn credu ei fod yn “ddigywilydd".
“Dydi pethau ddim 'di bod yn rhy grêt, i fod yn onest," meddai.
“Mae yna adegau ‘di bod lle 'dan ni ‘di mynd efo ffrindiau bach Noa a ma' nhw’n gweiddi 'trick or treat' yn y drysau ac yn cael eu fferins.
"Ond ar rhai adegau am fod Noa yn ddilafar - 'di o methu d'eud dim, na diolch."
Dywedodd Sophie fod hyn wedi arwain at sefyllfaoedd anghyfforddus yn y gorffennol, a bod pobl ddim yn deall.
“Mi fydda i yn siarad drosto fo ac yn dweud diolch ac yn arwyddo 'chydig efo fo," meddai.
"Ond dwi 'di cael profiadau lle mae pobl yn d'eud sylwadau bach reit annifyr, sy’n drist i fi fel ei fam.
“Mae’n anodd derbyn weithiau a dwi’n cael - 'o naeth y bachgen yna ddim deud diolch 'wan' neu 'wyt ti am ddeud wbath rŵan i chdi gael fferins?”
“Mae hynna’n anodd. Dwi’m yn licio gorfod egluro bod o’n awtistig a bod o’n ddi-lafar.
"'Dan ni’n byw yn y flwyddyn 2023 a dwi’n meddwl fod o mor bwysig bod pobl ddim yn barnu a bod ni jest yn derbyn fod y plentyn yna - ella bod ganddo iaith - ond 'di o'm isio siarad."
Yn ôl elusen y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, dolen allanol mae un o bob 100 o blant gydag awtistiaeth, ac mae Calan Gaeaf yn gallu bod yn anodd i rai sy’n sensitif i newid yn nhrefn eu diwrnod, sŵn a golau.
Tips y gymdeithas am Galan Gaeaf cyfeillgar i blant ag awtistiaeth
Crëwch eich hwyl eich hun adref - does dim rhaid mynd allan;
Dewiswch wisg sy'n gyfforddus, neu sy'n golygu rhywbeth i'r plentyn;
Gallwch drefnu o flaen llaw eich bod yn mynd i lond llaw o gartrefi penodol.
“Mae Noa wrth ei fodd yn cael mynd i bartis felly mae’n braf cael addurno’r tŷ,” meddai Sophie.
“Fo ydi’r cyntaf i sylweddoli bod yna wbath yn wahanol yn yr ystafelloedd fel goleuadau gwahanol, a mae o wrth ei fodd efo pethau sensory.
"Dwi 'di g'neud ers o'dd o’n fabi - dwi 'di bod yn mynd â fo o gwmpas yn trick or treatio a mynd â fo i bartïon lleol."
'Dim stigma'
Draw yn yr Unol Daleithiau, mae bwcedi glas yn cael eu defnyddio yn rheolaidd fel arwydd bod gan blentyn awtistiaeth, ac mae Sophie yn gobeithio y byddan nhw yr un mor boblogaidd yma yn y dyfodol.
“Ar Facebook weles i nhw 'chydig fisoedd yn ôl - gweld bod Walmart yn America yn gwerthu bwcedi glas," meddai.
“Dyma fi’n darllen mwy iddo fo a phenderfynu 'reit dwi’n mynd i brynu rhain a rhannu fel bod pobl yn ymwybodol ohonyn nhw'.
“Dwi isio pobl siarad a sôn am y bwcedi glas fel bod y plant bach ma’n cael eu derbyn, fel bod yna ddim stigma lle ma' pobl yn deud sylwadau bach, sy’n gallu bod yn anodd iawn i ni fel teulu ei dderbyn.
“I mi fel mam, dwi isio fy mhlentyn gael gweld y byd a chael bob profiad posib, a’i fod yn hapus ac yn saff."
Ychydig fisoedd yn ôl fe wnaeth y teulu ddechrau tudalen Instagram i godi ymwybyddiaeth a rhannu profiadau Noa, fel gwers nofio synhwyraidd yn y ganolfan hamdden leol, ymweliad gyda’r deintydd a’i daith gyntaf ar awyren.
“Mae’r ymateb i’r dudalen wedi bod yn ffantastig,” meddai Sophie.
“Dwi 'di cael gymaint o bobl yn dilyn a gyrru negeseuon i mi.
"Mae’n braf cael cwrdd â rhieni sy’n mynd drwy union 'r un peth achos pen yma 'dan ni’n eitha’ lwcus - mae pethau yn dechrau gwella i’n plant bach ni.
"Mae yna gymaint mwy ar gael yma, ond mae isio mwy hefyd.
“Pan 'dach chi’n sôn am ochr arall y byd, fel America - maen nhw flynyddoedd ar y blaen i ni."
Un ysgol anghenion arbennig sy’n croesawu’r bwcedi glas ydi Ysgol Pendalar yng Nghaernarfon.
Yn ôl y pennaeth Bethan Morris-Jones: “Mae’r disgyblion wrth eu boddau, jest efo’r hwyl.
"Ma' bob dosbarth 'di bod wrthi’n brysur yn addurno a rydan ni wedi cael bingo a disgo Calan Gaeaf.
“Mae’r bwcedi yn grêt, achos i unrhyw deulu sydd efo disgybl efo anghenion dysgu ychwanegol ma’n anodd weithiau mynd allan at y cyhoedd a gneud petha' cyhoeddus.
"Felly mae’r rhain yn arwydd heb orfod d'eud dim byd 'mae gan fy mhlentyn awtistiaeth', a wnewch chi ddeall, os ydyn nhw ddim yn d'eud diolch, dydyn nhw ddim yn golygu hynny.”
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2023