Cyhuddo dyn o ddynladdiad dyn 22 oed yn Llanelli
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 39 oed o Lanelli wedi cael ei gyhuddo o ddynladdiad yn dilyn marwolaeth dyn arall yn y dref fis diwethaf.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i fflat ar Heol Robinson y dref yn yr oriau mân y bore ddydd Sadwrn, 25 Mawrth, yn sgil pryder am les dyn yno.
Fe gafodd Liam Rhys Morgan-Whittle, 22, ei gludo i'r ysbyty ond bu farw yno'n ddiweddarach.
Cafodd Jason Thomas ei arestio yn fuan wedi'r digwyddiad a'i ryddhau ar fechnïaeth amodol tra bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau.
Mae bellach wedi cael ei gyhuddo o ddynladdiad, ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ddiwedd Mai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2023