Lluniau: Dydd Iau Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Ar bedwerydd diwrnod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd cafwyd cyfle i groesawu disgyblion ysgolion Uwchradd, anrhydeddu gwirfoddolwyr, uno cerddorfeydd proffesiynol ag offerynwyr y dyfodol a chadeirio bardd!

Dyletswyddau'r llywydd: Aeron Pughe yw Llywydd y Dydd

Pêl-fasged neu bêl-fwd? Caron, Gwern a Wil o'r Bala yn mwynhau chwarae ger y Gwyddonle

Perfformiad band pres ar stondin Cerddorion Ifanc Maldwyn

Branwen Davies a Betsan Lewis o Gwmni Theatr Ieuectid yr Urdd fu'n cyhoeddi eu sioe nesaf "Ble mae trenau'n mynd gyda'r nos a chwestiynau mawr eraill bywyd" Bydd y sioe yn mynd ar daith o amgylch Cymru dros yr haf

Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd 2025, Laurel Davies. Enwyd yr eisteddfod yn Eisteddfod Dur a Môr Margam a'r Fro i nodi hanes diwydiannol a lleoliad arfordirol y fro.
Gwobrwyo gwirfoddolwyr

Anti Menna: enillodd Menna Williams o Langernyw Dlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled am ei chyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru drwy ei gwaith gwirfoddol yn hyfforddi cenedlaethau o blant am dros 50 mlynedd

Gweithdy Prosiect Animeiddio Llednentydd yn y babell Celf, Dylunio a Thechnoleg. Bydd gwaith y plant a phobl ifanc yn y gweithdai hyn yn creu cynrychiolaeth animeiddiedig o afonydd Banwy, Fyrnwy a Thanat
Parêd Samba Mistar Urdd

Amit a Saanvi o Brestatyn ac Ysgol Bodnant yn edrych ymlaen i gael gorymdeithio ar y Maes!

Barod i orymdeithio efo Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru

Disgyblion Ysgol David Hughes, Porthaethwy ac Ysgol Friars, Bangor yn adran y chwythbrennau mewn perfformiad arbennig o Hei Mistar Urdd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymraeg y BBC

Degau o ddisgyblion yn creu cerddorfa newydd yn Yr Adlen
Teilyngdod yn seremoni'r Gadair

Lois Medi Wiliam yw enillydd Cadair Eisteddfod Maldwyn 2024 am ei cherdd Gwrthryfela

Lois Medi Wiliam, prifardd Eisteddfod yr Urdd 2024 yn gadael y Pafiliwn Gwyn

Cerdd fuddugol Lois ynghyd â gweithiau buddugol eraill yr Eisteddfod
Pynciau cysylltiedig
Mwy o Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd28 Mai 2024
- Cyhoeddwyd30 Mai 2024
- Cyhoeddwyd30 Mai 2024