Yr arwres o Gymru a wynebodd y Gestapo heb ofn
- Cyhoeddwyd
Pan briododd Mabel Philips o Gasnewydd ei chariad, Max Wulff o'r Almaen, yn 1909, doedd y cwpl ifanc heb ragweld yr heriau fyddai'n siapio eu dyfodol.
Dros y degawdau canlynol roedd Mr a Mrs Wulff yn elynion gwleidyddol yng ngwledydd ei gilydd wrth i ddau ryfel byd newid popeth.
Ond wrth fyw yn yr Almaen gyda Hitler wrth y llyw a'r Gestapo ar y strydoedd, doedd Mabel, oedd yn fam i ddau, ddim yn barod i fod yn dioddefwraig.
Nawr mae ei ŵyr, Eddie Wulff o Gasnewydd, eisiau i'r byd wybod am ddewrder ei fam-gu - Cymraes falch oedd wedi sefyll yn gadarn yn erbyn y Natsïaid.
- Cyhoeddwyd26 Medi
- Cyhoeddwyd2 Mehefin
- Cyhoeddwyd13 Hydref
“Mae hi’n rhan o hanes – hanes Casnewydd a hanes Hamburg,” meddai Eddie.
“Ond mae’n ymddangos mai ychydig iawn yng Nghymru sy’n gwybod amdani. Roedd hi’n wych.”
Mae Eddiw Wulff, sydd bellach yn 82 oed, wedi treulio blynyddoedd gyda'i deulu yn ceisio gosod darnau jig-so bywyd ei fam-gu yn eu lle.
Ei obaith trwy rannu ei hanes yn gyhoeddus yw bod pobl yn deall ei chyfraniad tawel a dewr yn ystod cyfnod o ddioddef.
Fe benderfynodd Max a Mabel Wulff ddechrau teulu yn eu cartref yng Nghasnewydd.
Yn 1911 ganed eu mab Edward a dwy flynedd yn ddiweddarach daeth ail fab - Leonard.
Ond wrth i'r Rhyfel Byd Cyntaf rwygo tir mawr Ewrop, cafodd Max o'r Almaen ei weld fel gelyn gwleidyddol, ac fe dreuliodd y blynyddoedd nesaf wedi ei gaethiwo.
Fe ddaeth y rhyfel i ben, ond gyda'r cadoediad daeth y newyddion hefyd y byddai Max yn cael ei yrru yn ôl i'w famwlad, gan adael ei wraig a'i blant yng Nghymru.
Aeth bywydau Mabel a'i bechgyn yng Nghymru yn fwyfwy anodd, meddai Eddie.
“Roedd yna lawer o deimladau gwrth-Almaenig yng Nghasnewydd," meddai.
"Fe wnaethon nhw ofyn i Mabel a fyddai hi'n ysgaru Max oherwydd ei fod yn Almaenwr - gwrthododd hi wneud hynny."
Roedd yn deimlad y mae Eddie ei hun yn ei gofio - bod yn yr ysgol yng Nghasnewydd ar ddiwedd y 1940au, a chael ei alw’n ‘Natsi’ a ‘Gestapo' oherwydd ei gyfenw.
“Mae'n rhaid eu bod nhw wedi ei chael hi hyd yn oed yn waeth,” meddai Eddie.
Yn benderfynol o amddiffyn ei meibion, fe symudodd Mabel i Hamburg i ymuno â'i gŵr, gan weithio fel gofalwr yn eglwys Saesneg y ddinas.
“Gaethon nhw gymaint o drafferth – roedd pob cam o’u bywyd wedi bod yn galed,” meddai Eddie.
Erbyn y 30au, gydag Adolf Hitler yn arwain yr Almaen, daeth y drafferth i'r amlwg unwaith yn rhagor.
Dechreuodd y rhyfel, gyda Mabel fel Cymraes mewn eglwys Anglicanaidd yn denu nifer o ymweliadau gan y Gestapo.
“Dywedodd eu bod yn wirioneddol gas," meddai Eddie.
"Roedden nhw bob amser yn chwilio am faner yr Undeb a baner y Lleng Brydeinig yr oedd Mabel wedi’i chuddio o dan yr allor.
“Roedden nhw'n bownsio o gwmpas, gan ofyn ble oedd y pethau hyn.”
Fel dinas borthladd allweddol, targedwyd Hamburg gan gyrchoedd bomio parhaus, yn fwyaf nodedig yn ystod Ymgyrch Gomorrah ym 1943.
Gan ragweld hyn, cuddiodd a storiodd Mabel rai o'r paentiadau a'r engrafiadau hardd o'r eglwys, gan eu hachub rhag difrod.
Roedd yn ymddangos nad oedd unrhyw beth na fyddai’n ei wneud i amddiffyn yr adeilad yn ystod y cyrchoedd, gan roi ei bywyd mewn perygl.
“Fe wnaeth hi ddiffodd tanau, aeth o gwmpas a’u mygu a chael dŵr a’u diffodd sawl gwaith. Achubodd yr eglwys,” meddai Eddie.
Fe wnaeth hi hefyd adael i deuluoedd, oedd wedi eu dadleoli gan y bomiau, gysgodi yn yr eglwys - gan dynnu sylw'r Gestapo unwaith eto.
“Roedd hi’n berson da. Roedd hi'n aruthrol," meddai Eddie.
Ar ddiwedd y rhyfel, fe aeth Mabel â baner yr Undeb yr oedd hi wedi’i chuddio o dan yr allor, a’i gosod dros falconi’r eglwys wrth i filwyr Prydain ddod i mewn i’r ddinas.
Cafodd dewrder Mabel ei gydnabod gan swyddogion yr Eglwys Anglicanaidd yn 1947, wnaeth ddiolch iddi am y “perygl personol mawr” y rhoddodd ei hun ynddo.
Yn 1956 enillodd Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig am ei gweithredoedd.
Er i Mabel ddychwelyd i Gasnewydd yn ei blynyddoedd olaf a byw gydag Eddie a’i deulu pan oedd e'n blentyn, doedd llawer o’i hanes ddim yn hysbys tan yn gymharol ddiweddar.
“Rwy'n falch iawn ohoni," meddai Eddie.
"Dwi yn fy 80au nawr a dwi jest yn sylweddoli pa mor bwysig oedd fy mam-gu."